Rydym yn cynnal sioe a dweud i sefydliadau ddysgu mwy am y cynllun prentisiaeth dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr a ariennir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe ac a ddarperir gan Goleg Gŵyr mewn partneriaeth efo CDPS.
Yn y cynllun hwn, bydd tri prentis yn gael cymwysterau academaidd mewn dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr trwy Goleg Gŵyr tra hefyd yn gael hyfforddiant yn y swydd yn CDPS.Gan fod hwn yn brentisiaeth newydd, mae hyblygrwydd i ddatblygu'r cynllun mewn ffordd sy’n elwa y sector cyhoeddus ehangach Cymru ac sy'n effeithio ar y prinder sgiliau o fewn rolau digidol yng Nghymru. Ein gobaith yw datblygu'r cynllun yn rhaglen brentisiaeth a rennir. Bydd hyn yn sicrhau bod pob prentis yn gael gwybodaeth werthfawr o bob rhan o iechyd, awdurdodau lleol a llywodraeth ganolog.