Dyma’r sesiwn cyntaf mewn cyfres newydd o weminarau gwyddor data a hwylusir gan Lywodraeth Cymru, CDPS a Data Cymru, i'r rhai yn yr sector cyhoeddus Cymru.
Sefydlwyd Uned Gwyddor Data Llywodraeth Cymru yn 2020 ac mae wedi bod yn cefnogi'r sefydliad i drawsnewid a moderneiddio dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn y sesiwn hwn, bydd Steven Hopkins, Gwyddonydd Data Arweiniol, yn rhoi trosolwg o sut mae’r Uned Gwyddor Data wedi:
- ymgorffori gwyddor data yn Llywodraeth Cymru
- cyflwyno offer a seilwaith newydd
- helpu i drawsnewid sut mae gwyddonwyr data a dadansoddwyr eraill yn defnyddio data
Bydd Steven hefyd yn trafod yr heriau a wynebwyd a sut mae'r tîm wedi mynd i'r afael â nhw.
Yn olaf, bydd trosolwg o'r prosiectau gwyddor data a fydd yn cael eu cynnwys yn fwy manwl ar draws sesiynau nesaf yn y gyfres weminarau.