Sut allwn ni adeiladu gwasanaethau cyhoeddus gwell i Gymru?  

Ar hyn o bryd ry'n ni'n cynnal ymchwil i ddeall yn well sut mae sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn mynd i’r afael â’r her o feithrin y sgiliau a’r galluoedd digidol sydd eu hangen i ddylunio a darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Yn benodol, canolbwyntio ar adeiladu'r sgiliau tebyg i DDaT, hynny sy'n hanfodol i ddylunio gwasanaeth da, megis dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, ymchwil defnyddwyr, a methodolegau ystwyth.

Yn y sioe dangos a dweud hon, byddwn yn rhannu pam mae'r gwaith hwn yn bwysig ac yn ddiweddariad ar ein cynnydd hyd yn hyn.  

Bydd cyfle hefyd i chi ddweud eich dweud a gofyn unrhyw gwestiynau i'r tîm.