Ymunwch â ni i glywed am brosiect cyffrous ar gymhwyso deallusrwydd artiffisial (Modelau Iaith Mawr) i ddylunio cynnwys. Bydd y weminar hon yn cael ei chyflwyno gan Joe Lewis o Uned Gwyddor Data Llywodraeth Cymru. 

Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar offeryn prawf cysyniad y gall cydweithwyr heb brofiad dylunio cynnwys ei ddefnyddio i olygu eu gwaith i gael drafft cyntaf gwell. I adeiladu’r offeryn,mae’r tîm wedi gweithio gyda gweithwyr proffesiynol dylunio cynnwys mewnol. Nod yr offeryn yw caniatau iddynt ganolbwyntio eu profiad ar broblemau mwy heriol. Yn y cyfamser, mae AI yn gweithio i ddal gwallau a golygiadau mwy cyffredin.  

Bydd y weminar hon yn ymdrin â 

  • cwmpas a nodau’r prosiect
  • cefndir ar AI yn y gofod dylunio cynnwys a hygyrchedd
  • dull y tîm. Mae hyn yn cynnwys adolygiad o asesiad awtomataidd o hygyrchedd a’r metrigau a ddefnyddir i asesu perfformiad 
  • yr awgrymiadau, modelau a thechnegau gorau i greu drafftiau cyntaf gwell o gynnwys

Bydd y weminar hefyd yn cynnwys arddangosiad o’r Cynothwyydd Dylunio Cynnwys AI, Dylun. Byddwn yn edrych ar sut y gall Dylun helpu i gymhwyso canllawiau arddull Llywodraeth Cymru ar arferion hygyrchedd trwy ddeallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy cyn y sesiwn, mae blog rhagarweiniol ar gael ar Blog Digidol a Data Llywodraeth Cymru.