21 Ionawr 2025, 10am i 11am

Microsoft Teams

Cyflwynydd: Jack Garfinkel, Cynllunydd Cynnwys, Content Design London

Anabledd, iaith a dylunio

Sut allwch chi wneud eich gwasanaethau a'ch cynnwys yn fwy cynhwysol?

A ddylech chi ddweud 'pobl anabl', 'pobl ag anableddau', neu rywbeth arall?

Yn y weminar hon, bydd Jack Garfinkel, Dylunydd Cynnwys, Content Design London, yn archwilio'r model cymdeithasol o anabledd a sut y gall eich helpu i greu cynhyrchion a gwasanaethau gwell, mwy cynhwysol. Bydd Jack hefyd yn esbonio pam y gall iaith gyfreithiol a meddygol fod yn rhwystr weithiau yn hytrach na help.

Dewch â'ch cwestiynau – bydd amser i holi ac ateb ar y diwedd archwilio'r heriau a'r cyfleoedd rydych chi'n eu hwynebu yn eich gwaith eich hun. 

Ynglŷn â'r cyflwynydd

Mae Jack Garfinkel yn ddylunydd cynnwys yn Content Design London, sy'n helpu i wneud cynnwys hygyrch i elusennau, llywodraeth a busnesau. 

Mae’n cael ei ystyried fel arbenigwr hygyrchedd yn y sector, mae gan Jack ddiddordeb mewn helpu eraill gyda'u dyluniad cynnwys, gwneud penderfyniadau sy'n cael eu gyrru gan ddata, ac ymgorffori adborth mewn prosesau a thimau.

Yn flaenorol, buont yn gweithio gyda'r elusen anabledd, Scope lle gwnaethant ddylunio cynnwys ar gyfer pobl anabl a'u teuluoedd, gan wneud gwybodaeth dechnegol, gyfreithiol a meddygol gymhleth yn syml a hygyrch. Mae gan Jack ddiddordeb hefyd mewn sut y gall dylunio a pholisi gynnwys neu eithrio pobl o gymdeithas a bywyd cyhoeddus.