Wrth adeiladu gwasanaeth digidol, un o'r egwyddorion pwysicaf yw sicrhau ei fod yn gweithio i bawb. Mae Safon Gwasanaeth Digidol Cymru yn rhoi hygyrchedd wrth wraidd dylunio gwasanaethau. Mae'n hanfodol creu gwasanaethau sy'n gynhwysol ac yn ddefnyddiol gan bawb, waeth beth fo'u hanghenion unigol. Mae hefyd wedi'i ysgrifennu mewn deddfwriaeth yn y Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus 2018 a Deddf Cydraddoldeb 2010.

Safbwynt Stuart 

Mae'r blog hwn yn ymwneud â fy mhrofiadau personol fy hun wrth gyrchu gwefannau fel unigolyn hollol ddall gyda darllenydd sgrin. Dim ond defnyddio bysellfwrdd a fy nghlustiau. Dim rhyngweithio llygoden o gwbl. 

Enw'r darllenydd sgrin rwy'n ei ddefnyddio yw Jaws, ond mae darllenwyr eraill ar gael. Mae NVDA yn opsiwn sy'n rhad ac am ddim.  

Bob tro rydw i'n mynd ar-lein, rwy'n edrych ar wefannau gyda fy llygaid ar gau! 

Rwy'n llywio fy ffordd o gwmpas y safleoedd trwy ddefnyddio'r bysellau saeth, yr allwedd tab a defnyddio'r allwedd llythyren F neu'r allwedd llythyren H.  

Mae bysellau saeth yn caniatáu imi wrando ar linellau, geiriau a llythrennau. Mae'r allwedd tab yn neidio i lawr y dudalen i ddoleni. Mae'r llythyren F yn mynd â mi yn syth i garwsélau a golygu meysydd lle mae angen i mi lenwi gwybodaeth mewn ffurflenni neu feysydd chwilio. Mae'r llythyren H yn mynd â mi i benawdau. Dydw i ddim yn defnyddio'r llygoden. 

Ymgyfarwyddwch â darllenwyr sgrin a sut maen nhw'n gweithio trwy lawrlwytho naill ai demo 40 munud Jaws neu'r fersiwn lawn o NVDA sy'n rhad ac am ddim.   

Does dim pwynt ymgysylltu â'r blog hwn fel arall. Rhaid i chi ddeall darllenwyr sgrin.   

Lawrlwythiadau sydd ar gael:

Peidiwch â pharhau gyda'r blog hwn nes eich bod wedi ymgysylltu â'r darllenwyr sgrin uchod. Rhowch gynnig arnynt a mwynhewch tra’n dysgu. Caewch eich llygaid tra byddwch chi'n dysgu. 

Cyflawni llwyddiant yn y tywyllwch 

Hoffwn brofi hygyrchedd cyflawn o'r dechrau i'r diwedd ar bob gwefan rwy'n ymweld â hi. Yn union fel y mae pobl sydd ddim yn anabl yn ei wneud. Beth ydw i'n ei olygu wrth hygyrchedd llwyr? Mae 2 enghraifft yn dilyn isod:

  1. A allaf ddod o hyd i fanylion cyswllt y gwasanaeth neu'r adran rwy'n chwilio amdani o fewn 5 munud? 
  2. A allaf ddod o hyd i'r cynnyrch neu'r apwyntiad sydd ei angen arnaf a'i archebu neu ei brynu ar ben fy hun?

Rhwystrau yn y tywyllwch

Rhwystrau enghraifft 1

Rhifau ffôn wedi'u claddu mewn gwefannau. Hynny yw, mae’r ffigurau weithiau’n dair tudalen we i lawr neu ddim i’w gweld o gwbl. Mae busnesau eisiau arbed arian trwy leihau staff canolfannau galwadau, ac yn fy marn i, maen nhw'n osgoi cynnig opsiwn llais-i-lais. Mae'r cyhoedd angen gallu siarad â staff go iawn, nid â bot ar-lein. Beth bynnag, nid yw’r botiau hyn yn hygyrch i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin.  

Ffurflenni nad ydynt yn gweithio’n iawn: Rwyf wedi dod ar draws gwefannau lle nad yw meysydd golygu'n agor wrth bwyso ‘enter’. O ganlyniad, ni allaf nodi fy manylion cyswllt na chyflwyno’r ffurflen. Yn y pen draw, mae hyn yn fy atal rhag ymgysylltu â’r gwasanaeth. 

Felly, pan na allaf ddod o hyd i'r rhif ffôn ac ni allaf siarad ag unrhyw un ynglŷn â'r ffaith na allaf gwblhau ffurflenni gwybodaeth, mae hyn yn gwneud y wefan / cwmni cyfan yn ddiwerth i mi. Mae hefyd yn dangos diffyg empathi llwyr ac yn tanseilio cydraddoldeb.   

Beth all awdurdodau lleol ei wneud i gynyddu hygyrchedd eu gwefannau? 

Un o'r cysyniadau mwyaf rydw i wedi dod ar eu traws ar-lein yn bersonol yw Born Accessible. Rwy'n credu bod Born Accessible yn crynhoi'r pwnc hygyrchedd mewn ffordd gynhwysfawr iawn ac yn cynnwys trysorfa o fewnwelediad.    

Born Accessible 

Nawr eich bod wedi dysgu popeth am y cysyniad anhygoel, sef Born Accessible, gallwch fwrw ymlaen â gweddill fy mlog. 

Mae llwyddiant yn y tywyllwch yn llawer mwy na phrofiad ar-lein neu ddigidol. 

Fy ngobaith gyda’r blog hwn yw y bydd pawb sydd â dylanwad yn y byd digidol yn ystyried y darlun ehangach. Meddyliwch y tu hwnt i’ch platfformau digidol, a chofiwch am y bobl go iawn sydd ar ben arall y sgrin. 

Dim ond am fod eich gwefan yn edrych yn dda, nid yw hynny'n golygu ei bod yn hygyrch. 

Beth mae'n ei olygu pan nad yw gwasanaethau digidol yn hygyrch, a beth yw'r effaith go iawn ar ddefnyddwyr darllenwyr sgrin? Dyma RHAI enghreifftiau o fethiannau: 

  • Archebu blodau i’ch mam ar Sul y Mamau 
  • Talu’ch treth gyngor ar-lein 
  • Cynllunio taith i’r gwaith gyda hyder 
  • Trefnu’ch siop wythnosol 
  • Archebu bwrdd mewn bwyty yn gyfrinachol fel syrpreis i’ch gwraig 

Byddai'n wych i'r holl awdurdodau lleol gynyddu ymwybyddiaeth staff o'r heriau y mae unigolion dall a rhannol olwg yn eu hwynebu bob dydd. 

Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd hyfforddi lleol, cysylltwch â Sight Life

Michelle.jones@sightlife.wales 

07400 110 902 

Pam cynyddu ymwybyddiaeth staff o'r materion hyn?

I atal staff rhag dweud wrth bobl sy’n ffonio canolfannau galwadau i ddefnyddio’r wefan i gael gwasanaethau. Mae hyn yn rhwystredig iawn oherwydd fel arfer rwy’n ffonio am fod y wefan ddim yn hygyrch, am eironig! Torrwch y cylch dieflig yma drwy sicrhau hyfforddiant priodol i bawb.

Pwyntiau terfynol

Peidiwch â bod yn un o'r darllenwyr hynny sy’n methu â chwblhau’r rhyngweithiadau a argymhellir yn y blog. 

Cysylltwch â Sight Life yng Nghaerdydd i gael rhagor o wybodaeth am bopeth sy'n ymwneud ag unigolion dall a rhannol olwg. Hyfforddiant arbennig o amhrisiadwy i'ch staff. 

02920 39 89 00 

ask@sightlife.wales 

Edrychwch ar wefannau gyda'ch llygaid ar gau. 

Meddyliwch y tu hwnt i'ch llwyfannau digidol. 

Peidiwch â bod "y sefydliad hwnnw" sydd heb weithredu ar y blog yma ers pump i ddeng mlynedd. 

Diolch am ddangos diddordeb i ddarllen y blog. Gwerthfawrogir eich amser a'ch cefnogaeth. 

#GoSightLife!