Ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, eleni byddwn yn cynnal digwyddiad mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ar ysgrifennu triawd - dull newydd o ddylunio gwasanaethau dwyieithog. Byddwn yn rhoi arddangosiad o sut mae'r broses yn gweithio ac yn clywed profiadau uniongyrchol gan sefydliadau sector cyhoeddus Cymru sydd wedi bod yn rhoi hyn ar waith. Bydd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, yn ymuno â ni i lansio ein llyfr newydd am ysgrifennu triawd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r digwyddiad, llenwch y ffurflen archebu isod.
Sylwch nad yw cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn yn rhoi mynediad i chi i'r Eisteddfod, mae tocynnau ar gael ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol.
Unrhyw gwestiynau pellach? Cysylltwch â: comms@digitalpublicservices.gov.wales