Ddydd Iau 25 Ebrill 2024 bydd y Gymuned Ymarfer Ymchwil Defnyddwyr yn cyfarfod wyneb yn wyneb yn Sbarc/Spark yng Nghaerdydd. Bydd hwn yn gyfle i drin a thrafod a chydweithio gydag ymchwilwyr eraill i ddrafftio set o safonau/canllawiau ar gyfer cynnal ymchwil defnyddwyr yn y Gymraeg. Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim.

Ar hyn o bryd, dyma drefniant y diwrnod:

  • 9.30yb – Cyrraedd a rhwydweithio dros de, coffi a theisennau crwst
  • 10.30yb – Trafodaethau a gweithgareddau (rhagor o fanylion maes o law)
  • 1yh – Cloi