'Sut mae ‘da’ yn edrych?' gyda Tracey Bell, Pennaeth Cynllunio Digidol, Gofal Cynlluniedig a Chymuned ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Cefndir

Mae Gweinyddiaeth Rhagnodi Electronig a Meddyginiaethau Ysbytai (HEPMA) wedi disodli siartiau meddyginiaeth papur yn effeithiol ar draws lleoliadau gofal eilaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.  Bellach, maent yn defnyddio siartiau ar ffurf ddigidol sy’n eithriadol o hygyrch. Cyrhaeddodd y system garreg filltir newydd ym mis Ebrill ac mae bellach ar gael ar draws holl wardiau meddygol a llawfeddygol cleifion mewnol oedolion Ysbytai Treforys, Singleton, Gorseinon a Chastell-nedd Port Talbot. Mae HEPMA hefyd wedi'i weithredu'n llwyddiannus ar draws pob safle iechyd meddwl a bydd y weinyddiaeth yn ymdrin â chleifion anableddau dysgu ym mis Awst 2024, yn amodol ar uwchraddio llwyddiannus gan wneud y system yn fwy ymarferol.

Dyma fydd yn cael ei drafod yn y sesiwn hon

Yn y sesiwn hon, byddwn yn rhannu gyda chi'r ffordd yr aethon ni ati i roi’r prosiect hwn ar waith. Byddwn yn trafod y llwyddiannau, yr heriau, y manteision a wireddwyd hyd yma, yn ogystal â rhoi darlun i chi o ble mae'r prosiect wedi cyrraedd ynghyd a thrafod gyda chi'r gwersi rydyn ni wedi’i dysgu. Byddwn hefyd yn trafod y modd yr aethon ni ati i ymgysylltu â phobl, y broses ei hunan ac yn trafod y dechnoleg a ddefnyddiwyd.