Cofrestrwch ar gyfer Dolenni Digidol: Arweinyddiaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hygyrch a chynhywsol

Rydych yn archebu ar gyfer
Dydd Mercher 29 Ionawr 2025, 5-7pm

Mae Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn cynnal digwyddiad panel yn Da Coffi, Caerdydd, gyda’r nos er mwyn i uwch arweinwyr y sector cyhoeddus archwilio pwnc hanfodol hygyrchedd digidol a’i effaith ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’r digwyddiad hwn yn dilyn ein darganfyddiad diweddar i gyflwr hygyrchedd yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru, a ddatgelodd heriau sylweddol gan gynnwys:

  • diffyg atebolrwydd am fodloni rheoliadau hygyrchedd
  • bylchau mewn sgiliau a hyfforddiant ar draws sefydliadau
  • amwysedd ynghylch cyfrifoldebau arweinyddiaeth
  • ni fydd hygyrchedd yn cael ei flaenoriaethu ar lefelau uwch

Bydd ein panel nodedig o siaradwyr yn pwysleisio pam y dylid ystyried hygyrchedd yn flaenoriaeth yn hytrach na dim ond tasg cydymffurfio.

Mae’r siarwdwyr gwadd yn cynnwys:

  • Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • Joanna Goodwin, Pennaeth Dylunio sy’n canolbwyntio ar y Defnyddiwr, Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
  • Martyn Jones, Cadeirydd Dros Dro Pwyllgor Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • Jack Garfinkel, Dylunydd Cynnwys, Content Design London

Bydd y digwyddiad hwn yn lwyfan ar gyfer trafodaethau sy’n ysgogi’r meddwl, mewnweliadau panel, a chyfleodd rhyngweithio gydag uwch arweinwyr o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus Cymru. 

Bydd lluniaeth ar gael drwy gydol y digwyddiad.

Mae llefydd yn gyfyngedig felly anogir cofrestru’n gynnar.

Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â seren(*).

Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd, a byddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’ch cyfrif ac i ddarparu’r cynhyrchion a’r gwasanaethau y gofynnoch amdanynt gennym ni. O bryd i'w gilydd, hoffem gysylltu â chi am ein cynnyrch a'n gwasanaethau, yn ogystal â chynnwys arall a allai fod o ddiddordeb i chi.

Os ydych yn cydsynio i ni gysylltu â chi at y diben hwn, ticiwch isod i ddweud sut yr hoffech i ni gysylltu â chi:

Marketing Options

I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddad-danysgrifio, ein harferion preifatrwydd, a sut rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd, adolygwch ein Polisi Preifatrwydd.Drwy glicio cyflwyno isod, rydych chi'n cydsynio i ganiatáu i'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol storio a phrosesu'r wybodaeth bersonol a gyflwynwyd uchod er mwyn darparu'r cynnwys y gofynnwyd amdano i chi.