Wythnos Gwasanaethau 2025 – Dydd Iau 20 Mawrth, 9.30 nes 10am
Ymunwch â'n hymchwilwyr defnyddwyr profiadol Gabi Mitchem-Evans a Tom Brame wrth iddynt fynd ati i ymchwilio'n ddwfn i ymarferoldeb ymchwil defnyddwyr dwyieithog yng Nghymru.
Yn y sesiwn dangos a dweud hon, cewch wybod sut mae cymuned weithredu angerddol yn cyd-ddylunio canllawiau ar gyfer Llawlyfr Gwasanaethau Cymru – gan rannu sut y gellir cynnal ymchwil sy'n gynhwysol ac y gellir ei addasu pan nad yw amodau'r sefyllfa yn berffaith.
Dyma fyddwn ni'n ei drafod:
- realiti cynnal ymchwil i ddefnyddwyr mewn gwlad ddwyieithog
- trafod sut y gwnaethom weithio gyda chymuned o ymchwilwyr i gyd-ddylunio canllawiau
- ystyriaethau ymarferol wrth gynllunio ymchwil ddwyieithog
- yr heriau yr ydym yn eu hwynebu a'r hyn yr ydym yn dal i geisio ei ddatrys
Pam cymryd rhan?
- Os ydych yn gweithio mewn amgylchedd ddwyieithog neu amlieithog, efallai eich bod wedi wynebu heriau tebyg – byddem wrth ein bodd yn clywed am eich profiadau.
- Cyfle i archwilio gwahanol ddulliau, rhannu gwersi yr ydym wedi'u dysgu a chysylltu ag eraill sy'n ymdrin â'r un materion.
- Darparu cipolwg i chi o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud, ac os hoffech chi, gallwch gymryd rhan yn y gymuned gynyddol o ymchwilwyr sy'n archwilio'r maes hwn.
Ble a phryd?
- Dydd Iau 20 Mawrth, 9.30am nes 10am
- Wythnos Gwasanaethau 2025 (ar agor i gynulleidfaoedd yn y DU ac ar draws y byd)
- Cyfrwng: Microsoft Teams
Wythnos Gwasanaethau 2025
Pob blwyddyn, mae cymuned Ddigidol a Data'r Llywodraeth yn cynnal Wythnos Gwasanaethau. Yn ystod yr wythnos, mae gweithwyr proffesiynol o bob rhan o sector cyhoeddus y DU yn dod ynghyd. Eleni, dyma'r seithfed tro iddi cael ei chynnal - y dyddiadau yw 17 - 21 Mawrth 2025. Bydd yn archwilio gwasanaethau cyhoeddus trwy lensys arloesi digidol a dylunio gwasanaethau. Thema eleni yw ‘Gwasanaethau sy'n Canolbwyntio ar Bobl'.
Mae'r digwyddiadau'n agored i gyfranogwyr o bob sector a chefndir ac mae'r trefnwyr yn awyddus i gael safbwyntiau amrywiol a chreu cyfleoedd i gydweithio.