Ynglyn a Dolenni Digidol

Mae Dolenni Digidol yn gyfres rhwydweithio cenedlaethol a rhanbarthol ar gyfer uwch arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, sy’n hyrwyddo dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a Safon Gwasanaeth Digidol. Mae digwyddiadau personol fel hyn yn darparu cyfle i arweinywr gysylltu, rhannu mewnweliadau, a thrafod heriau gwasanaeth cyhoeddus drwy drafodaethau agored.Mae’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal gan CDPS ac yn cael eu cadeirio gan ein huwch dim arwain, ac mae’r digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau yng Nghymru bob yn ail fis. Er mwyn sicrhau hygyrchedd a chynwysoldeb rydym yn ffrydio ein sesiynau’n fyw, gan wahodd cynulleidfa ehangach i ymgysylltu.

Bydd manylion y lleoliad, thema a siaradwyr yn cael eu cyhoeddi maes o law