'Sut mae ‘da’ yn edrych?' gyda Linda James, Dylunydd Gwasanaeth, Cymdeithas Tai Linc Cymru
Cefndir
Nod y prosiect moderneiddio cartrefi nyrsio oedd gwneud cofnodion y rheini sy'n byw mewn tri chartref nyrsio yn gofnodion digidol/ar-lein.
Y cam cyntaf oedd siarad â staff er mwyn clywed eu barn o ran creu gweledigaeth gyffredin. Galluogodd hyn i ni allu darparu ateb wedi'i gynllunio o ran holl anghenion y staff a'r busnes; gan roi ymgysylltiad cryf â rhanddeiliaid i ni gan sicrhau bod yr atebion yn cael eu cyflwyno a'u rhoi ar waith mewn dull effeithiol.
Roeddem am ddeall pwy a fyddai'n elwa o'r systemau newydd hyn a sut y byddai'r dechnoleg yn cael ei chyflwyno.
Dyma fyddwn ni'n ei thrafod yn y sesiwn
Yn y sesiwn, byddwn yn disgrifio sut y gwnaethom ymchwilio, cyd-ddylunio a chyd-weithio i gaffael a rhyddhau cynhyrchion ar gyfer cynllunio gofal, dosbarthu meddyginiaethau a rheoli stoc (eMAR) ac atodlenni gweithio ar gyfer yr holl staff, oll ar yr un pryd. Hefyd, byddwn hi’n trafod sut yr aethon ni ati i ymgysylltu â phobl, y broses a'r dechnoleg.