Trosolwg

Cwrs wedi'i recordio ymlaen llaw i ddysgu yn eich pwysau.

Dysgu hanfodion ffyrdd digidol ac ystwyth o weithio y gallwch eu hymgorffori yn eich gwasanaeth neu eu defnyddio ymysg eich tim, gan gynnwys:

  • gweithio'n sector cyhoeddus Cymru i ddarparu gwasanaethau datganoledig
  • sut i asesu pa ddull sy'n addas i'ch gwasanaeth chi
  • manteision dull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr o ran gwasanaethau cyhoeddus

Ar gyfer pwy mae'r cwrs

Mae'r cwrs hwn yn addas i'r rheini sydd yn:

  • gweithio yn sector cyhoeddus Cymru
  • erioed wedi bod ar un o gyrsiau CDPS o'r blaen
  • yn newydd i ffyrdd digidol ac ystwyth o weithio

Cost

Mae'r cwrs hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae'n rhad ac am ddim i'r rhai sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n darparu gwasanaethau datganoledig.

Os nad ydych yn siŵr, gallwch wirio'r gofrestr o gyrff cyhoeddus datganoledig.

Yn gyfnewid am hyn, gofynnwn i chi ein helpu i wella'r cyrsiau hyn drwy gymryd rhan mewn ymchwil.

Sut mae'n gweithio

Cwrs wedi'i recordio ymlaen llaw y gallwch droi ato ar unrhyw adeg, yn unrhyw le:

  • ewch ati i astudio elfennau'r cwrs yn eich amser eich hun, dysgwch pryd bynnag sy'n gyfleus i chi
  • trefnwch eich amserlen a'ch cynnydd heb hyfforddwr

Rydym yn amcangyfrif y dylai gymryd tua 1.5 i 2.5 awr ar gyfartaledd i gwblhau'r cwrs.

Ar ddiwedd y cwrs, byddwn yn gofyn i chi lenwi holiadur adborth i'n helpu i wella ein hyfforddiant.

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu:

  • beth yw dulliau gweithio ‘digidol’ ac ‘ystwyth’
  • hanes dull gweithio Hyblyg, sut y daeth i fodolaeth, a pham
  • y gwahaniaethau rhwng y dulliau gweithio ystwyth a rhaeadr

Ar ddiwedd y cwrs, byddwch yn deall:

  • pryd i ddefnyddio Dulliau gweithio Ystwyth a Rhaeadr
  • sut i asesu pa ddull sy'n addas i'ch gwasanaeth chi
  • manteision dull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr o ran gwasanaethau cyhoeddus

Yr hyn y bydd ei angen arna chi

Bydd angen dyfais arnoch sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd a mynediad i'r platfform dysgu.


 

Cofrestru