Sesiwn 2: Mapio eich gwasanaeth cyhoeddus gyda Grŵp Pobl

Ymunwch â Leah McDaid, Jon Oliver, a Linda James o Grŵp Pobl wrth iddynt rannu eu dull o adolygu ac ailgynllunio eu gwasanaeth atgyweirio. Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut mae mapio prosesau busnes ac ymchwil defnyddwyr yn llunio dylunio gwasanaethau yn y dyfodol, gan dynnu sylw at heriau allweddol, gwersi a ddysgwyd, a'r camau nesaf. Fel prosiect parhaus, mae hwn yn gyfle i glywed mewnwelediadau amser real ar yr hyn sy'n gweithio, beth sy'n esblygu, a sut mae Pobl yn defnyddio mapio gwasanaethau i wella profiad y cwsmer.

Trosolwg o’r gyfres

Ymunwch â ni ar gyfer ein cyfres Cinio a Dysgu newydd: Mapio eich gwasanaeth cyhoeddus – sesiynau byr, 30 munud wedi'u cynllunio i mapio gwasanaeth a dod a hi’n fyw trwy astudiaethau achos ymarferol gan sector cyhoeddus Cymru. Byddwn yn eu cynnal bob pythefnos o ddechrau mis Mawrth, bydd y gyfres hon yn archwilio sut mae sefydliadau'n defnyddio mapio gwasanaethau i wella profiadau defnyddwyr, mynd i'r afael â heriau gweithredol, a dylunio gwasanaethau cyhoeddus mwy cyson ac effeithiol. 

Drwy'r gyfres hon, byddwn yn tynnu sylw at arferion da, yn rhannu gwersi a ddysgwyd, ac yn archwilio dulliau cyffredin sy'n gwneud gwahaniaeth ledled Cymru. P'un a ydych chi'n newydd i fapio gwasanaethau neu'n edrych i fireinio'ch dull, bydd y sesiynau hyn yn rhoi mewnwelediadau ymarferol i'ch helpu i ddechrau arni.