'Sut mae 'da' yn edrych?' gyda Jason Evans, Rheolwr Data Agored, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar sut olwg sydd ar ddata da yn y sector treftadaeth ddiwylliannol ac yn archwilio’r broses ac agweddau technegol o alinio data ar draws sawl sefydliad, gan oresgyn seilos data caeedig i gyfoethogi profiad y defnyddiwr.
Mae defnyddio Wikidata (data agored cysylltiedig) i gysylltu elfennau data cyffredin fel pobl a lleoliadau wedi helpu i greu data dwyieithog cyfoethog y gall pawb ei ailddefnyddio’n rhwydd.
Er bod yr astudiaeth achos hon yn canolbwyntio ar waith Llyfrgell Cenedlaethol Cymru, mae hefyd yn tynnu sylw at y budd o fabwysiadu safonau data cyffredin agored i symleiddio gwasanaethau a gwella darganfyddadwyedd o fewn setiau data. Mae’r gwaith hwn wedi arwain at gydweithio Newydd ac enghreifftiau lluosog o ddata yn cael eu hailddefnyddio a’u hailbwrpasu i greu apiau a gwasanaethau newydd.
Cyfle i ddysgu dros ginio gyda'n cyfres weminarau sydd i ddod, 'Sut mae ‘da’ yn edrych?' a gynhelir gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS). Ymunwch â ni wrth i ni rannu ein straeon llwyddiant o drawsnewid digidol o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd cyfle ichi ddarganfod mwy am:
- sefydliadau ac unigolion ysbrydoledig
- strategaethau allweddol a mewnwelediadau gan weithwyr proffesiynol digidol sy'n sbarduno newid yn y sector cyhoeddus
- awgrymiadau ymarferol ar gyfer goresgyn heriau a chael effaith barhaol
P'un a ydych chi'n weithiwr proffesiynol digidol profiadol neu'n newydd i'r daith trawsnewid digidol, mae'r gyfres hon yn addo rhoi'r wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i sbarduno newid ystyrlon yn eich sefydliad.