Mae Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn falch o gynnig hyfforddiant i unigolion sy’n gweithio i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru.
Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar hanfodion dylunio gwasanaeth a dylunio cynnwys.
- Deall sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio a gwasanaeth/ cynnwys
- Syniadau ac atebion posibl
- Cynllunio cynnwys hygyrch a dwyieithog
- Patrymau gwasanaeth
- Profi atebion a chynnwys posibl
- Gweithredu atebion a chyhoeddi cynnwys
- Pwrpas rhannu gwelliannau
- Sut i wella gwasanaethau ailadroddus
Bydd y cwrs yn cymryd 6 awr, wedi’i rannu yn 2 sesiwn, 3 awr.
Rydych wedi archebu lle am 9.30am - 12.30pm 13 Tachwedd a 9.30am - 12.30pm 20 Tachwedd.
Cyn archebu lle sicrhewch eich bod ar gael ar gyfer y ddwy sesiwn.
I gynnal y cwrs mae angen oleiaf 6 cyfranogwr arnom. Os oes gennym lai na 6 yn bresennol byddwn yn canslo neu yn ail-drefnu'r sesiwn.