Wythnos Gwasanaethau 2025 – Dydd Mercher 19 Mawrth, 1.30pm i 2pm, Ar-lein (Microsoft Teams)

Amseroedd aros hir, prosesau cymhleth, a diffyg gwybodaeth glir – dyma rai enghreifftiau o'r heriau sy'n wynebu pobl niwrowahanol sy'n aros am asesiadau. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae CDPS wedi bod yn gweithio gyda thîm niwrowahaniaeth ac anableddau dysgu Llywodraeth Cymru i archwilio sut y gallai offer digidol wella'r gefnogaeth sydd ar gael, symleiddio prosesau a lleihau aneffeithlonrwydd yn y system.

Yn y sesiwn hon, bydd ein Rheolwr Cyflenwi, Poppy Evans, yn rhannu'r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu yn sgil gweithio gydag unigolion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol niwrowahanol, a sut roedd eu profiadau yn siapio datblygiad datrysiadau digidol posibl.

Dyma fyddwn ni'n ei drafod:

  • yr heriau allweddol sy'n wynebu pobl sy'n aros am asesiadau niwrowahaniaeth 

  • mewnwelediadau o'n hymchwil defnyddwyr gydag unigolion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol 

  • syniadau a archwiliwyd gennym, gan gynnwys teclyn digidol ar gyfer casglu gwybodaeth yn fwy effeithlon 

  • y cam nesaf a sut y gallwch chi gymryd rhan 

Pam ymuno?

  • Os ydych chi'n gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol neu ddylunio gwasanaethau, mae'r sesiwn hon yn cynnig cipolwg ar sut y gall systemau digidol helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus cymhleth. 

  • Byddwch yn clywed myfyrdodau gonest am yr hyn sydd wedi gweithio, yr hyn nad oedd yn llwyddiannus a'r hyn sy'n dal i gael ei drafod. 

  • Rydym yn croesawu cwestiynau ac yn awyddus i glywed am brofiadau cyffredin y rheini sy'n gweithio ar heriau tebyg mewn mannau eraill. 

Ble a phryd?

  • Dydd Mercher 19 Mawrth, 1.30pm i 2pm 

  • Wythnos Gwasanaethau 2025 (ar agor i gynulleidfaoedd yn y DU ac yn rhyngwladol) 

  • Microsoft Teams 

Wythnos Gwasanaethau 2025

Mae Wythnos Gwasanaethau yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir gan gymuned Ddigidol a Data'r Llywodraeth, gan ddod â gweithwyr proffesiynol ynghyd o bob rhan o'r sector cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Yn ei seithfed flwyddyn, cynhelir Wythnos Gwasanaethau 2025 rhwng 17 a 21 Mawrth 2025 a bydd yn archwilio gwasanaethau cyhoeddus o bersbectif arloesi digidol a dylunio gwasanaeth. Thema eleni yw ‘Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar bobl’.

Mae'r digwyddiadau'n agored i gyfranogwyr o bob sector a chefndir ac yn awyddus i gael safbwyntiau amrywiol a chyfleoedd i gydweithio.