Cofrestrwch ar gyfer Dolenni Digidol: Arweinyddiaeth y tu ôl i’r newid – straeon go iawn o drawsnewid digidol

Rydych yn archebu ar gyfer
5-7pm 16 Gorffennaf 2025

Yn y Dolenni Digidol hwn, yn Dda Coffi, Caerdydd, rydym yn cymryd agwedd bersonol, dynol-ganolog at arweinyddiaeth ddigidol. Yn hytrach na chanolbwyntio ar bolisi neu bwysau, byddwn yn clywed straeon go iawn gan arweinwyr sydd wrth wraidd trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Dyma'r bobl sy'n sicrhau bod newid yn digwydd –yn llywio'r cryfderau a’r gwendidau, a dysgu gwersi ar hyd y ffordd. 

Byddwn yn dod â realiti arwain trawsnewid digidol yn fyw, a chreu lle i fyfyrio, gonestrwydd ac ysbrydoliaeth. 

Bydd cymysgedd o sgyrsiau byr a thrafodaeth anffurfiol gan gynnwys:

  • llywio'r heriau personol o arwain newid

  • adeiladu diwylliant sy'n cefnogi trawsnewid digidol

  • parhau i fod yn greadigol, yn gydweithredol, a chysylltiedig trwy gymhlethdod  

Byddwn yn clywed sgyrsiau gan: 

  • Liz Lucas, Cyfarwyddwr Trawsnewid, Digidol a Chaffael, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – ar arwain trwy gymhlethdod a herio'r sefyllfa bresennol
  • Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredol dros dro, Awdurdod Refeniw Cymru a Chadeirydd y Bwrdd Safonau Digidol a Data – ar sut i ymgorffori diwylliant Ystwyth a meddylfryd ddigidol
  • Matt Lewis, Prif Swyddog Gweithredu, Gwasanaeth Adnoddau a Rennir a Chadeirydd y Grŵp Arweinyddiaeth AI yng Nghymru – ar ailgynllunio radical a pheidio â bod ofn dechrau eto 

Ynglyn a Dolenni Digidol

Mae Dolenni Digidol yn gyfres rhwydweithio cenedlaethol a rhanbarthol ar gyfer uwch arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, sy’n hyrwyddo dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a Safon Gwasanaeth Digidol. Mae digwyddiadau personol fel hyn yn darparu cyfle i arweinywr gysylltu, rhannu mewnweliadau, a thrafod heriau gwasanaeth cyhoeddus drwy drafodaethau agored. Mae’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal gan CDPS ac yn cael eu cadeirio gan ein huwch dim arwain, ac mae’r digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau yng Nghymru bob yn ail fis. Er mwyn sicrhau hygyrchedd a chynwysoldeb rydym yn ffrydio ein sesiynau’n fyw, gan wahodd cynulleidfa ehangach i ymgysylltu.

Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â seren(*).

Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd, a byddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’ch cyfrif ac i ddarparu’r cynhyrchion a’r gwasanaethau y gofynnoch amdanynt gennym ni. O bryd i'w gilydd, hoffem gysylltu â chi am ein cynnyrch a'n gwasanaethau, yn ogystal â chynnwys arall a allai fod o ddiddordeb i chi.

Os ydych yn cydsynio i ni gysylltu â chi at y diben hwn, ticiwch isod i ddweud sut yr hoffech i ni gysylltu â chi:

Marketing Options

I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddad-danysgrifio, ein harferion preifatrwydd, a sut rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd, adolygwch ein Polisi Preifatrwydd.Drwy glicio cyflwyno isod, rydych chi'n cydsynio i ganiatáu i'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol storio a phrosesu'r wybodaeth bersonol a gyflwynwyd uchod er mwyn darparu'r cynnwys y gofynnwyd amdano i chi.