Mae deallusrwydd artiffisial a thechnolegau digidol newydd yn trawsnewid sut y darperir gwasanaethau cyhoeddus. Mae ganddynt y potensial i wella cydraddoldeb, ond gallent hefyd arwain at wahaniaethu. Os na fydd cyrff cyhoeddus yn cymryd camau i warchod rhag hyn, gallent wynebu difrod i’w henw da a chamau cyfreithiol am dorri Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED). Mae angen i gyrff cyhoeddus ystyried y PSED o'r cychwyn cyntaf wrth feddwl a ddylid defnyddio AI. Bydd y sesiwn hon yn eich cyflwyno i ganllawiau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar Ddeallusrwydd Artiffisial: Diwallu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Bydd hefyd yn rhannu dysgu o "archwiliad dwfn" diweddar y Comisiwn i sut mae awdurdodau lleol yn Lloegr a'r Alban yn ymdrin â chydraddoldeb wrth ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial, gan gynnwys rhai enghreifftiau o arfer dae a phroblemau i'w hosgoi.