Cynnwys
Dylunio cynnwys yw un o’r rolau swydd sy’n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig, yn ôl arolwg diweddar gan LinkedIn. Mae’r sgiliau’n cynnwys
- edrych ar anghenion defnyddwyr
- ysgrifennu ar gyfer yr anghenion hynny
- gwneud cynnwys yn hygyrch
Defnyddio iaith syml
Mae dylunwyr cynnwys yn osgoi jargon ac yn ysgrifennu mewn brawddegau byrion. Mae ap Hemingway fel ffordd o wella arddull ysgrifennu.
Mae canllaw arddull LLYW.CYMRU yn fan cychwyn da wrth ysgrifennu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Mae iaith syml yn allweddol wrth ddylunio cynnwys.
Straeon a theithiau defnyddwyr
Dylai dylunwyr cynnwys ddatblygu straeon a theithiau defnyddwyr.
Mae’r rhain yn ffyrdd i ddylunwyr cynnwys ganolbwyntio ar y wybodaeth y mae ei hangen ar ddefnyddiwr i gwblhau tasg.
Edrywchwch ar sut mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi defnyddio’r dull hwn i sicrhau bod ei gwasanaethau’n canolbwyntio mwy ar y defnyddiwr.
Mae ymchwil defnyddwyr wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd y mae pobl yn ymgysylltu â chynnwys yr ONS
Dylunio cynnwys yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Mae tîm dylunio cynnwys y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi gorsgyn rhwystrau rhag dylunio cynnwys, gan gynnwys gorfod sefydlu eu hunain fel arbenigwyr yn y sefydliad.
Roedd angen iddyn nhw annog staff i ystyried anghenion defnyddwyr wrth ysgrifennu cynnwys a dilyn canllawiau arddull cyson. Roedd hygyrchedd yn faes arall pwysig yr oedden nhw angen cymorth staff gydag ef.
Mae cyflwyniad yr ONS ganolbwyntio ar sut roedd y tîm wedi cymhwyso egwyddorion dylunio cynnwys i ddwy agwedd ar eu gwaith: bwletinau ystadegol a data cyfrifiad. Mae adnabod pwy yw eu cynulleidfa, ac yna gwneud rhagor o waith ymchwil gyda’r defnyddwyr hyn, wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd y mae pobl yn ymgysylltu â chynnwys yr ONS.
Gwyliwch y weminar
Ymddangosodd y cynnwys hwn am y tro cyntaf yn 2022 fel gweminar am egwyddorion ysgrifennu cynnwys effeithiol, sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.