Yr Aelodau o'r Bwrdd oedd yn bresennol:
Sharon Gilburd (SG) – Cadeirydd
Samina Ali (SA)
John-Mark Frost (JMF)
Andrea Gale (AG)
Harriet Green (HG) – Prif Swyddog Gweithredol
Myra Hunt (MH) – Prif Swyddog Gweithredol
Glyn Jones (GJ) – WG
Jonathan Pearce (JP)
Ben Summers (BS)
Staff CDPS:
Phillipa Knowles (PK)
Ysgrifenyddiaeth:
Jon Morris (JM)
Ymddiheuriadau:
Dim.
Dechreuodd y cyfarfod am 14:00.
EITEM 1: Croeso gan y Cadeirydd
1.1 Nododd y Cadeirydd na dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau, ac roedd holl aelodau'r Bwrdd yn bresennol. Ar y sail honno, llwyddwyd i greu cworwm.
1.2 Diolchodd y Cadeirydd i aelodau'r Bwrdd am fod yn bresennol yn y cyfarfod a sefydlodd y cyd-destun ar gyfer y drafodaeth; dim ond y Cynllun Gweithredol, y Map Ffordd a'r gyllideb ar gyfer 2025-26 fyddai'n cael sylw yn y cyfarfod hwn.
EITEM 2: Cynllun Gweithredol, Map Ffordd a Chyllideb 2025-26
2.1 Cyflwynodd MH y cynllun gweithredol, y map ffordd a'r gyllideb, gan bwysleisio'r daith a'r meysydd ffocws craidd y cytunwyd arnynt gyda LlC. Diolchodd i bawb am eu sylwadau a'u hadborth, a adlewyrchwyd yn y dogfennau.
2.2 Tynnodd MH sylw at y tri maes ffocws craidd yn y cynllun gweithredol:
Gwaith ar Draws y Sector Cyhoeddus – Safonau, Llawlyfr Gwasanaeth, Asesiadau gwasanaeth, sgiliau a Phatrymau a Chydrannau
Gwasanaethau i Lywodraeth Cymru – hyfforddiant SCS, Parthau, ID Digi, Asesiadau Gwasanaeth Parhaus a chydweithrediad GDS y DU; a,
Blaenoriaethau'r Prif Weinidog – Cynllunio, Budd-daliadau, Niwroamrywiaeth, Cymorth Rhaglen Gyflogadwyedd.
Eglurodd fod y meysydd hyn yn anelu at wella'r ffocws craidd ac yn cyd-fynd â'r cylch gwaith tynnach a gweithio'n agosach gyda Llywodraeth Cymru a blaenoriaethau gweinidogol. Archwiliodd MH bwysigrwydd y cynllun gwaith ymhellach, sy'n amlinellu'r hyn a fydd yn cael ei gyflawni a'r canlyniadau. Gwahoddodd sylwadau ac adborth ar yr agweddau hyn, yn enwedig ar ddyrannu adnoddau a'r gyllideb.
2.3 Cydnabu'r Bwrdd natur gynhwysfawr y cynllun gweithredol a'i fformat strwythuredig, gan gymeradwyo'r ymdrechion a roddwyd yn y cynllun a nododd ei fod yn lliniaru risgiau strategol amrywiol yn sylweddol. Roeddent yn argymell gwella pendantrwydd a hyder yr iaith a ddefnyddir yn y cynllun gweithredol, gan gynnig newid o ymadroddion amhendant fel y 'yn ôl pob tebyg, byddwn yn' i ddatganiadau mwy diffiniol fel 'fe fyddwn yn mynd ati i wneud hyn'.
2.4 Tanlinellodd aelodau'r Bwrdd bwysigrwydd sefydlu map ffordd clir yn ymestyn y tu hwnt i 2026. Trafododd y Bwrdd yr heriau wrth weithredu hyn gan gydnabod bod blaenoriaethau Gweinidogion ar ôl etholiad 2026 yn ansicr, ond y gall CDPS fynegi gobeithion o hyd am ymestyn prosiectau llwyddiannus a chynnal gwelliannau i wasanaethau.
2.5 Trafododd yr Aelodau'r angen am gynllunio strategol ynghylch camau gweithredu ar ôl 2026 a sut i lunio disgrifiad o'r cynllun yn unol â hynny. Argymhellodd yr Aelodau hefyd ei bod hi'n bwysig cynnwys y datganiad clir bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau'r ffocws ar y cylch gorchwyl cyfyngedig, gan sicrhau nad oes ansicrwydd ynghylch y meysydd ffocws a ddiffinnir ynddo.
2.6 Pwysleisiodd GJ arwyddocâd cael gwelededd cynhwysfawr o'r gyllideb yn ôl themâu gwaith. Gofynnodd am wybodaeth fanwl am ddyrannu'r gyllideb ar draws themâu a phrosiectau amrywiol. Ymhellach, tanlinellodd yr angen am gynllun gweithlu manwl sy'n amlinellu'r cymysgedd sgiliau sydd eu hangen i gyflawni'r cylch gwaith diwygiedig a chanolbwyntio ar drosglwyddo i wasanaethau Alffa, Beta a gwasanaethau byw.
2.7 Tynnodd GJ sylw hefyd at bwysigrwydd union eiriad yr agweddau ynghylch sgiliau a gwerth am arian yn y ddogfen. Pwysleisiodd bod angen dangos effaith a gwerth y gwaith a wneir.
2.8 Mynegodd y Bwrdd bryderon ynghylch gallu CDPS i gyflawni'r cynllun uchelgeisiol, yn enwedig cwestiynu a oes gan y cwmni'r sylwedd a'r sgiliau i gyflawni'r targedau a nodir yn y cynllun gwaith. Yn benodol, cwestiynodd yr aelodau'r gefnogaeth sydd ar gael i'r Pennaeth Safonau Dros Dro, gan nodi bod y rôl yn cynnwys prosiectau technoleg cymhleth ac efallai y bydd angen cefnogaeth ac arbenigedd mwy cadarn. Roedd ganddyn nhw bryderon am hygrededd yr arweinyddiaeth dechnoleg, gan awgrymu bod angen arweinyddiaeth dechnoleg gredadwy ar CDPS i sicrhau y caiff prosiectau technoleg eu cyflawni'n llwyddiannus.
2.9 Esboniodd HG fod CDPS yn dibynnu ar gyngor arbenigol allanol ar gyfer arweinyddiaeth ym maes technoleg, gan gynnwys partneriaethau â sefydliadau fel Sefydliad Turing, Llywodraeth yr Alban, a thîm data Llywodraeth Cymru. Tynnodd sylw at y potensial ar gyfer caffael sgiliau arbenigol ymhellach i gefnogi'r Pennaeth Safonau a chryfhau arweinyddiaeth ym maes technoleg. Yn ogystal, tynnodd y Prif Weithredwyr sylw at ddyrchafu rheolwr cynnyrch technegol yn y sefydliad ac y byddai'r sgiliau technegol cryf hynny yn mynd i'r afael â heriau technoleg weithredol yn effeithiol. Bydd hyn yn dangos ymrwymiad CDPS at ddatblygu gallu technegol yn fewnol.
2.10 Trafododd yr Aelodau bod angen staff parhaol sydd ag arbenigedd ym maes technoleg i fynd i'r afael â gofynion cynyddol y prosiectau. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd cydbwyso risg a sicrhau bod gan CDPS y sgiliau sydd ei angen arno i gyflawni ei gylch gwaith.
2.11 Cododd aelodau'r Bwrdd bryderon ynghylch sut y gellid rheoli unrhyw cystadlu am gapasiti. Amlygodd HG gydweithrediad parhaus â LlC i fynd i'r afael â'r ôl-groniad ar y cyd a blaenoriaethu'n effeithiol. Amlinellodd ymhellach gynllun CDPS i gynhyrchu adroddiadau perfformiad misol ar y cynllun gwaith i fonitro cynnydd, tynnu sylw at unrhyw rwystrau, ac adolygu'r adroddiadau hyn gyda thîm partneriaeth LlC i sicrhau y gellir gwneud penderfyniadau yn brydlon.
2.12 Crynhodd y Cadeirydd y pwyntiau allweddol a drafodwyd, gan gynnwys yr angen am iaith glir yn y ddogfen, pwysigrwydd arweinyddiaeth ym maes technoleg, a'r camau nesaf ar gyfer mireinio'r cynllun gweithredol a'r gyllideb. Pwysleisiodd bod angen creu model gweithredu targed clir a'r potensial i ymgysylltu ag adnoddau allanol.
CAM GWEITHREDU: Prif Weithredwyr a PK i adolygu'r Cynllun Gweithredol, y Cynllun Gwaith a chyllideb ddrafft o ganlyniad i sylwadau'r Bwrdd ac ail-ddosbarthu erbyn 9 Mai 2025.
Daeth y cyfarfod i ben am 14:45.