Addas ar gyfer
- Y rhai sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n darparu gwasanaethau datganoledig. Os nad ydych yn siŵr, gallwch wirio ar y gofrestr o gyrff cyhoeddus datganoledig.
- Y rhai nad ydynt erioed wedi bod ar gwrs hyfforddi CDPS o'r blaen.
- Y rhai sy'n newydd i ffyrdd digidol ac Ystwyth o weithio.
Cost
Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i sefydliadau datganoledig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae'n cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.
Yn gyfnewid am hyn, gofynnwn i chi ein helpu i wella'r cyrsiau hyn i eraill drwy gymryd rhan mewn ymchwil.
Cynnwys y cwrs
Bydd ein cwrs yn:
- rhoi trosolwg o ffyrdd digidol ac Ystwyth o weithio
- cwmpasu hanes Ystwyth, sut a pham y daeth i'r amlwg
- edrych ar y gwahaniaeth rhwng ffyrdd Rhaeadr a Ystwyth o weithio
Canlyniadau'r cwrs
Ar ddiwedd ein cwrs, byddwch yn gallu:
- deall beth mae 'digidol' yn ei olygu
- cymharu ffyrdd Rhaeadr ac Ystwyth o weithio
- asesu pryd i gymhwyso dulliau Rhaeadr ac Ystwyth
- deall pwysigrwydd dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr o fewn gwasanaethau
Cofrestru eich diddordeb
Nid ydym yn derbyn ceisiadau newydd am hyfforddiant ar hyn o bryd wrth i ni wneud newidiadau i'n cyrsiau.
Os ydych chi eisiau gwybod a yw ein crws newydd Digidol ac Ystwyth: y seiliau yn iawn i chi neu'ch tîm, cwblhewch ein ffurflen mynegi diddordeb.