Ddydd Mercher 15 Mai am 2yp, bydd ein prentisiaid, Ruth, Alex a Sarah yn cynnal eu hail sioe dangos a dweud i rhoi diweddariad i ni am eu gwaith a'u profiadau diweddar.

Byddant yn cynnwys:

  • eu profiad yn gweithio ym maes ymchwil i ddefnyddwyr
  • eu hamser yn y coleg a’u hunedau 
  • hyfforddiant allanol ychwanegol y maent wedi'i gwblhau

Gellir gwylio eu sioe dangos a dweud blaenorol ar ein sianel YouTube.