Ydych chi'n chwilfrydig ynghylch ystyr digidol yng nghyd-destun gwasanaethau cyhoeddus? Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar dysgu dros ginio lle byddwn yn archwilio beth mae digidol yn ei olygu pan yn darparu gwasanaethau cyhoeddus.  

At bwy fyddai’r sesiwn hon yn addas? 

Mae'r sesiwn hon yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n angerddol dros wella gwasanaethau cyhoeddus. 

Beth fyddwn ni’n drafod yn y sesiwn hon? 

Byddwn yn archwilio'r symudiad diwylliannol tuag at dimau Ystwyth fel sbardun ar gyfer newid o ran trawsnewid digidol; dim ond y man cychwyn yw technoleg. Byddwn yn dangos y cysyniad hwn gan ddefnyddio sefyllfaoedd bywyd go iawn, gan ddangos yr effaith arnoch chi a'ch defnyddwyr. 

Byddwn hefyd yn ystyried Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru a'r rôl y maent yn ei chwarae wrth rymuso timau i ddarparu gwasanaethau rhagorol i'r cyhoedd.  

Manteisiwch ar y cyfle hwn i drafod ailddiffinio digidol a thrawsnewid eich agwedd at wasanaethau cyhoeddus! 

 

Eisiau dysgu mwy am ffyrdd digidol ac Ystwyth o weithio? Rydym wedi ymgorffori rhai o'r pynciau mwyaf poblogaidd o'n cyrsiau hyfforddi yn gyfres dysgu dros ginio.   

Bydd y sesiynau hyn yn eich rhoi gwybodaeth ragarweiniol i'ch helpu ar eich taith i weithio mewn ffyrdd digidol ac Ystwyth yn eich sefydliad. 

Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddiant ffurfiol? E-bostiwch y tîm hyfforddi heddiw - dysgu@gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru i weld sut y gallant helpu.