14 Hydref 2020
Pan gefais fy mhenodi’n Gadeirydd CDPS, roeddwn yn gwybod fy mod eisiau panel cynghori i’m cynorthwyo wrth ffurfio’r Ganolfan yn y lle cyntaf. Roedd yn bwysig bod ystod eang o brofiad a chefndiroedd gan y panel ac y byddai’n barod i fy herio i a herio cynnydd a chyfeiriad y Ganolfan.
Roedd yr ymateb i’r hysbyseb yn wych, ac o ganlyniad mae gennym banel cynghori yr wyf yn hyderus y bydd yn gwneud yr hyn a wnawn hyd yn oed yn well. Efallai bod ambell fwlch gennym, ond rhan o’n hymagwedd fydd adolygu hynny’n barhaus gyda’r opsiwn i ddod ag aelodau newydd i mewn os nodwn fod angen.
Wrth i ni adolygu’r ceisiadau a ddaeth i law, roedd nifer ohonynt yn sefyll allan i mi. Roeddent gan bobl yng Nghymru a oedd yn wirioneddol awyddus i wella cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. Pobl a oedd yn aml yn y rheng flaen o ran cyflwyno, ac a oedd bob amser yn frwdfrydig ynghylch digidol a Chymru. Nid oedd profiad o weithio ar lefel bwrdd neu lefel strategol ganddynt o angenrheidrwydd, ond roeddem eisiau dod o hyd i ffordd i gynnwys yr ymgeiswyr hyn yn ein gwaith.
Rhan o gylch gwaith y Ganolfan yw meithrin gallu a chynorthwyo twf y genhedlaeth nesaf o arweinwyr digidol yng Nghymru, felly crëwyd ein Panel Prentisiaid.
Bydd aelodau ein panel prentisiaid yn cael eu paru ag un o aelodau ein panel cynghori a fydd yn gweithredu fel hyfforddwr a mentor. Bydd aelodau’r panel prentisiaid yn cael cyfle i weld papurau’r panel a phwyntiau trafod cyn cyfarfodydd a chyfrannu eu syniadau a’u barnau â’r aelod o’r panel y cawsant eu paru â hwy. Byddant hefyd yn cael y cyfle i fynychu cyfarfod y panel ac ymgysylltu â thîm y CDPS.
Gobeithiwn y bydd yr ymagwedd hon nid yn unig yn darparu profiad amhrisiadwy i aelodau ein panel prentisiaid newydd, ond hefyd yn rhoi set wahanol o ddirnadaethau a chymorth i’n gwaith.
Mae’r agwedd hon ar ein gwaith wir yn bwysig i mi, felly croeso i’n plith — rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chi gyd.
Dewch i gyfarfod ag aelodau ein panel prentisiaid
Heledd yw’r Rheolwr Gwasanaethau Digidol yn Cyfoeth Naturiol Cymru, yn arwain tîm o gyfieithwyr, arbenigwyr dylunio ac arbenigwyr digidol. Mae ganddi dros 14 mlynedd o weithio mewn timau cyfathrebu a thimau digidol y sector cyhoeddus. Yn frwd ynglŷn â phopeth yn ymwneud â dylunio a chynhyrchion sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, mae gan Heledd awydd rhyfeddol i ddysgu a helpu creu gwasanaethau gwell i bobl Cymru.
Ashley yw datblygwr y tai CLYFAR byw â chymorth cyntaf i oedolion ag anableddau yn y DU; hefyd, mae Ashley yn rhedeg Tech4Good Caerdydd yn darparu digwyddiadau rhad ac am ddim i ddod â gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol, cymdeithasau nid er elw, rhaglenwyr, technolegwyr ac ysgogwyr newid at ei gilydd.
Mae Jo yn frwd ynghylch dylunio cynhwysol, hygyrchedd digidol, ac adeiladu gwasanaethau cyhoeddus digidol hyblyg. Mae Joanna yn arweinydd digidol sydd wedi ennill gwobrau, ac mae wedi gweithio yn y sector cyhoeddus am yr 16 mlynedd diwethaf.
Mae Jenni yn Ddirprwy Bennaeth Cyfathrebu Digidol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n gyfrifol am strategaeth a llywodraethu cynnwys ar draws gwefan a mewnrwyd y Brifysgol. Mae ganddi brofiad helaeth mewn trawsnewid digidol mewn addysg uwch, gan ddatrys problemau ar raddfa fawr a chreu profiad gwell i ddefnyddwyr trwy gynnwys o ansawdd uchel.
Daniel yw Perchennog y Gwasanaeth ‘Gyrru mewn Parth Aer Glân’ yn yr Uned Ansawdd Aer ar y Cyd. Mae wedi gweithio yn y sector cyhoeddus ers 14 blynedd, gan ddechrau yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn Abertawe, ac yn fwy diweddar, yn arwain ailddylunio a lansio gwasanaeth Parcio Bathodyn Glas y DU. Mae ffocws Daniel ar arwain a chefnogi pobl eraill i gyflawni a gwreiddio newid ledled y DU.
Ar hyn o bryd, mae Louise yn Rheolwr Cynnyrch Technegol ar gyfer Cloud Engineering yn y DVLA. Gyda dros 15 mlynedd o brofiad mewn busnes a chyflenwi TG, mae Louise yn frwd dros gyflenwi gwasanaethau y gall cwsmeriaid eu defnyddio’n hawdd. Mae chwaraeon a ffitrwydd yn hynod bwysig iddi.