Cofrestrwch ar gyfer Cymuned Ymchwil Defnyddwyr Cymru cyfarfod wyneb-yn-wyneb - Caerdydd

Rydych yn archebu ar gyfer
Dydd Iau 11 Rhagfyr 2025

Helo bawb, 

Ym mis Rhagfyr, pan mae'r dyddiau’n fyrrach ac yn oerach, mae rhywbeth hudol o hyd yn digwydd sy’n gwneud cyfnod yma’r flwyddyn yn adeg hyfryd!   

Mae'r amser wedi cyrraedd ar gyfer cyfarfod olaf y flwyddyn o’r gymuned Ymchwil Defnyddwyr ac, fel sy’n draddodiadol, ry’n ni’n eich gwahodd i ymuno gyda ni wyneb yn wyneb! 

Byddwn yn cwrdd ddydd Iau 11 Rhagfyr 2025 yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Dewch am 9:30am i gael coffi a sgwrs cyn i ni ddechrau am 10am. Bydd awr egwyl dros ginio am hanner dydd, a byddwn yn cloi am 4pm. 

Y prif themâu hoffem eu harchwilio yw adeiladu ar ein cryfderau fel ymchwilwyr defnyddwyr, gwella ein sgiliau, ac adlewyrchu ar ein gwaith dros y flwyddyn. 

Pan gwrddon ni wyneb yn wyneb diwethaf fel cymuned ym mis Mehefin, rhannodd un o’n haelodau craidd a sylfaenol, Gruffydd Weston, ei safbwynt ar beth sy’n gwneud digwyddiadau ein cymuned mor arbennig.

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau, themâu neu fyfyrdodau yr hoffech i ni eu cynnwys yn yr agenda, byddem wrth ein bodd yn clywed wrthoch chi! Anfonwch e-bost at andrew.arrowsmith@gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru  

I gael blas ar yr hyn i’w ddisgwyl, dyma beth wnaethon ni drafod yn gynharach yn yr haf

Byddwn yn darparu coffi, bisgedi, a chinio bwffe i gadw’r egni fyny. Byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig dewis da o fwyd, ond ystyriwch ddod ag ychydig o fyrbrydau neu becyn cinio eich hun hefyd, i sicrhau bod gennych rywbeth I'ch bodloni. Cofiwch nodi unrhyw ofynion dietegol yn y ffurflen gofrestru fel y gallwn eu trosglwyddo i’n darparwr arlwyo. 

Mae wedi bod yn flwyddyn wych hyd yma i’n cymuned, ac ry’n ni’n edrych ymlaen at orffen y flwyddyn gyda diwrnod arbennig arall. 

Cofrestrwch isod i gadw eich lle fel y gallwn gadarnhau niferoedd a sicrhau ein bod yn diwallu unrhyw anghenion dietegol neu hygyrchedd sydd gennych. 

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno! 

Andrew Arrowsmith 
Prif Ymchwilydd Defnyddwyr CDPS – Arweinydd y Gymuned 

Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â seren(*).

Er enghraifft: dolen glyw, dehonglwyr, mynediad di-gamau, gofod tawel, neu unrhyw beth arall a fyddai’n eich helpu i gymryd rhan yn llawn.

Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd, a byddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’ch cyfrif ac i ddarparu’r cynhyrchion a’r gwasanaethau y gofynnoch amdanynt gennym ni. O bryd i'w gilydd, hoffem gysylltu â chi am ein cynnyrch a'n gwasanaethau, yn ogystal â chynnwys arall a allai fod o ddiddordeb i chi.

Os ydych yn cydsynio i ni gysylltu â chi at y diben hwn, ticiwch isod i ddweud sut yr hoffech i ni gysylltu â chi:

Marketing Options

I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddad-danysgrifio, ein harferion preifatrwydd, a sut rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd, adolygwch ein Polisi Preifatrwydd.Drwy glicio cyflwyno isod, rydych chi'n cydsynio i ganiatáu i'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol storio a phrosesu'r wybodaeth bersonol a gyflwynwyd uchod er mwyn darparu'r cynnwys y gofynnwyd amdano i chi.