Sesiwn 1: Mapio eich gwasanaeth cyhoeddus gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ymunwch â Dan, Uwch Ddylunydd Gwasanaethau Iechyd a Gofal Digidol Cymru, wrth iddo esbonio sut y gall mapio gwasanaethau drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus. Yn y sesiwn hon, bydd Dan yn rhannu ei ddull o ddelweddu taith y defnyddiwr, gan dynnu sylw ar ei waith gyda phrosiectau Profiad gwaith Myfyrwyr Nyrsio a Phorth Mynediad Deintyddol. Dysgwch sut mae mapio yn datgelu pwyntiau pryder a chyfleoedd , gan gyfuno pobl, proses a thechnoleg i ysgogi gwelliannau i'r gwasanaeth.
Trosolwg o’r gyfres
Ymunwch â ni ar gyfer ein cyfres Cinio a Dysgu newydd: Mapio eich gwasanaeth cyhoeddus – sesiynau byr, 30 munud wedi'u cynllunio i mapio gwasanaeth a dod a hi’n fyw trwy astudiaethau achos ymarferol gan sector cyhoeddus Cymru. Byddwn yn eu cynnal bob pythefnos o ddechrau mis Mawrth, bydd y gyfres hon yn archwilio sut mae sefydliadau'n defnyddio mapio gwasanaethau i wella profiadau defnyddwyr, mynd i'r afael â heriau gweithredol, a dylunio gwasanaethau cyhoeddus mwy cyson ac effeithiol.
Drwy'r gyfres hon, byddwn yn tynnu sylw at arferion da, yn rhannu gwersi a ddysgwyd, ac yn archwilio dulliau cyffredin sy'n gwneud gwahaniaeth ledled Cymru. P'un a ydych chi'n newydd i fapio gwasanaethau neu'n edrych i fireinio'ch dull, bydd y sesiynau hyn yn rhoi mewnwelediadau ymarferol i'ch helpu i ddechrau arni.