Pryd i ddefnyddio gwerthusiad hewristig
Gall hyn fod yn ddefnyddiol i ddysgu am faterion adnabyddus, er enghraifft:
- materion cynnwys (defnydd o “cliciwch yma” a “darllen mwy”)
- problemau hygyrchedd (megis gwirio am gyferbyniad lliw) gan ddefnyddio teclyn sy’n amlygu problemau yn awtomatig ar gyfer dyfeisiau neu borwyr
Ni ddylech ddefnyddio’r math hwn o brofi os nad oes gennych chi’r arbenigwyr cywir i arwain a chwblhau’r profi
Byddwch yn ymwybodol nad yw’r profi hwn byth cystal â phrofi gyda phobl go iawn.
Dim ond ychydig o adborth a gewch chi ar y rhyngwyneb a’r cynnwys wrth brofi blwch gwirio gan ddefnyddio dull hewristig. Ni fydd yn rhoi cipolwg i chi ar brofiad cyffredinol y defnyddiwr.
Dysgu mwy am werthusiadau hewristig
- ‘Heuristic Evaluation’ gan Interaction Design Foundation
- ‘How to Conduct a Heuristic Evaluation‘ gan y Nielsen Norman Group
- ‘10 Usability Heuristics for User Interface Design‘ gan y Nielsen Norman Group
- ‘Your Step-by-Step Guide to Heuristic Evaluation in UX Design‘ gan Career Foundry
- ‘Heuristic Evaluation’ ar Wikipedia