Trosolwg

Nid oes cyfnod cymharu uniongyrchol gan fod CDPS yn sefydliad cymharol newydd, a dyma ein blwyddyn gyntaf o adrodd.

Er nad yw’n ofynnol i CDPS adrodd ar ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau, credwn ei bod yn bwysig gweithio yn yr agored, ac ymdrechu i hyrwyddo cynwysoldeb ym mhob agwedd.

Rydym yn cadarnhau bod y data am fwlch cyflog rhwng y rhywiau yn yr adroddiad hwn yn gywir, ac wedi’i lunio’n unol â’r canllawiau a gyhoeddwyd ar GOV.UK.

Nid diben y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw tynnu sylw at unrhyw anghydbwysedd o fewn cyflog cyfartal mewn rolau cyfartal, ond rhoi cymhariaeth o’r cydbwysedd rhwng dynion a menywod o fewn ein strwythur gradd gyflog fewnol.

Mae’r adroddiad hwn yn amlygu mai ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw -20.68%.

Fel sefydliad rydym yn falch bod ein ffigurau ymhell islaw cyfartaledd y DU cyfan o 8.3% yn 2021/22, ond yn cydnabod bod angen i ni gadw cydbwysedd yn y dyfodol. 

Ein staff

Cyfanswm y bobl a gyflogwyd ym Mawrth 2022 oedd saith, gyda 71% yn fenywod.

Wrth adolygu’r cymarebau chwartel, mae menywod yn llenwi 100% o’r swyddi sy’n talu uchaf, 100% o’r swyddi sy’n talu isaf, a 50% o’r swyddi â chyflogau is i ganolig. 

Recriwtio

Fel sefydliad rydym yn penodi ar sail teilyngdod ac rydym yn canolbwyntio ar y ddawn a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl.

Rydym yn sicrhau bod ein prosesau recriwtio yn dileu rhagfarn annheg. Rydym yn defnyddio cyfweliadau strwythuredig, gan rannu cwestiynau ag ymgeiswyr saith diwrnod cyn y cyfweliad, a phanel wedi’i rannu rhwng y rhywiau i sicrhau bod ymgeiswyr yn gallu gwneud y gorau o’u perfformiad.

Yn ystod ein proses recriwtio rydym yn cydnabod anghenion amrywiol y gwahanol aelodau o’n gweithlu, a’n hegwyddorion sylfaenol yw sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant yn cael eu gwreiddio ar draws CDPS.

Bwlch cyflog cyfartalog

Mae’r bwlch cyflog cymedrig yn cael ei gyfrifo drwy adio cyflog fesul awr yr holl fenywod mewn sefydliad a’i rannu â nifer y menywod, gan wneud yr un swm ar gyfer y dynion, yna cymharu’r ddau ffigur.

Rhyw Tâl cymedrig yr awr
Dynion £30.00
Benywod £36.21

Mae cyflog cymedrig dynion 20.68% yn is na menywod.

Mae’r bwlch cyflog canolrifol yn cael ei gyfrifo drwy ganfod yr union bwynt canol rhwng y fenyw ar y cyflog isaf ac uchaf mewn sefydliad, a’r gwryw sy’n derbyn y cyflog isaf ac uchaf, yna’n cymharu’r ddau ffigwr i gyfrifo’r gwahaniaeth mewn cyflogau. 

Rhyw Tâl canolrif yr awr
Dynion £30.00
Benywod £38.46

Mae cyflog canolrifol dynion 28.2% yn is na chyflogau menywod.

Chwartelau cyflog

Mae’r ganran uchel o staff benywaidd i wrywaidd yn ystumio’r gymhariaeth chwartel-i-chwartel.

Cymhareb y staff benywaidd i wrywod yw 5:2 ar gyfer y cwmni cyfan. Fodd bynnag, fel sefydliad mae menywod yn llenwi 100% o’r swyddi sy’n talu uchaf, 100% o’r swyddi sy’n talu isaf a 50% o’r swyddi sy’n talu’n is i ganolig.

Tabl yn dangos chwartelau tâl (%) Mawrth 2022:

  Benywod Dynion
Uchaf 100 0
Canol uchaf 50 50
Canol isaf 50 50
Chwartel isaf 100 0