Cyflwyniad
Er ein bod yn gwybod bod budd-daliadau Cymru yn hanfodol bwysig i filoedd o bobl yng Nghymru, rydym hefyd yn gwybod nad yw llawer o bobl yn eu hawlio o hyd. Mae’r prosiect Symleiddio Budd-daliadau Cymru yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol i annog pobl yng Nghymru i hawlio pob punt y mae ganddynt yr hawl iddi.
Rydym yn gwybod ei bod hi’n anodd i lawer o bobl gael gafael ar y budd-daliadau y mae ganddynt yr hawl iddynt. Mae hyn yn arbennig o wir am bobl sy’n perthyn i grwpiau a ymyleiddiwyd. Yn aml, mae angen i aelwydydd wneud sawl cais am wahanol fudd-daliadau, gan greu rhwystrau i grwpiau incwm isel ac sydd wedi’u hymyleiddio. Mae prosesau budd-daliadau presennol yn gymhleth gyda meini prawf cymhwysedd amrywiol ac anghyson, sy’n ei gwneud yn anoddach fyth i ddeall a llywio’r system fudd-daliadau ac, yn y pen draw, yn lleihau nifer y bobl sy’n manteisio arni.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod budd-daliadau Cymru yn cael eu gweinyddu mewn ffordd dosturiol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi’i seilio ar hawliau, fel yr ategir gan egwyddorion Siarter Budd-daliadau Cymru.
Cefndir
Ffurfiodd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol bartneriaeth â Llywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd o wneud system fudd-daliadau Cymru yn haws ei defnyddio ac yn fwy cynhwysol ar yr un pryd â chynyddu incwm i bobl yng Nghymru i’r eithaf.
Trwy gamau gwaith blaenorol, gwelsom mai’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yw’r rhai sy’n aml yn colli’r cyfle i gael cymorth ariannol hollbwysig, gan ddyfnhau cylchoedd tlodi ac anfantais.
Prin yw’r ddealltwriaeth ar hyn o bryd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru o sut mae pobl a ymyleiddiwyd yn llywio’r broses gyfan o gael gwybod am y tri budd-dal sydd wedi’u datganoli yng Nghymru (sef Prydau Ysgol am Ddim, y Grant Hanfodion Ysgol a Gostyngiadau’r Dreth Gyngor), gwneud cais amdanynt, a chael cymorth ganddynt, yn ogystal â budd-daliadau eraill.
Heb ddealltwriaeth glir o brofiadau bywyd pobl a ymyleiddiwyd a’r rhwystrau sy’n eu hwynebu, ni ellir gwella system fudd-daliadau Cymru mewn ffordd ystyrlon sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Cytunwyd bod angen gwneud gwaith ymchwil defnyddwyr gyda phobl o grwpiau a ymyleiddiwyd fel y gellid deall eu profiadau penodol o system fudd-daliadau Cymru a’r heriau a’r rhwystrau sy’n eu hwynebu, ac ymgorffori’r rhain wrth ddylunio system fudd-daliadau well ar gyfer Cymru.
Nodau ac amcanion y gwaith ymchwil
Trwy ein hymchwil defnyddwyr gyda phobl o grwpiau a ymyleiddiwyd, ein nod oedd:
- cael dealltwriaeth drylwyr o brofiadau bywyd ac anghenion pobl o gymunedau difreintiedig neu sydd wedi’u hymyleiddio yng Nghymru wrth iddynt lywio’r system fudd-daliadau bresennol
- amlygu’r heriau a’r rhwystrau allweddol sy’n atal pobl o gymunedau difreintiedig neu sydd wedi’u hymyleiddio rhag cael at y cymorth ariannol maen nhw’n gymwys iddo
- deall sut mae pobl o gymunedau difreintiedig neu sydd wedi’u hymyleiddio yn profi Prydau Ysgol am Ddim, y Grant Hanfodion Ysgol a Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar hyn o bryd ac archwilio cyfleoedd i wella eu profiadau o’r budd-daliadau hyn.
Cwmpas y gwaith ymchwil
O ganlyniad i raddfeydd amser tynn y prosiect ymchwil hwn, cytunodd Tîm Craidd y prosiect y dylai’r gwaith ymchwil ganolbwyntio ar y grwpiau defnyddwyr blaenoriaethol canlynol:
- gofalwyr (rhywun sy’n gofalu am oedolyn arall neu blentyn anabl neu sy’n ei gynorthwyo)
- rhieni sengl
- pobl anabl (gan gynnwys y rhai hynny â chyflyrau iechyd meddwl, amhariadau corfforol, ac anghenion dysgu ychwanegol)
- pobl heb Hawl i gyllid cyhoeddus
- pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol
Er yr ystyriwyd grwpiau eraill a ymyleiddiwyd, penderfynwyd nad oeddent o fewn cwmpas y rownd ymchwil hon.
Bydd y gwaith ymchwil hwn yn canolbwyntio ar brofiadau pobl o’r tri budd-dal sydd wedi’u datganoli i Gymru, ond byddwn hefyd yn ceisio deall profiad pobl o’r system fudd-daliadau yn fwy cyffredinol, oherwydd bydd llawer o’r wybodaeth hon yn drosglwyddadwy i fudd-daliadau Cymru.
Bydd ein proses sgrinio recriwtio yn sicrhau bod pawb sy’n cymryd rhan yn y gwaith ymchwil yn gymwys i gael un neu fwy o fudd-daliadau Cymru, hyd yn oed os nad ydynt yn eu derbyn ar hyn o bryd.
Er y ceisiwn gynnal ymchwil gyda defnyddwyr gwasanaeth go iawn, bwriadwn ei chynnal hefyd gyda defnyddwyr dirprwyol (gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n agos gyda grwpiau a ymyleiddiwyd) a all ategu ein dealltwriaeth â gwybodaeth lefel uchel.
Canlyniadau targed
Dylai cwblhau’r gwaith ymchwil hwn ein galluogi i:
- Ddarparu dadansoddiad manwl o sut mae pobl agored i niwed yn profi system fudd-daliadau Cymru ar hyn o bryd
- Datblygu argymhellion i wneud Prydau Ysgol am Ddim, y Grant Hanfodion Ysgol, a Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn fwy hygyrch, effeithlon, a chefnogol
- Ychwanegu at wybodaeth bresennol trwy ddyfnhau ein dealltwriaeth o’rheriau bywyd go iawn sy’n wynebu pobl wrth gael at gymorth yng Nghymru
Yr hyn a wnaethom
Yn ystod y prosiect ymchwil hwn, cynhaliwyd gwaith ymchwil gyda 31 o bobl o grwpiau a ymyleiddiwyd a oedd yn defnyddio gwasanaethau budd-daliadau a 10 defnyddiwr dirprwyol.
Mae nifer y bobl y cynhaliwyd gwaith ymchwil gyda nhw sy’n cynrychioli gwahanol grwpiau a ymyleiddiwyd fel a ganlyn:
- gofalwyr - 5
- pobl anabl - 6
- pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol - 15
- pobl heb hawl i gyllid cyhoeddus - 3
- rhieni sengl- 2
Mae’n bwysig nodi bod y ffigurau hyn wedi’u seilio ar y grŵp a ymyleiddiwyd yr oedd y bobl hyn yn uniaethu ag ef fwyaf. Nid yw’n ystyried croestoriadedd y bobl y cynhaliwyd ymchwil gyda nhw.
Mae croestoriadedd yn cyfeirio at achosion lle mae unigolyn yn cynrychioli mwy nag un grŵp a ymyleiddiwyd, er enghraifft, roedd y rhan fwyaf o’r gofalwyr y siaradasom â nhw yn anabl, hefyd. Gellir gweld rhestr o’r achosion o groestoriadedd yn yr atodiad.
Sut aethom ati
Ymchwil ddesg
Yn ystod camau cychwynnol y prosiect hwn, cynhaliwyd ymchwil ddesg i ddeall beth oedd eisoes yn hysbys am brofiadau pobl o grwpiau a ymyleiddiwyd a’r rhwystrau sy’n eu hwynebu wrth geisio cael budd-daliadau Cymru.
Roedd hyn wedi ein galluogi i amlygu bylchau yn ein gwybodaeth a’n rhagdybiaethau wrth ddechrau’r rownd ymchwil hon, fel y gallem brofi eu dilysrwydd.
Roedd ein hymchwil ddesg yn cynnwys:
- ailedrych ar ymchwil a gynhaliwyd gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn flaenorol ar brosiectau yn ymwneud â Symleiddio Budd-daliadau Cymru a Chostau Byw
- adolygu ymchwil berthnasol a gynhaliwyd gan bartneriaid craidd y prosiect, sef Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- adolygu nifer o adroddiadau ymchwil perthnasol a gynhyrchwyd gan bartneriaid sector cyhoeddus a thrydydd sector
Allgymorth
Oherwydd diffyg sianeli uniongyrchol i gyrraedd y bobl iawn i’w recriwtio, roeddem yn gwybod bod arnom angen cymorth sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n cynorthwyo’r bobl hyn ac yn gweithio’n agos gyda nhw.
Casglwyd gwybodaeth gyswllt ar gyfer 35 o sefydliadau perthnasol, ac ar ôl y cysylltiad cychwynnol, llwyddwyd i gyfarfod neu gael cysylltiad dilynol â 19 o’r sefydliadau hyn.
Roedd y sefydliadau hyn yn allweddol i’n helpu i gael dealltwriaeth well o sut i fynd ati i recriwtio pobl o grwpiau a ymyleiddiwyd yn y ffordd iawn, gwnaethant helpu i rannu ein cyfathrebiadau recriwtio â’r bobl iawn ac roedd rhai hyd yn oed wedi caniatáu i ni gynnal ymchwil gyda’r bobl maen nhw’n eu cynorthwyo ar eu safleoedd.
Recriwtio defnyddwyr
Ein nod oedd recriwtio o leiaf 5 o bobl o bob grŵp defnyddwyr i geisio cael cynrychiolaeth gytbwys ar draws y 5 grŵp defnyddwyr.
Er mwyn cynyddu ein tebygolrwydd o lwyddo i recriwtio cyfranogwyr i’r eithaf, defnyddiwyd nifer o sianeli recriwtio i gyrraedd cynifer o ddarpar gyfranogwyr â phosibl:
Cysylltwyd â phobl a fu’n ymwneud ag ymchwil flaenorol ar fudd-daliadau a hygyrchedd.
Rhannwyd ffurflen gofrestru gyda’r sefydliadau a gytunodd i gefnogi ein hymgyrch recriwtio, i’w rhannu gyda’r bobl maen nhw’n eu cynorthwyo.
Gosodwyd taflenni recriwtio mewn ardaloedd prysur, fel Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd, y Ganolfan Byd Gwaith a chanolfan cyngor ariannol.
Roedd ambell sefydliad wedi ein cynorthwyo ymhellach trwy recriwtio pobl yn uniongyrchol.
Gwnaethom hefyd ddatblygu sgriniwr a’n galluogodd i wirio bod y bobl a gofrestrodd yn bodloni’r meini prawf angenrheidiol i gymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn.
Cyfweliadau o bell â defnyddwyr
Cynhaliwyd 10 cyfweliad o bell â phobl anabl, pobl sy’n ofalwyr a phobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol.
Roedd y cyfweliadau hyn yn lled-strwythuredig ac wedi’u llunio i gasglu gwybodaeth fanylach am brofiadau pobl o fudd-daliadau Cymru a’r heriau a’r rhwystrau sy’n eu hwynebu wrth geisio cael at fudd-daliadau.
Ymchwil defnyddwyr wyneb yn wyneb
Cynhaliwyd sawl gweithgaredd ymchwil wyneb yn wyneb ar gyfer y prosiect hwn, a oedd yn cynnwys sesiynau ymchwil sionc mewn lleoliadau perthnasol a grŵp ffocws.
Cynhaliwyd dwy sesiwn ymchwil sionc yn Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd ac un o leoliadau tai â chymorth Cyngor Caerdydd. Recriwtiwyd pobl a oedd yn defnyddio’r mannau hynny i gymryd rhan yn ein hymchwil. Siaradom â chyfanswm o 18 o bobl ar draws y sesiynau hyn, a oedd yn cynrychioli’r pum grŵp a ymyleiddiwyd.
- Gwnaethom hefyd gynnal grŵp ffocws yn un o hybiau’r Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid yn Abertawe. Fe’i cydlynwyd gyda chymorth un o weithwyr cymorth y Tîm ac fe’n galluogodd i siarad â thri unigolyn â statws Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus.
Roedd y gweithgareddau ymchwil wyneb yn wyneb hyn wedi ein galluogi i gyrraedd amrywiaeth eang o ddefnyddwyr fel y gallem gael llawer o wybodaeth lefel uchel.
Cyfwliadau â defnyddwyr dirprwyol
Yn ogystal, siaradom â nifer o ddefnyddwyr dirprwyol a oedd yn gallu ategu ein hymchwil â’u gwybodaeth am yr heriau sy’n wynebu’r bobl maen nhw’n eu cynorthwyo wrth geisio cael at fudd-daliadau.
Roedd naw o’r deg defnyddiwr dirprwyol y siaradasom â nhw yn gynghorwyr ariannol o amrywiaeth o gymdeithasau tai cymdeithasol ledled Cymru, ac roedd un yn weithiwr cymorth ceiswyr lloches a ffoaduriaid.
Dadansoddi
Rhoddodd y gweithgarwch ymchwil hwn fwy na 3,000 o bwyntiau data unigol i ni yr oedd angen i ni eu dadansoddi i gael at y wybodaeth a oedd ynddynt.
Defnyddiwyd techneg ddadansoddi o’r enw mapio perthynas, sy’n golygu cysylltu data sy’n rhannu themâu cyffredin hyd nes y daw themâu a phatrymau mawr i’r amlwg.
Yna, cynhaliwyd ail rownd o ddadansoddi i rannu’r themâu mawr hyn yn wybodaeth fanylach a gyflwynir yn adran ‘Yr hyn a ddysgom’ yr adroddiad hwn.
Cyfyngiadau’r gwaith ymchwil
Oherwydd ein bod yn ymchwilio gyda grŵp unigryw o bobl sy’n cynrychioli grwpiau dethol a ymyleiddiwyd ac yr oedd ganddynt brofiad o fudd-daliadau penodol, ac oherwydd graddfeydd amser tynn y prosiect hwn, roeddem yn gwybod y byddai’n anodd recriwtio cyfranogwyr.
Roeddem hefyd yn ymwybodol y gallai pobl fod yn amharod i ymgysylltu â ni am nifer o resymau. I liniaru’r risgiau hyn, roeddem yn hyblyg o ran recriwtio cyfranogwyr a’n dulliau ymchwil.
Er na allem recriwtio 5 o rieni sengl neu bobl â statws Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus, os ystyrir croestoriadedd grwpiau, llwyddwyd i recriwtio mwy na 5 o bobl a oedd yn cynrychioli pob un o’r grwpiau hyn a ymyleiddiwyd.
Ein nod oedd cynnwys pobl o Ogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru i sicrhau bod amrywiaeth o brofiadau’n cael eu cynrychioli ac i osgoi tuedd Dde-ddwyreiniol. Er y cynhaliwyd ymchwil gyda phobl o Ogledd a Gorllewin Cymru, roedd yn anodd recriwtio llawer o gyfranogwyr o’r rhanbarthau hyn, ac roedd mwyafrif ein cyfranogwyr o’r De-ddwyrain.
Yr hyn a ddysgom
1. Nid yw pob ffurflen gais am fudd-daliadau yn hygyrch
"Mae gen i broblemau â’m dwylo, felly mae’r fersiwn wedi’i hargraffu yn rhwystr – ni allwn gael ffurflen electronig. Roedd yn teimlo fel petaen nhw’n rhoi rhwystr bach ychwanegol i’ch atal rhag gwneud cais." - Cyfranogwr A02
Nid yw ffurflenni cais yn ddigon hygyrch i fodloni anghenion mynediad llawer o ymgeiswyr.
Nid yw rhai ymgeiswyr anabl yn gallu llenwi ffurflenni cais eu hunain oherwydd bod y ffurflenni ar gael ar ffurf papur yn unig ac mae ganddyn nhw heriau deheurwydd a stamina.
Mae llawer o ffurflenni’n hir, yn gymhleth, yn feichus ac yn anodd eu llenwi, yn enwedig i bobl niwrowahanol.
Mae rhwystrau hygyrchedd a’r ymdrech feddyliol sy’n ofynnol i lenwi ffurflenni cais yn ddigon i atal pobl rhag ymgeisio.
Mae anallu i gael gwybodaeth ac arweiniad am fudd-daliadau, a ffurflenni cais, yn eich iaith gyntaf yn rhwystr i lawer o bobl.
Mae iaith yn rhwystr sylweddol i ddefnyddwyr nad ydynt yn siaradwyr Saesneg iaith gyntaf.
Mae’r defnyddwyr hyn yn teimlo petai ffurflenni cais ar gael yn eu hiaith gyntaf/mamiaith y byddent yn gallu gwneud cais eu hunain; yn lle hynny, mae angen iddynt geisio cymorth i wneud cais.
Yn aml, nid yw ffurflenni cais ar gael yn y fformat sy’n well gan y defnyddiwr.
Mae defnyddwyr am weld opsiwn ar gyfer ffurflenni papur neu electronig a chymorth ar y ffôn er mwyn iddynt gael dewis.
Gall methu cael ffurflen gais yn y fformat sy’n well gennych deimlo fel rhwystr bwriadol i rai defnyddwyr.
Gall gwasanaethau a cheisiadau ar-lein fod yn ddetholus i lawer o ddefnyddwyr sydd â llythrennedd digidol isel a diffyg mynediad digidol.
Mae’n anodd i lawer o bobl sy’n profi amddifadedd gael mynediad at gyfrifiadur neu Wi-Fi, sy’n golygu bod llenwi cais ar-lein yn heriol.
Nid yw llawer o ddefnyddwyr, yn enwedig pobl hŷn, yn ddigon hyddysg yn ddigidol i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein yn annibynnol.
Os yw gwasanaethau ar gael ar-lein yn unig, mae’n creu un pwynt methu sy’n atal defnyddwyr rhag cael at y wybodaeth a’r ceisiadau y mae arnynt eu hangen pan fydd gwefannau’n methu.
Byddai’n well gan rai defnyddwyr gael gwasanaeth ar-lein, a byddent yn disgwyl hynny.
Mae defnyddwyr sy’n fwy hyddysg yn ddigidol yn credu ei bod yn haws gwneud cais ar-lein ac yn teimlo, mewn oes ddigidol, y dylai pob ffurflen gais fod ar gael ar-lein.
Mae defnyddwyr eisiau proses ymgeisio ddigidol symlach.
Mae defnyddwyr eisiau ffurflen gais ddigidol hawdd ei defnyddio sy’n bodloni eu hanghenion ac yn eu galluogi i hawlio’r hyn y mae ganddynt yr hawl iddo.
Mae defnyddwyr yn teimlo os disgwylir iddynt wneud cais ar-lein, y dylai’r broses fod yn gliriach ac yn symlach na’r prosesau maen nhw’n eu profi ar hyn o bryd.
Hoffai defnyddwyr weld swyddogaeth ‘arbed a dychwelyd’ ar ffurflenni ar-lein hirach fel y gallant arbed eu cynnydd a dychwelyd pan fydd yn gyfleus iddynt.
Mae defnyddwyr dirprwyol yn teimlo y gallai platfform digidol hawdd ei ddefnyddio wneud bywyd yn haws i gynghorwyr hefyd, nid dim ond i ymgeiswyr.
Mae pobl a ymyleiddiwyd eisiau cael eu cynnwys a chyfrannu at wella budd-daliadau Cymru.
Mae defnyddwyr o grwpiau a ymyleiddiwyd eisiau i’w lleisiau a’u profiadau bywyd gael eu cynnwys yn y gwaith i wella ceisiadau am fudd-daliadau a system fudd-daliadau Cymru.
2. Mae cymhlethdod ffurflenni cais am fudd-daliadau yn rhwystr rhag ymgeisio
"Nid yw’n werth y drafferth am ychydig bunnoedd, fe frwydra i ’mlaen – Byddai gymaint yn haws petai siop un stop ar gyfer budd-daliadau." - Cyfranogwr B02
Mae defnyddwyr yn rhoi’r gorau i wneud cais am fudd-daliadau oherwydd bod y broses yn rhy heriol iddynt.
Mae defnyddwyr yn credu bod y broses gwneud cais am fudd-daliadau yn brofiad mor gymhleth a beichus fel bod rhai’n amharod i wneud cais neu’n rhoi’r gorau iddi cyn cwblhau cais.
Mae rhai defnyddwyr yn credu bod y cwestiynau i wneud cais am rai budd-daliadau yn gallu bod mor ymwthiol fel y byddant yn osgoi ymgeisio eto yn y dyfodol.
Mae rhai defnyddwyr yn credu na fyddent wedi gallu cwblhau eu cais heb y cymorth a gawsant.
Mae defnyddwyr yn credu bod ailadrodd yr un wybodaeth mewn gwahanol geisiadau yn rhwystredig.
Mae defnyddwyr yn teimlo’n rhwystredig ac yn lluddedig oherwydd, yn aml, mae’n rhaid iddynt rannu’r un wybodaeth ym mhob cais maen nhw’n ei wneud.
Mae defnyddwyr yn credu eu bod yn cael eu profi pan ofynnir iddynt ailadrodd yr un wybodaeth.
Byddai defnyddwyr yn gwerthfawrogi gwasanaeth ‘dywedwch wrthym unwaith’ sy’n golygu y byddai’n rhaid iddynt roi eu gwybodaeth unwaith yn unig.
Mae defnyddwyr a defnyddwyr dirprwyol yn credu y byddai symleiddio’r system fudd-daliadau yn un cais ar gyfer yr holl fudd-daliadau y mae gan bobl yr hawl iddynt yn gwneud y broses yn symlach o lawer.
Mae defnyddwyr a defnyddwyr dirprwyol yn credu na ddylai’r ymgeisydd fod yn gyfrifol am ailadrodd gwybodaeth sydd eisoes ar gael ar systemau eraill.
Nid yw’r iaith a ddefnyddir ar gyfer budd-daliadau a cheisiadau am fudd-daliadau yn glir ac yn hawdd ei deall.
Mae rhai defnyddwyr yn cael trafferth deall yr iaith a ddefnyddir ar geisiadau, felly nid ydynt yn siŵr beth y mae angen iddynt ei wneud, ac fe all hynny eu hatal rhag gwneud cais llwyddiannus.
Mae rhai defnyddwyr yn credu bod y broses ymgeisio’n aneglur ac yn ddryslyd, sy’n gallu achosi iddynt wastraffu amser yn gwneud cais am y budd-dal anghywir.
Mae hyd yn oed staff cymorth a chynghorwyr ariannol yn ei chael hi’n anodd llywio’r broses ymgeisio ac maen nhw weithiau’n dibynnu ar ddiangfeydd.
Mae ffurflenni cais yn gallu bod yn rhy hir a chymryd gormod o amser ag egni i’w llenwi.
Yn aml, mae defnyddwyr yn treulio oriau ac weithiau dyddiau yn ceisio llenwi ffurflenni cais hir.
Mae rhai defnyddwyr yn credu bod hyd ffurflenni cais a’r amser sy’n angenrheidiol i’w llenwi yn ddigon i atal pobl rhag ymgeisio.
3. Mae angen cymorth ar ddefnyddwyr i allu gwneud cais am fudd-daliadau
"Dydw i ddim yn dwp, mae gen i radd meistr, ond dydw i ddim yn credu y byddwn i wedi gallu ei llenwi [y ffurflen gais] fy hun." - Cyfranogwr CL03
Mae llawer o ddefnyddwyr yn dibynnu ar gymorth gan bobl eraill i allu llywio’r broses ymgeisio a llenwi ffurflen gais.
O ganlyniad i gymhlethdod y broses ymgeisio, mae llawer o ymgeiswyr yn dibynnu ar gymorth ac arweiniad gan weithwyr proffesiynol i allu ymgeisio’n llwyddiannus.
Mae llawer o ddefnyddwyr yn troi at ffrindiau a theulu sydd â phrofiad blaenorol o ymgeisio i geisio cymorth i wneud cais.
Mae defnyddwyr yn gwerthfawrogi mynediad at gymorth ariannol a byddent yn hoffi gweld mwy o rolau cymorth ariannol penodol yn cael eu creu.
Mae’n anodd i rai ymgeiswyr gael at gymorth ariannol a byddent yn hoffi gweld mwy o rolau cymorth ariannol penodol y gallent gael atynt yn rhwydd.
Mae rhai defnyddwyr mwy profiadol yn dod yn gynghorwyr i’w ffrindiau, eu teulu a’r gymuned ehangach.
Mae rhai defnyddwyr wir yn gwerthfawrogi cael mynediad at gymorth a chyngor ariannol wyneb yn wyneb.
4. Nid yw defnyddwyr yn ymwybodol o’r budd-daliadau y mae ganddynt yr hawl iddynt
"Mae’n syndod faint o bobl nad ydynt yn gwybod beth y mae ganddynt yr hawl iddo." - Defnyddiwr dirprwyol PU03, Gwasanaeth Cyngor Ariannol
Mae diffyg ymwybyddiaeth ymgeiswyr o fudd-daliadau yn rhwystr sylweddol sy’n eu hatal rhag cael y cymorth ariannol y mae arnynt ei angen.
Dywedodd defnyddwyr dirprwyol wrthym nad yw llawer o’r bobl maen nhw’n eu cynorthwyo yn ymwybodol o’r budd-daliadau y mae ganddynt yr hawl iddynt.
Mae llawer o ddefnyddwyr yn credu nad oes llawer o ymwybyddiaeth o ba fudd-daliadau sydd ar gael ac y dylent gael eu cyfeirio at y budd-daliadau perthnasol gan ddarparwyr budd-daliadau.
Mae’n gallu bod yn anodd dod o hyd i wybodaeth am y budd-daliadau rydych yn gymwys iddynt.
Dywedodd rhai defnyddwyr wrthym nad oeddent yn gallu dod o hyd i’r wybodaeth berthnasol am y budd-daliadau y gallent fod â’r hawl iddynt, hyd yn oed wrth chwilio ar wefannau cynghorau.
Mae angen i lawer o ddefnyddwyr gael eu cyfeirio at y budd-daliadau priodol.
Mae llawer o ddefnyddwyr yn gallu dod o hyd i’r budd-daliadau priodol dim ond oherwydd eu bod yn cael eu cyfeirio atynt gan weithwyr proffesiynol neu deulu a ffrindiau.
Mae rhai defnyddwyr sydd â phrofiad o’r system fudd-daliadau yn mynd ymlaen i gyfeirio a chynghori eu ffrindiau, eu teulu a’u cymuned ehangach.
Mae defnyddwyr yn colli’r cyfle i gael y budd-daliadau maen nhw’n gymwys iddynt gan nad ydynt yn sylweddoli eu bod yn bodoli.
Mae rhai defnyddwyr yn colli’r cyfle i gael cymorth ariannol gan nad ydynt yn ymwybodol o’r budd-daliadau maen nhw’n gymwys iddynt.
Mae ymgeiswyr eisiau i weithwyr proffesiynol sy’n ymwybodol o’u statws ariannol eu cynghori ynglŷn â chymorth ariannol posibl a’u cyfeirio ato.
Fe allai ymgyrchoedd hyrwyddo mwy targedig helpu mwy o ddefnyddwyr i gael gwybod am y budd-daliadau y gallent fod â’r hawl iddynt.
Mae defnyddwyr a defnyddwyr dirprwyol eisiau gweld ymgyrchoedd hyrwyddo gwell ar gyfer budd-daliadau, yn enwedig y budd-daliadau y mae ymgeiswyr yn llai cyfarwydd â nhw.
Mae defnyddwyr a defnyddwyr dirprwyol eisiau gweld hyrwyddo mwy targedig yn y mannau lle y gallai’r bobl y mae arnynt angen budd-daliadau fod, fel digwyddiadau cymunedol sionc neu leoliadau gofal iechyd.
5. Nid yw defnyddwyr yn deall budd-daliadau a phwy sy’n gymwys
"Dydw i ddim yn gwybod beth rydw i’n gymwys i’w gael – dydw i ddim yn gallu dod o hyd i’r cymorth y mae ei angen arna’ i." - Cyfranogwr E03
"Roeddwn i’n ymwybodol ohono [lwfans gweini], ond yn credu efallai nad oedd e’ [ei gŵr] yn ddigon ‘gwael’ i mi wneud cais." - Cyfranogwr CL04
Mae llawer o ymgeiswyr yn cael trafferth deall pa fudd-daliadau maen nhw’n gymwys iddynt.
Mae defnyddwyr yn credu bod cymhlethdod y system fudd-daliadau a deall cymhwysedd yn rhwystr.
Mae llawer o ymgeiswyr yn dibynnu ar arweiniad a chymorth i ddeall pa fudd-daliadau maen nhw’n gymwys iddynt.
Yn aml, mae defnyddwyr yn ceisio arweiniad i’w helpu i ddeall budd-daliadau a’u cymhwysedd yn well.
Gall yr arweiniad hwn ddod o lawer o ffynonellau, gan gynnwys teulu a ffrindiau, sy’n arwain at gyngor anghyson weithiau.
Nid yw rhai defnyddwyr yn sylweddoli bod ganddynt yr hawl i unrhyw gymorth ariannol.
Yn aml, mae defnyddwyr yn bychanu difrifoldeb eu sefyllfa ariannol ac felly nid ydynt yn teimlo bod ganddynt yr hawl i gymorth ariannol.
Nid yw rhai defnyddwyr hyd yn oed yn ystyried y gallent fod yn gymwys i fudd-daliadau gan nad ydynt yn ymwybodol o’r budd-daliadau sydd ar gael a’r meini prawf cymhwysedd.
Nid yw rhai ymgeiswyr yn gwybod ble i fynd i gael y wybodaeth y mae arnynt ei hangen i ddeall pa fudd-daliadau y gallent fod â’r hawl iddynt.
Mae’r ffaith nad ydynt yn gwybod ble i chwilio am y wybodaeth iawn i ddeall budd-daliadau a chymhwysedd yn dod yn rhwystr i rai pobl.
Mae graddfa a chymhlethdod y system fudd-daliadau yn llethu llawer o bobl.
Yn aml, mae’r system fudd-daliadau’n llethu defnyddwyr, ac mae hyn yn eu rhwystro rhag archwilio i ddod o hyd i’r wybodaeth iawn iddynt.
Mae defnyddwyr dirprwyol yn credu bod cymhlethdod y system fudd-daliadau yn achosi dryswch i ddefnyddwyr ac mai dyma un o’r rhesymau pam nad yw pobl yn hawlio’r hyn y mae ganddynt yr hawl iddo.
Mae angen i ddefnyddwyr sy’n symud i Gymru o wlad dramor gael cymorth i ddeall y system fudd-daliadau.
Pan fydd defnyddwyr yn anghyfarwydd â system fudd-daliadau Cymru, fe all fod yn ddryslyd ei deall a’i llywio, ac mae arnynt angen cymorth i ymgyfarwyddo â’r system.
6. Pan fydd defnyddwyr yn rhyngweithio â’r system fudd-daliadau, maen nhw’n aml yn mynd trwy ddigwyddiadau bywyd trawmatig
"Pan fyddwch chi’n ceisio gwella, dydych chi ddim eisiau poeni am sut rydych chi’n mynd i dalu am bethau." - Cyfranogwr A04
Yn aml, mae angen i bobl gael at fudd-daliadau oherwydd newidiadau i’w sefyllfa ariannol sy’n deillio o ddigwyddiadau negyddol mewn bywyd.
Gall newidiadau sydyn i sefyllfaoedd pobl gyflwyno rhai i’r system fudd-daliadau yn ddisymwth, ac fe all deimlo fel dechrau o’r dechrau.
Pan fydd pobl yn mynd trwy gyfnod trawmatig, fe all fod yn anodd iawn iddynt brosesu cymhlethdodau’r system fudd-daliadau.
Byddai pobl yn y sefyllfa hon yn gwerthfawrogi rhywfaint o gefnogaeth i’w helpu i ddeall pa gymorth ariannol sydd ar gael iddynt.
Gall profiadau negyddol o’r system fudd-daliadau gael effaith negyddol ar iechyd meddyliol a chorfforol.
Mae llawer o bobl sydd ag iechyd meddwl gwael yn credu y bydd ceisio llywio’r system fudd-daliadau yn cael effaith niweidiol ar eu hiechyd meddwl.
Bydd rhai pobl yn osgoi rhyngweithio â’r system fudd-daliadau oherwydd eu bod yn disgwyl iddo gael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl.
Mae rhai pobl yn anwybyddu arwyddion iechyd corfforol gwael er mwyn aros yn y gwaith yn hirach a gohirio’r angen i hawlio budd-daliadau.
7. Mae rhai defnyddwyr yn ofni’r system fudd-daliadau ac yn amheus ohoni
"Mae’n teimlo fel petaen nhw’n ceisio eich dal ar gam." - Cyfranogwr A05
Mae rhai defnyddwyr yn ofni colli eu hawl yn sydyn.
Oherwydd bod pobl yn dibynnu cymaint ar y budd-daliadau a gânt, maen nhw’n teimlo’n agored i niwed ac yn ofni y gallai eu budd-daliadau gael eu hatal yn sydyn.
Mae defnyddwyr yn ofni gwneud camgymeriadau rhag ofn y cânt eu cosbi amdanynt.
Mae rhai defnyddwyr yn teimlo fel bod angen iddynt aros yn effro a sicrhau nad ydynt yn gwneud unrhyw gamgymeriadau na cholli unrhyw apwyntiadau oherwydd eu bod yn ofni y gallent gael eu cosbi o ganlyniad.
Mae rhai defnyddwyr sydd wedi cael profiadau gwael wrth ymgeisio am fudd-daliadau yn y gorffennol yn teimlo’n amharod i ymgeisio eto neu ailymgeisio.
Nid yw pobl sydd wedi cael profiadau gwael o fudd-daliadau yn y gorffennol eisiau mynd trwy’r profiad yna eto ac maen nhw’n amharod i ymgeisio eto.
Nid yw rhai defnyddwyr yn teimlo bod darparwyr budd-daliadau yn cael eu dal i gyfrif am eu camgymeriadau.
Mae rhai defnyddwyr yn credu bod hawlwyr a darparwyr yn cael eu trin yn wahanol pan wneir camgymeriadau, sy’n achosi drwgdybiaeth.
Mae rhai defnyddwyr yn credu bod ffurflenni cais yn fwriadol anodd ac ailadroddus.
Roedd rhai defnyddwyr yn teimlo bod cymhlethdod y ffurflenni a faint o dystiolaeth y gofynnir amdani yn fwriadol i atal pobl rhag ymgeisio.
Mae rhai defnyddwyr yn credu bod y darparwyr yn ceisio eu dal ar gam oherwydd bod yr un cwestiynau’n cael eu gofyn iddynt mor aml.
8. Mae stigma yn atal pobl rhag ymgeisio ac yn effeithio ar les
“Rydych chi’n teimlo’n ddiwerth - rydych chi’n teimlo fel dinesydd ail ddosbarth.”- Cyfranogwr A02
"Mae’r holl beth yn ofnadwy ac yn ddiraddiol ac mae’n gwneud i chi feddwl, a yw’ch bywyd yn werth ei fyw?" - Cyfranogwr A05
Mae llawer o ymgeiswyr yn teimlo bod stigma cymdeithasol yn gysylltiedig â hawlio budd-daliadau.
Mae defnyddwyr a defnyddwyr dirprwyol yn ymwybodol o’r stigma sy’n bodoli mewn cymdeithas yn erbyn pobl sy’n hawlio budd-daliadau, a bod y stigma hwn yn cael ei ddwysáu yn y cyfryngau.
Mae’r stigma canfyddedig hwn yn effeithio ar bobl i’r fath raddau nad ydynt yn gwneud cais am fudd-daliadau y mae ganddynt yr hawl iddynt.
Mae llawer o bobl yn mewnoli’r stigma hwn ac yn teimlo cywilydd neu euogrwydd am hawlio budd-daliadau, o ganlyniad.
Mae’r stigma hwn yn ddigon cryf i atal rhai pobl rhag gwneud cais am y cymorth ariannol maen nhw’n gymwys iddo.
Mae stigma’n cael effaith negyddol ar les defnyddwyr.
Mae stigma’n cael effaith negyddol ar iechyd meddwl ac ymdeimlad o hunan-werth llawer o bobl sy’n hawlio budd-daliadau.
Mae rhai defnyddwyr yn teimlo bod cwestiynau personol ar ffurflenni cais yn gallu bod yn ddiraddiol a chreu stigma.
9. Mae prosesau digyswllt rhwng ac o fewn y sefydliadau sy’n ymwneud â darparu budd-daliadau yn achosi heriau i’r defnyddiwr
"Mae’r gwahaniaeth yn y ffyrdd y mae budd-daliadau’n cael eu gweinyddu ar draws awdurdodau lleol yn peri gofid." - Defnyddiwr Dirprwyol, Cartrefi Cymunedol Cymru
Mae defnyddwyr eisiau i sefydliadau’r sector cyhoeddus rannu eu gwybodaeth rhyngddynt er mwyn lleihau’r baich ar y defnyddiwr.
Mae defnyddwyr yn teimlo’n rhwystredig bod angen iddynt rannu’r un wybodaeth droeon â gwahanol sefydliadau a gwasanaethau.
Mae defnyddwyr yn credu y byddai’r broses ymgeisio’n llai beichus iddynt petai eu gwybodaeth yn cael ei storio’n ganolog.
Mae defnyddwyr eisiau i sefydliadau’r sector cyhoeddus gyfathrebu â’i gilydd yn well.
Mae defnyddwyr yn teimlo’n rhwystredig ynglŷn â’r cyfathrebu gwael rhwng adrannau, sefydliadau a gwasanaethau sy’n arwain at gamgymeriadau a/neu waith ychwanegol i’r defnyddwyr.
Mae diffyg cysondeb a chydlyniant yn y polisïau a’r prosesau budd-daliadau ar draws awdurdodau lleol yn gallu achosi anfantais i rai defnyddwyr.
Mae defnyddwyr dirprwyol yn ymwybodol o ddiffyg cysondeb ar draws awdurdodau lleol, sy’n achosi profiad digyswllt i’r defnyddiwr.
10. Mae angen i bobl gael sianeli cyfathrebu mwy dibynadwy â sefydliadau’r sector cyhoeddus
"Dydyn nhw ddim [y tîm budd-daliadau] bob amser yn ateb fy nghwestiynau yn fy nyddlyfr – efallai nad yw’n bwysig iddyn nhw." - Cyfranogwr A01
"Sut ydych chi’n grymuso rhywun sydd mor agored i niwed?" - Defnyddiwr Dirprwyol PU02, y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid
Mae defnyddwyr eisiau dulliau dibynadwy o gyfathrebu â sefydliadau’r sector cyhoeddus.
Mae ymgeiswyr eisiau gallu siarad â rhywun sy’n gallu eu cynghori ar eu cais am fudd-daliadau yn rhwydd.
Mae amserau aros hir ar alwadau yn atal defnyddwyr rhag cael y wybodaeth y mae arnynt ei hangen i fwrw ymlaen â’u ceisiadau yn gyflym.
Mae defnyddwyr eisiau i wefannau’r Llywodraeth a chynghorau fodloni eu hanghenion yn well.
Mae gwasanaethau ar-lein anhygyrch yn ychwanegu haen arall o gymhlethdod at ddod o hyd i fudd-daliadau a gwneud cais amdanynt.
Mae defnyddwyr yn teimlo bod gwefannau’n anodd eu llywio, sy’n aml yn golygu eu bod yn gorfod ceisio cymorth.
Pan na fydd gwasanaethau a cheisiadau ar-lein yn unig yn gweithio, nid oes dewis arall ar gael i ddefnyddwyr.
Mae defnyddwyr eisiau gwybodaeth a chyfathrebu clir gan eu hawdurdodau lleol.
Mae rhai defnyddwyr yn credu bod gwybodaeth aneglur a rannwyd gan eu cyngor wedi arwain at ddryswch ynglŷn â’u cymhwysedd.
Mae angen gwell cyfathrebu ac allgymorth â grwpiau a ymyleiddiwyd i gynyddu ymddiriedaeth a’u grymuso i gael at y cymorth ariannol y mae ganddynt yr hawl iddo.
Mae defnyddwyr dirprwyol yn credu bod angen datblygu perthynas well â chymunedau a ymyleiddiwyd, a fyddai’n creu’r sylfeini ar gyfer gwell cyfathrebu a chymorth.
Mae defnyddwyr dirprwyol yn ymwybodol bod rhai grwpiau a ymyleiddiwyd yn amheus o gyfathrebu gan y Llywodraeth ac awdurdodau lleol, ac y gallent fethu gwybodaeth hanfodol, o ganlyniad.
11. Mae agweddau defnyddwyr tuag at y Llywodraeth, awdurdodau lleol a’r system fudd-daliadau yn wrthgyferbyniol
"Nid yw’r system fudd-daliadau yng Nghymru yn cyrraedd y bobl iawn digon." - Cyfranogwr B03
Nid yw pobl yn teimlo bod y Llywodraeth yn eu cynorthwyo.
Nid yw defnyddwyr yn teimlo bod y Llywodraeth yn gwneud digon i sicrhau bod y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn cael eu cynorthwyo a bod y budd-daliadau sydd ar gael yn cael eu hawlio.
Nid yw defnyddwyr yn teimlo eu bod rhan o’r penderfyniadau lles sy’n cael eu gwneud gan y Llywodraeth nac yn cael eu cynrychioli ynddynt.
Mae defnyddwyr yn teimlo bod Llywodraeth Cymru yn gwrando arnynt a’u cynrychioli ychydig yn fwy, ond yn pryderu bod hyn yn newid er gwaeth.
Mae safbwyntiau pobl ynglŷn â’u hawdurdod lleol yn wrthgyferbyniol ac yn aml yn dibynnu ar ble rydych yn byw.
Mae rhai pobl yn teimlo’n gryf iawn nad ydynt yn cael eu cynorthwyo gan eu cyngor lleol a’i bod yn anodd iddynt ymgysylltu â’r cyngor.
Mae eraill wedi cael profiadau cadarnhaol iawn o ymgysylltu â’u cyngor lleol ac yn teimlo ei fod yn eu cynorthwyo ac yn ddiolchgar am ei wasanaeth.
Mae llawer o bobl yn credu nad yw system fudd-daliadau Cymru yn addas i’r diben.
Mae defnyddwyr a defnyddwyr dirprwyol yn credu nad yw budd-daliadau Cymru yn bodloni’r anghenion y dylent a’i bod yn anodd i’r bobl y mae arnynt eu hangen fwyaf gael atynt.
Mae rhai defnyddwyr yn credu bod y system yn araf oherwydd ei bod yn ddigyswllt ac yn fiwrocrataidd, a hoffent gael system symlach sy’n dweud wrthynt beth maen nhw’n gymwys iddo.
12. Mae pobl sy’n derbyn budd-daliadau yn profi rhwystrau ariannol rhag dychwelyd i gyflogaeth
"Nid yw’n talu i weithio oherwydd eu bod nhw’n cymryd mwy o arian allan o’m Credyd Cynhwysol." - Cyfranogwr B02
Weithiau, mae defnyddwyr yn cael eu datgymell rhag dychwelyd i weithio oherwydd bod hynny’n gallu eu gadael ar eu colled yn ariannol.
Mae rhai defnyddwyr yn credu y byddent ar eu colled yn ariannol petaent yn dod o hyd i waith oherwydd yr effaith ar y budd-daliadau maen nhw’n dibynnu arnynt.
Mae rhai defnyddwyr yn credu nad yw’r system fudd-daliadau’n ddigon hyblyg i ymdopi â gwirioneddau amserlenni gwaith a thâl afreolaidd.
Nid yw budd-daliadau’n darparu digon o gymorth ariannol i bobl er mwyn iddynt allu dilyn hyfforddiant a datblygiad.
Nid yw rhai pobl yn gallu dilyn datblygiad academaidd gan nad oes digon o gyllid ar gael iddynt.
Bydd rhai pobl yn aros mewn cyflogaeth amser llawn er anfantais iddynt, hyd yn oed pan fydd ganddynt yr hawl i gymorth lles, gan nad ydynt eisiau bod ar fudd-daliadau.
Mae’n rhaid i rai pobl wneud penderfyniadau anodd am aros mewn cyflogaeth yn hytrach na chael budd-daliadau, hyd yn oed pan fydd hynny’n cael effaith niweidiol ar eu lles corfforol neu feddyliol, oherwydd eu bod yn amharod i ymgysylltu â’r system fudd-daliadau.
13. Mae pobl sy’n derbyn budd-daliadau yn dibynnu arnynt yn ariannol
"Rydw i’n cyllidebu fy arian i’r geiniog, oherwydd rydyn ni’n byw o’r llaw i’r genau." - Cyfranogwr B01
"Rydyn ni’n cael digon o arian i oroesi, nid i fyw." - Cyfranogwr B02
Mae rhai defnyddwyr mewn sefyllfa ariannol mor fregus fel eu bod yn dibynnu ar fudd-daliadau i fyw.
Heb gymorth ariannol gan fudd-daliadau, nid yw rhai defnyddwyr yn gwybod sut byddent yn ymdopi’n ariannol.
Mae llawer o ddefnyddwyr yn teimlo’n fregus iawn yn ariannol oherwydd eu bod yn dibynnu cymaint ar fudd-daliadau.
Mae llawer o ddefnyddwyr sy’n derbyn budd-daliadau yn dal i gael trafferth cael deupen llinyn ynghyd.
Mae defnyddwyr yn credu bod yr arian a gânt o fudd-daliadau yn ddigon i dalu am hanfodion bywyd, ond dim mwy.
Bydd rhai pobl yn mynd i ddyled er mwyn cael digon o arian i fforddio mwy na’r hanfodion mwyaf sylfaenol.
Mae costau byw cynyddol yn gorfodi mwy o bobl i hawlio budd-daliadau.
Bu’n rhaid i rai defnyddwyr hawlio budd-daliadau pan nad oedd eu henillion yn ddigon i fyw arnynt mwyach.
Mae rhai defnyddwyr yn pryderu nad yw symiau budd-daliadau’n cynyddu yn unol â chostau byw sy’n codi.
14. Mae defnyddwyr yn ddiolchgar am effaith gadarnhaol budd-daliadau
“Mae budd-daliadau’n eich helpu i fyw bywyd o ansawdd gwell." - Cyfranogwr CL03
Mae budd-daliadau’n cael effaith gadarnhaol sylweddol ar safon byw llawer o ddefnyddwyr.
Mae budd-daliadau’n galluogi defnyddwyr i fyw bywyd o ansawdd gwell.
Mae rhywfaint o gymorth ariannol yn lleihau straen a gorbryder ac yn gwella lles meddyliol.
Mae defnyddwyr yn ddiolchgar am y cymorth ariannol a gânt.
Mae defnyddwyr yn gwerthfawrogi’r cymorth ariannol a gânt a’r ffaith ei fod yn eu helpu i fyw bywyd o ansawdd gwell.
Mae rhai defnyddwyr yn cydnabod bod y system fudd-daliadau yn well nawr nag yn y gorffennol.
Mae rhai defnyddwyr o’r farn bod Credyd Cynhwysol yn welliant mawr o gymharu â’r budd-daliadau etifeddol yr oedd wedi’u disodli.
15. Prydau Ysgol am Ddim
"Rydyn ni’n cael llawer o alwadau yn gofyn a allwn ni helpu pobl i hawlio Prydau Ysgol am Ddim." - Defnyddiwr Dirprwyol PU01, Tai Hedyn
“Rwy’n credu y dylai Prydau Ysgol am Ddim fod ar gael i’r holl blant ysgol er mwyn lleihau stigma gymaint â phosibl." - Cyfranogwr B03
Mae’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn ymwybodol o Brydau Ysgol am Ddim.
Cafodd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr wybod am Brydau Ysgol am Ddim trwy gyfathrebu gan ysgolion.
Cafodd eraill wybod ar lafar, trwy’r cyfryngau neu drwy ymchwilio.
Nid yw pawb yn deall y gwahaniaeth rhwng Prydau Ysgol am Ddim i’r holl blant a hawl i Brydau Ysgol am Ddim.
Nid yw rhai pobl, gan gynnwys defnyddwyr Prydau Ysgol am Ddim i’r holl blant, yn ymwybodol bod gwahanol fathau o Brydau Ysgol am Ddim na beth fyddai’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer hawl i Brydau Ysgol am Ddim.
Mae rhywfaint o bryder ynglŷn â sut mae stigma’n effeithio ar y rhai y mae arnynt angen Prydau Ysgol am Ddim.
Mae pobl yn pryderu am stigma a labelu plant sy’n derbyn Prydau Ysgol am Ddim ac yn credu y dylai prydau ysgol fod am ddim i’r holl blant er mwyn cael gwared ar stigma.
Mae rhai defnyddwyr dirprwyol yn credu bod y stigma sy’n gysylltiedig â Phrydau Ysgol am Ddim yn ddigon i atal pobl rhag gwneud cais amdanynt.
Er bod y rhan fwyaf o bobl yn credu bod y broses ymgeisio’n syml, mae rhai’n cael trafferth ac mae arnynt angen cymorth â’u cais.
Roedd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr o’r farn bod y broses ymgeisio’n syml a chawsant brofiad da o dderbyn Prydau Ysgol am Ddim, yn gyffredinol.
Mae rhai eraill, yn enwedig pobl nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, wedi cael trafferth ymgeisio heb gymorth.
Mae rhai defnyddwyr yn credu nad yw Prydau Ysgol am Ddim yn ddigon hyblyg i fodloni anghenion pawb.
Nid yw rhai defnyddwyr yn credu bod Prydau Ysgol am Ddim yn bodloni anghenion eu plant ac y gallai’r system fod yn fwy hyblyg a chynhwysol.
Byddai’n well gan rai defnyddwyr gael arian neu gredyd i’w ddefnyddio tuag at y bwyd y mae eu plant ei eisiau, yn hytrach na mynediad at brydau penodedig.
Yn aml, mae’r defnyddwyr hyn yn tueddu i wario arian ar brydau ysgol neu ginio pecyn sut bynnag, er eu bod yn cael Prydau Ysgol am Ddim.
16. Y Grant Hanfodion Ysgol
"Dydw i ddim wedi clywed am y Grant Hanfodion Ysgol [er bod y cyfranogwr yn gymwys]." - Cyfranogwr CL01
"Byddech chi’n meddwl y byddai’n broses syml sy’n golygu eich bod chi’n cael Prydau Ysgol am Ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol os ydych chi’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol." - Cyfranogwr B02
Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o’r Grant Hanfodion Ysgol, gan gynnwys y rhai hynny sy’n gymwys.
Nid oedd tua 1/3 o’r bobl y cynhaliwyd ymchwil â nhw yn ymwybodol o’r Grant Hanfodion Ysgol.
Roedd rhai o’r bobl nad oeddent yn ymwybodol o’r Grant Hanfodion Ysgol yn gymwys i’w dderbyn.
Mae rhywfaint o ddryswch ynglŷn ag enw’r budd-dal hwn.
Roedd rhai pobl yn gyfarwydd â’r Grant Hanfodion Ysgol, ond yn ei adnabod wrth un o’i enwau blaenorol, sef y ‘Grant Amddifadedd Disgyblion’ neu’r ‘Grant Gwisg Ysgol’.
Mae defnyddwyr dirprwyol yn credu y gallai hyrwyddo’r Grant Hanfodion Ysgol mewn ffordd fwy targedig helpu i gynyddu ymwybyddiaeth.
Mae’n rhaid i rai defnyddwyr dirprwyol annog pobl sy’n gymwys am y Grant Hanfodion Ysgol, ond nad ydynt yn ymwybodol ohono, i wneud cais, ac maen nhw’n credu bod angen ei hyrwyddo mewn ffordd fwy targedig i wella ymwybyddiaeth.
Mae llawer o bobl yn cael gwybod am y Grant Hanfodion Ysgol trwy ffrindiau a theulu, nid trwy ffynonellau swyddogol.
Nid yw’r arweiniad a’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol yn glir.
Roedd llawer o ddefnyddwyr o’r farn bod yr arweiniad ynglŷn â’r Grant Hanfodion Ysgol yn aneglur, ac roedd rhai wedi colli’r cyfle i’w dderbyn, o ganlyniad.
Roedd rhai defnyddwyr, hyd yn oed y rhai sy’n derbyn y Grant Hanfodion Ysgol, yn ansicr ynglŷn â’r meini prawf cymhwysedd.
Mae rhai defnyddwyr o’r farn bod y broses ymgeisio’n syml.
Roedd rhai o’r bobl a oedd wedi gwneud cais am y Grant Hanfodion Ysgol o’r farn bod y broses yn syml.
17. Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
"Collais 6 blynedd ohono, gan nad oeddwn yn gwybod amdano." - Cyfranogwr A04
Nid yw llawer o ddefnyddwyr yn ymwybodol o Ostyngiadau’r Dreth Gyngor, gan gynnwys y rhai hynny sy’n gymwys iddynt.
Unwaith eto, nid oedd tua 1/3 o’r bobl y cynhaliwyd ymchwil â nhw yn ymwybodol o Ostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Mae hyn yn cynnwys pobl a oedd yn gymwys i hawlio Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ac sydd wedi colli blynyddoedd o arbedion ariannol.
Mae’n rhaid i lawer o ymgeiswyr gael eu cyfeirio at Ostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Mae llawer o bobl yn cael gwybod am Ostyngiadau’r Dreth Gyngor gan ffrindiau, teulu a gwasanaethau cymorth ariannol, ac nid trwy ffynonellau swyddogol.
Mae llawer o ddefnyddwyr o’r farn bod Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn ddryslyd.
Mae llawer o bobl wedi’u drysu gan feini prawf cymhwysedd Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a sut byddant yn effeithio arnynt os bydd eu hamgylchiadau’n newid.
Mae rhai pobl yn drysu rhwng Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a gostyngiad/cymorth y dreth gyngor.
Gall dryswch ynglŷn â Gostyngiadau’r Dreth Gyngor achosi i bobl fynd i ddyled.
Gall defnyddwyr sy’n ansicr ynglŷn â’r meini prawf cymhwysedd dalu rhy ychydig os bydd eu hamgylchiadau’n newid a bydd arian yn ddyledus ganddynt i’r cyngor.
Nid yw rhai pobl sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn hawlio Gostyngiadau’r Dreth Gyngor oherwydd efallai eu bod yn tybio ei fod wedi derbyn sylw yn y cais Credyd Cynhwysol.
Mae’r rhai sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn cael profiad gwell o Ostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Mae pobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yn fwy ymwybodol o Ostyngiadau’r Dreth Gyngor ac yn credu bod y broses ymgeisio’n symlach.
Mae’r cais llawn am Ostyngiadau’r Dreth Gyngor yn gallu bod yn brofiad beichus a heriol.
Mae defnyddwyr sy’n ymgeisio gan ddefnyddio ffurflen gais Gostyngiadau’r Dreth Gyngor o’r farn bod y ffurflen yn hir a heriol, a bod angen llawer o dystiolaeth.
Mae rhai’n cael trafferth llenwi’r ffurflen eu hunain ac yn dibynnu ar wasanaethau cymorth i wneud hynny.
Argymhellion y gellir gweithredu arnynt
Gyda’r wybodaeth hon mewn golwg, awgrymwn yr argymhellion canlynol i wella budd-daliadau Cymru mewn ffordd sy’n bodloni anghenion defnyddwyr. Mae llawer o’r argymhellion hyn hefyd yn cyd-fynd yn agos â’r gwaith Braenaru sy’n cael ei wneud gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
- mae angen i bob ffurflen gais gael ei llunio i fodloni rheoliadau hygyrchedd Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We
- dylai pob ffurflen gais fod ar gael mewn iaith glir a dylid ystyried anghenion ieithyddol amrywiol
- dylai pob ffurflen gais fod ar gael mewn un fformat nad yw’n ddigidol o leiaf, i ganiatáu ar gyfer cynhwysiant
- dylai darparwyr ofyn i ymgeiswyr am wybodaeth na ellir ei chael o ffynonellau data presennol yn unig; defnyddio a rhannu’r data sydd ar gael i leihau’r baich ar yr ymgeisydd gymaint â phosibl
- dylai ceisiadau gael eu hawtomeiddio yn seiliedig ar y data sydd ar gael fel bod pobl sy’n gymwys i gael budd-daliadau yn derbyn eu hawl yn rhagweithiol ac nid oes angen iddynt wneud cais
- dylid sicrhau bod nifer o sianeli cyfathrebu, cyngor a chymorth ar gael fel bod pobl yn gallu cael at y cymorth ariannol y mae arnynt ei angen yn rhwydd; fe ddylai hyn gynnwys cymorth wyneb yn wyneb trwy hybiau cymunedol
- allgymorth wedi’i dargedu i ymgysylltu â chymunedau a ymyleiddiwyd er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o fudd-daliadau Cymru, annog mwyafu incwm a meithrin ymddiriedaeth
- dylai polisïau budd-daliadau gael eu hadolygu a’u symleiddio i wella dealltwriaeth y cyhoedd a chynyddu’r nifer sy’n manteisio ar fudd-daliadau
- rhesymoli a symleiddio meini prawf cymhwysedd i’w gwneud yn haws i bobl eu deall ac fel bod angen llai o gymorth
- mwy o gysondeb yn y rheoliadau a’r prosesau ar draws awdurdodau lleol i roi profiad mwy cyson i ymgeiswyr
- os caiff prosesau ymgeisio eu symleiddio, dylid mesur a monitro faint o gymorth sy’n angenrheidiol i weld a yw’r galw’n lleihau
- cyflwyno mwy o hyblygrwydd i drothwyon cymhwysedd er mwyn osgoi’r ‘ataliad disymwth’ ar hawliau pobl
- adolygu sut gellid gwneud y system yn fwy hyblyg i ymdopi â logisteg cyflogaeth a thâl
- adolygu defnyddioldeb tudalennau gwe cyllid cynghorau i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion defnyddwyr
- cyflwyno mwy o hyblygrwydd i Brydau Ysgol am Ddim i alluogi’r holl dderbynyddion i gael y prydau maen nhw eu heisiau/eu hangen
- adolygu’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer Gostyngiadau’r Dreth Gyngor i’w gwneud yn fwy eglur a chyson
- ymchwilio ymhellach i ddeall sut mae budd-daliadau Cymru yn methu â bodloni anghenion y cyhoedd yng Nghymru.
Cydnabyddiaeth
Ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl heb gymorth ein partneriaid a’n cyfranwyr.
Diolchwn i’r tîm craidd ar gyfer y prosiect hwn am eu cyfeiriad a’u harweiniad. Mae hyn yn cynnwys aelodau o Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol Cymru.
Rydym yn arbennig o ddiolchgar i gydweithwyr o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector a roddodd eu hamser a’u gwybodaeth i helpu i sicrhau bod y prosiect hwn yn llwyddiannus ac yn ystyrlon.
Diolch i’r sefydliadau canlynol:
- Age Cymru
- Autistic UK
- Tai Cymdeithasol Cyngor Caerdydd
- Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd
- Yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr
- Plant yng Nghymru
- Cyngor ar Bopeth
- Cartrefi Cymunedol Cymru
- Anabledd Cymru
- Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru
- Y Ganolfan Byd Gwaith
- Ymddiriedolaeth y Brenin
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Cyngor Glan yr Afon Caerdydd
- Tai Hedyn
- Ymddiriedolaeth Trussell
- Cyngor Cymru i Bobl Fyddar
- Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru
- Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
Yn olaf, hoffem ddiolch o galon i’r rhai a gymerodd ran yn y gwaith ymchwil a roddodd o’u hamser i rannu eu profiadau â ni. Hebddyn nhw, byddai’r gwaith hwn yn ddiystyr.
Atodiad
Croestoriadedd y cyfranogwyr
Roedd llawer o’r bobl y cynhaliwyd ymchwil â nhw yn perthyn i nifer o wahanol grwpiau defnyddwyr, y cyfeirir ato hefyd fel croestoriadedd. Mae y rhestr isod yn dangos nifer yr achosion o bob grŵp a ymyleiddiwyd yn y gwaith ymchwil hwn.
Recriwtio safonol cyfranogwyr, fel y nodwyd uchod
Gofalwyr - 5
Pobl anabl - 6
Pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol - 15
Pobl heb hawl i gyllid cyhoeddus - 3
Rhieni sengl - 2
Niferoedd grwpiau wedi’u haddasu gan ystyried croestoriadedd:
Gofalwyr - 8
Pobl anabl - 11
Pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol - 17
Pobl heb hawl i gyllid cyhoeddus - 6
Rhieni sengl - 7
Pan ystyrir croestoriadedd, cynhaliwyd ymchwil â phobl a oedd yn cynrychioli 49 o achosion o’r grwpiau a ymyleiddiwyd yr oeddem yn ymchwilio iddynt.