Ar gyfer pwy  

Mae'r Hwb Rhannu Digidol ar gael i unrhyw un sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.

Beth sydd i'w gael

  • Astudiaethau achos arfer da
  • Strategaethau digidol
  • Adroddiadau ymchwil
  • Canllawiau

Dewch o hyd i adnoddau arfer gorau digidol ar yr Hwb Rhannu Digidol. Nid oes angen cyfrif arnoch i wneud hyn.

Rhannu arfer gorau 

Mae gwasanaethau digidol da yn dibynnu ar y bobl sy'n gweithio arnynt yn rhannu ac yn dysgu oddi wrth ei gilydd.

Cofrestrwch i rannu adnoddau arfer gorau digidol ar yr Hwb Rhannu Digidol

Ynglŷn â'r Hwb Rhannu Digidol 

Fe wnaethom ddatblygu'r Hwb Rhannu Digidol i ateb y galw gan arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach.

Mae'r safle yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech helpu i'w ddatblygu mewn unrhyw ffordd, anfonwch e-bost at: dysgu@gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru