Addas ar gyfer
Penaethiaid adrannau, gwasanaethau, neu sydd mewn rôl arweinyddiaeth debyg sydd:
- wedi cwblhau Digidol ac Ystwyth: y sylfeini a sydd am roi dulliau hyblygar waith yn eu tîm
- â dylanwad dros adnoddau a ffyrdd o weithio
Cost
Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i sefydliadau datganoledig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae'n cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.
Yn gyfnewid am hyn, gofynnwn i chi ein helpu i wella'r cyrsiau hyn i eraill drwy gymryd rhan mewn ymchwil.
Cynnwys y cwrs
Bydd ein cwrs yn:
- dangos i chi sut i fabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
- eich helpu i sefydlu rolau, cyfrifoldebau a ffyrdd clir o weithio o fewn tîm Ystwyth
- dangos i chi sut i gynllunio map ffordd cynnyrch
- dangos sut i hwyluso sesiwn retro i adlewyrchu a gwella ffyrdd o weithio
- trafod sut i greu amgylchedd i bobl wneud eu gwaith gorau
- dangos i chi sut i ddangos cynnydd drwy weithio yn agored
- rhoi cyngor i chi ar ddechrau arni yn eich tîm
Canlyniadau'r cwrs
Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu:
- deall gwerthoedd ac egwyddorion ffyrdd hyblyg o weithio
- esbonio'r gwahaniaeth rhwng meddylfryd prosiect a chynnyrch a sut mae hyn yn cysylltu â gwahanol ddulliau (megis Rhaeadr ac Ystwyth)
- creu gweledigaeth gwasanaeth i gyflawni nodau mesuradwy trwy ffyrdd hyblyg o weithio
- asesu effaith adeiladu timau traws-swyddogaethol
- myfyrio ar ffyrdd o wella arferion gwaith o fewn timau Agile
- blaenoriaethu agweddau ar fap ffordd cynnyrch, sy'n cyd-fynd â gweledigaeth eich gwasanaeth
- esbonio pwysigrwydd mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
- dechrau creu amgylchedd i bobl wneud eu gwaith gorau
Cofrestru eich diddordeb
Nid ydym yn derbyn ceisiadau newydd am hyfforddiant ar hyn o bryd wrth i ni wneud newidiadau i'n cyrsiau.
Os ydych chi eisiau gwybod a yw ein crws newydd Sylfeini Ystwyth ar gyfer arweinwyr yn iawn i chi neu'ch tîm, cwblhewch ein ffurflen mynegi diddordeb.