3 Rhagfyr 2020
Yn ystod ein cam darganfod y llynedd, fe glywson ni y gall fod diffyg dealltwriaeth o’r hyn y mae ‘digidol’ yn ei olygu, nad yw pob uwch arweinydd yn deall sut i weithredu gweddnewid digidol a bod llawer o staff y sector cyhoeddus yn awyddus i gymryd rhan, ond eu bod yn ceisio cymorth ac arweiniad.
Yn ystod y 9 mis diwethaf, mae llawer ohonom sy’n gweithio ym maes darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi gweld newid mawr mewn sut a ble rydym yn gweithio, a sut rydym yn darparu gwasanaethau. Mae technolegau digidol wedi bod yn allweddol wrth alluogi hyn ac wedi caniatáu i ni adweithio ac ymateb ar gyflymder sydd wedi bod yn syfrdanol ac yn galonogol. Ond nid yw hyn yn golygu bod y newid wedi dod yn rhwydd. I rai pobl, bu’n heriol gweithio mewn ffyrdd newydd ar blatfformau newydd. Bu’n anoddach fyth i eraill, ac mae wedi amlygu’r bwlch rhwng y rhai hynny sy’n ddigidol hyddysg a’r rhai nad ydynt, a’r rhai sy’n gallu cael at y seilwaith digidol a’r rhai na allant.
Bellach, mae cyfle i ni edrych ar y profiadau hyn a deall pa gymorth y dylen ni ei gynnig i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru er mwyn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth iddynt a fydd yn eu galluogi nid yn unig i wneud eu swyddi fel maen nhw wastad wedi’u gwneud, ond addasu a gwella’r ffordd maen nhw’n darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Mae ein sgwad ddigidol eisoes yn dechrau gwneud hyn yn yr awdurdodau lleol rydyn ni’n gweithio gyda nhw, gan rannu gwybodaeth gyda’r timau, dysgu oddi wrth ein gilydd, cydweithio a throsglwyddo sgiliau. Ond un rhan yn unig o’r jig-so yw hyn. Mae angen i ni wir ddeall y newidiadau sy’n angenrheidiol a sut gall y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) gynorthwyo’r rhai hynny sy’n gweithio ar wasanaethau ar gyfer y cyhoedd.
Mae’r drydedd ffrwd waith hon yn ein cam alffa yn edrych ar sut gallwn ni gefnogi datblygiad timau tra medrus mewn sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Rydyn ni eisiau deall sut gallwn ni sefydlu proffesiynau digidol cryf yn seiliedig ar fframwaith gallu Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT), a sicrhau bod gan ein cydweithwyr yn y sector cyhoeddus lwybrau datblygu clir. Byddwn hefyd yn profi rhaglen arweinyddiaeth ddigidol ar gyfer uwch arweinwyr o groestoriad o’r sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru, er mwyn datblygu eu dealltwriaeth a’u sgiliau i gael y budd mwyaf o dechnolegau digidol. Byddwn yn profi’r broses o ddarparu rhaglen sgiliau digidol gydlynol; y cwricwlwm; a’r platfformau dysgu diweddaraf gyda 100 o staff y sector cyhoeddus, i amlygu pa hyfforddiant sgiliau digidol y dylid ei gyflwyno.
Rydyn ni eisoes wedi dechrau ein gwaith ymchwil defnyddwyr a byddwn yn rhannu’r canfyddiadau hynny cyn hir, ond os ydych yn gweithio mewn sefydliad sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a hoffech rannu’ch profiadau a’ch anghenion, cysylltwch â ni info@digitalpublicservices.gov.wales