Dyma gyhoeddi y cynhelir ein cyfarfod wyneb yn wyneb nesaf ar gyfer Cymuned Ymchwil Defnyddwyr Cymru Ddydd Iau 26 Mehefin yn Urban Centric (BizSpace gynt), Caerdydd.
Rydym wedi cael adborth defnyddiol gan aelodau o'r gymuned. Maen nhw am rannu a dysgu am ba ymchwil sy'n digwydd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn gallu dod o hyd i gyfleoedd i gydweithio a chael cefnogaeth gan gymheiriaid. Yn ogystal, maent yn awyddus i gael syniadau ymchwil creadigol i ysbrydoli ffyrdd newydd o feddwl a datrys problemau ar brosiectau.
Yn sgil yr adborth hwn, rydym wedi cynllunio diwrnod i’w trafod. Rydym yn gobeithio y byddwch yn gallu ymuno â ni ar gyfer diwrnod hwyliog o ddysgu a rhannu.
Agenda:
10am to 10.30am Cyrraedd, coffi a sgwrs
10.30am to 10.45am Croeso a chyflwyniad
10.45am to 12.00pm Sgyrsiau cyflym: 5 munud o sgyrsiau ar ymchwil sy'n digwydd yng Nghymru a chwestiynau
12.00pm to 12.30pm Rhwydweithio: trin â thrafod, siarad â gwahanol bobl, darganfod:
- Beth allwch chi ei ddysgu oddi wrth eich gilydd
- Sut allwch chi helpu'ch gilydd
12.30pm to 1.15pm Cinio
1.15pm to 2.00pm Sgwrs: Ymchwil creadigol a dulliau gweithio wyneb yn wyneb
2.00pm to 3.30pm Gweithgaredd: Herio methodolegau confensiynol trwy ddefnyddio dulliau ymchwil mwy creadigol
3.30pm to 4pm Trafod a chloi
Yr hyn yr hoffem ei gael gennych chi
Er mwyn sicrhau y bydd y diwrnod yn llwyddiant, hoffem i chi rannu eich gwaith a'ch straeon. Anfonwch yr wybodaeth atom mewn e-bost atom os yn bosibl:
- Sgwrs 5 munud gyflym
- Enghreifftiau o ddulliau neu brosiectau ymchwil personol neu greadigol (croeso i bob awgrym!)
Hoffem glywed gan amrywiaeth o leisiau. Nid oes rhaid i chi fod wedi cynnal sgwrs o'r blaen na gyda'r ymchwil mwyaf datblygedig/cyffrous. Os ydych yn ansicr a ddylech greu un ai peidio, anfonwch neges atom a gallwn eich helpu.
Welwn ni chi yno!