Sesiwn 3: Mapio eich gwasanaeth cyhoeddus gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Ymunwch â Kay O'Flaherty, Pennaeth Gwasanaeth Digidol, Cwsmeriaid a Chymraeg, a Rob Griffiths, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Digidol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, wrth iddynt archwilio trawsnewidiad digidol proses ymgeisio tai y cyngor. Bydd y sesiwn hon yn datgelu sut y cafodd system sy'n cymryd llawer o amser ar bapur ei hail-ddylunio gan ddefnyddio technegau mapio gwasanaethau i symleiddio gweithrediadau a gwella profiad y defnyddiwr. Dysgwch sut mae mapio "Fel y mae" a "Fel y bydd," ochr yn ochr â mewnwelediadau sy'n cael eu gyrru gan ddata, wedi symud y mwyafrif o’r ceisiadau I gael eu cyflwyno ar-lein, gan leihau'r methiant am alw a gwella cyfathrebu.

Trosolwg o’r gyfres

Ymunwch â ni ar gyfer ein cyfres Cinio a Dysgu newydd: Mapio eich gwasanaeth cyhoeddus – sesiynau byr, 30 munud wedi'u cynllunio i mapio gwasanaeth a dod a hi’n fyw trwy astudiaethau achos ymarferol gan sector cyhoeddus Cymru. Byddwn yn eu cynnal bob pythefnos o ddechrau mis Mawrth, bydd y gyfres hon yn archwilio sut mae sefydliadau'n defnyddio mapio gwasanaethau i wella profiadau defnyddwyr, mynd i'r afael â heriau gweithredol, a dylunio gwasanaethau cyhoeddus mwy cyson ac effeithiol. 

Drwy'r gyfres hon, byddwn yn tynnu sylw at arferion da, yn rhannu gwersi a ddysgwyd, ac yn archwilio dulliau cyffredin sy'n gwneud gwahaniaeth ledled Cymru. P'un a ydych chi'n newydd i fapio gwasanaethau neu'n edrych i fireinio'ch dull, bydd y sesiynau hyn yn rhoi mewnwelediadau ymarferol i'ch helpu i ddechrau arni.