Mae tîm o fewn CDPS wedi bod yn gweithio ar Alpha i lywio’r model asesiadau gwasanaeth ar gyfer y dyfodol yng Nghymru. Mae’r tîm yn defnyddio dull arbrofol ar gyfer gwaith yr Alpha ac yn cynnal 3 arbrawf. Nod y gwaith yw deall: 

  1. Beth ddylai’r gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd fod. 
  2. Sut ddylai gael ei weithredu. 
  3. Pwy sydd ei angen i’w ddarparu a’i gefnogi’n effeithiol. 

Yn y sioe dangos a dweud yma, bydd y tîm o CDPS yn rhannu canlyniadau ac allbynnau’r arbrawf Alpha cyntaf, ynghyd â manylion y gwaith Alpha sy’n weddill. Dewch i ymuno, dysgu am ein gwaith hyd yma a gofyn cwestiynau!