17 Ionawr 2022

Ein cenhadaeth yw datblygu gallu digidol mewn sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus trwy raglen gynhwysfawr o hyfforddiant a chymorth.  

Mae’r postiad blog hwn yn amlinellu ein profiad diweddar o ddewis cyflenwr i’n helpu i gyflawni hyn. 

Mae proses gaffael drylwyr iawn wedi arwain at benodi ‘This is Milk’, a fydd yn helpu i gyd-greu, darparu ac adolygu’r rhaglen yn ystod y cam alffa, a gynhelir tan fis Mawrth 2022.  

Diben 

Mae ffyrdd digidol o weithio yn newydd i lawer o staff ac uwch arweinwyr sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus. Er bod pocedi o staff profiadol a thra medrus sy’n arwain y broses o weddnewid gwasanaethau’n ddigidol mewn rhai ardaloedd, mae diffyg sgiliau a gallu digidol yn gyffredinol wedi cael ei amlygu fel rhwystr allweddol rhag gweddnewid. 

Y broses gaffael 

Ein nod oedd caffael hyfforddiant rhagorol ac roedd ein proses yn un drylwyr.  

Gwerthuswyd y cynigion mewn dau gam, yn gyntaf gan banel mewnol ac yna gan banel allanol a werthusodd ac a gymedrolodd y cynigion yn annibynnol.  

Roedd y broses yn cynnwys tendr ysgrifenedig, rhoi cyflwyniad a sesiwn ryngweithiol fel y gallem brofi eu darpariaeth hyfforddiant yn ymarferol.  

Yr hyn y bydd This is Milk yn gweithio arno  

Darparodd This is Milk ymateb technegol rhagorol a rhoddodd sesiwn ryngweithiol a chyflwyniad gwych. 

Yn ystod y cyfnod alffa, byddant yn gweithio i lwyr ddeall anghenion ein defnyddwyr a chyd-greu a darparu rhaglen ddysgu wedi’i theilwra i gynyddu sgiliau a gallu arweinwyr a thimau digidol amlddisgyblaethol. 

Bydd yn canolbwyntio i ddechrau ar greu tri chwrs a rhaglen hyfforddi gysylltiedig: 

  • hyfforddiant i swyddogion gweithredol: Ar gyfer uwch arweinwyr y mae angen iddynt ddeall potensial gweddnewidiol digidol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell, y newidiadau sefydliadol a diwylliannol sy’n ofynnol i gefnogi hyn, a’u rôl wrth alluogi hyn i ddigwydd 
  • hyfforddiant i berchenogion gwasanaethau: Ar gyfer perchenogion gwasanaethau y mae angen iddynt ddeall sut gall dylunio ystwyth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a’r safonau dylunio gwasanaeth ar gyfer Cymru eu helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell, a’u rôl wrth gefnogi’r newidiadau sefydliadol a diwylliannol sy’n ofynnol i alluogi hyn 
  • hyfforddiant i dimau gwasanaeth: Ar gyfer timau gwasanaeth y mae angen iddynt ddeall dylunio ystwyth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a’r safonau dylunio gwasanaeth ar gyfer Cymru, a sut i’w cymhwyso mewn cyd-destun tîm gwasanaeth i ddylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell 

Ffyrdd o weithio  

Bydd tîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys aelodau o’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) a This is Milk yn cyflawni’r prosiect. Byddwn yn gweithio mewn ffyrdd ystwyth, ar y cyd ac yn dryloyw. 

Byddwn yn cyd-greu'r cynnwys hyfforddi ac yn ei ddatblygu'n ailadroddol gyda'n rhanddeiliaid. Bydd y rownd gyntaf o gyrsiau hyfforddi yn rhedeg yr wythnos hon. 

Byddwn yn gwrando ar ein defnyddwyr, gan alluogi i ailadrodd y cyrsiau gyda ffocws cryf ar ddylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. 

Byddwn yn parhau i rannu ein cynnydd trwy bostiadau blog yn y dyfodol... gwyliwch y gofod hwn! 

Post blog gan: Peter Thomas, Pennaeth Sgiliau a Galluoedd