'Sut mae ‘da’ yn edrych?' gyda Nickki Johns, Pennaeth Digidol, Cyngor Bro Morgannwg

Cyfle i ddysgu dros ginio gyda'n cyfres weminarau sydd i ddod, "Sut mae ‘da’ yn edrych?" a gynhelir gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS). Ymunwch â ni wrth i ni rannu ein straeon llwyddiant o drawsnewid digidol o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. 

Bydd cyfle ichi ddarganfod mwy am: 

  • sefydliadau ac unigolion ysbrydoledig
  • strategaethau allweddol a mewnwelediadau gan weithwyr proffesiynol digidol sy'n sbarduno newid yn y sector cyhoeddus 
  • awgrymiadau ymarferol ar gyfer goresgyn heriau a chael effaith barhaol

P'un a ydych chi'n weithiwr proffesiynol digidol profiadol neu'n newydd i'r daith trawsnewid digidol, mae'r gyfres hon yn addo rhoi'r wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i sbarduno newid ystyrlon yn eich sefydliad.