Dyma’r hyn y byddwn yn ei drafod:

  • Trosolwg o brosiect system ddylunio i Gymru. Beth yw hyn? Beth mae e'n golygu? Pa fuddion y gellid eu cael?
  • Diweddariad ymchwil: Trosolwg o'r daith ymchwil yr ydym wedi bod arni. Byddwn yn rhannu manylion ynghylch pwy rydym wedi casglu mewnwelediadau ganddynt, beth yw eu heriau, beth yw eu hanghenion a beth fyddent yn ei werthfawrogi fwyaf o ran dylunio gwasanaethau cyhoeddus digidol.
  • Themâu: Byddwn yn ymchwilio i rai o'r themâu sydd wedi cael eu datgelu drwy'r darganfyddiad, beth yw anghenion rhai defnyddwyr a beth allai rhai o'r themâu hyn ei olygu ar gyfer y dyfodol
  • Beth nesaf: Byddwn yn trafod ein canfyddiadau llawn dros yr 11 wythnos o ddarganfyddiad ac yn cyflwyno ein argymhellion.

Dyma gyfle i ymgysylltu gyda Perago a CDPS a gofyn unrhyw gswestiynau am y datblygiadau diweddaraf a'r hyn sydd i ddod nesaf i'r system ddylunio i Gymru.