Ymunwch â'n gweminar gwyddor data lle byddwn yn archwilio rhaglen trawsnewid dadansoddwyr Llywodraeth Cymru. Maent yn datblygu eu seilwaith dadansoddol a'u ffyrdd o weithio i fod yn fwy cynaliadwy, effeithlon ac effeithiol. 

Yn y sesiwn, byddwn yn trafod: 

  • Nodau, cyfnodau ac amserlenni y rhaglen 'Cynaliadwy. Effeithlon. Effeithiol’ (SEE) 
  • Adeiladu gallu a sefydlu adnoddau 
  • Trafod y cyflawniadau hyd yma a'r camau nesaf 
  • Astudiaeth achos ymarferol: enghraifft weithredol o broses sydd wedi'i thrawsnewid o SAS i R a’r manteision a ddaeth yn sgil hynny.