Dod i adnabod CDPS 

Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn wedi clywed am CDPS pan wnaethant gysylltu â mi'r tro cyntaf, er fy mod wedi gweithio o fewn llywodraeth leol. Fodd bynnag, roedd gen i ddiddordeb, felly ymchwiliais i bwy oedden nhw, beth roedden nhw wedi'i wneud, a beth roedden nhw wedi llwyddo’i wneud.   

Darllenais broffil swydd Rheolwr Cyflawni Cysylltiol. Soniai am weithio mewn ffordd Ystwyth. O'n i'n meddwl fy mod i eisoes yn gweithio mewn ffordd Ystwyth. Onid oeddwn i'n gweithio o adref yn barod? 

Fy nodau  

Cyn hynny roeddwn wedi gweithio fel prentis gweinyddu busnes i'm cyngor lleol, ac wedi symud ymlaen i fod yn swyddog. Ond, roeddwn yn awyddus i ddatblygu fy mhrofiad a'm sgiliau ymhellach drwy hyfforddiant rheoli, yn enwedig mewn rheoli prosiectau.   

Roeddwn i'n gallu gweld fy hun yn y rôl newydd yma. Disgrifiodd y proffil swydd amgylchedd lle'r oedd hi’n bosib i mi gael yr hyfforddiant oedd angen, yn ogystal â chefnogaeth i gyrraedd fy nod. Fe wnaeth hyn fy mherswadio i fynd amdani.  

Mae CDPS yn gweithio'n rhithiol, felly’n gallu cyflogi staff o wahanol rannau o Gymru a thu hwnt. Trwy newid rolau, roeddwn hefyd yn gobeithio profi mwy o amrywiaeth o fewn rolau, sgiliau a hyd yn oed diwylliannau.   

Gwnaeth yr hyn a ddilynodd ragori ar fy nisgwyliadau.    

Recriwtio 

Roedd y broses recriwtio yn hynod effeithlon ac yn chwa o awyr iach.  

Mae'r diolch am hyn i'r unigolion sy'n recriwtio i CDPS. Ond mae hefyd yn seiliedig ar y pethau y maen nhw'n eu gwneud, fel rhoi rhestr o'r cwestiynau cyfweliad ymlaen llaw. Dylai hyn ddod yn arfer arferol wrth gynnal cyfweliadau.  

Cyn dechrau fy rôl, roedd gen i syniad o beth i'w ddisgwyl gan fod fy rheolwr llinell wedi cysylltu â mi i egluro'r drefn o flaen llaw. 

Dechrau fy rôl 

Ar y diwrnod cyntaf, sylweddolais nad oeddwn erioed wedi gweithio mewn ffordd Ystwyth. Doeddwn i ddim wedi deall gwir natur Ystwyth.  

Yn ffodus, fel rheolwr cyflawni cysylltiol, mae digon o hyfforddiant ar gael.  

Dysgu am CDPS 

Mae yma raglen gynefino dda iawn. Mae'n rhoi'r wybodaeth hanfodol oedd ei hangen arnaf i ddechrau yma, a fy helpu i ddeall sut mae pethau'n gweithio. Rhan allweddol o hyn yw gweithio’n Ystwyth.   

Daeth yn amlwg i mi’n gyflym ein bod dal i fod yn sefydliad ifanc. Hyd yn oed fel aelod newydd o staff, mae eraill yn y sefydliad yn gwrando ar fy marn ac yn ei gwerthfawrogi. Mae'n deimlad cyffrous gallu cyfrannu at y ffordd rydym yn datblygu. 

Dod i adnabod cydweithwyr 

Mae ein staff i gyd yn gweithio o adref. Roeddwn yn pryderu y byddai creu cysylltiadau a magu cydberthynas gyda fy nghydweithwyr yn her. Mae hyn yn rhywbeth yr oeddwn wedi'i gyflawni yn ystod fy rôl flaenorol mewn amgylchedd swyddfa, cyn cael fy anfon i weithio o adref oherwydd y pandemig a'r cyfyngiadau.   

Diflannodd fy mhryderon yn syth gan fod gan y timau yma gymuned rithiol sydd wedi hen ennill ei phlwyf. Mae hyn yn annog pobl i gydweithio'n gyson gan ddefnyddio platfformau fel Slack.    

Mae rhai o'r sianeli yma'n canolbwyntio ar ddiddordebau, sy'n ffordd wych o ddod i adnabod fy nghydweithwyr. 

Rwy'n mwynhau cymryd rhan yn ein sianel fwyd lle rydyn ni'n aml yn rhannu ryseitiau a syniadau. Mae gennym glwb cinio misol erbyn hyn!  

Gwiriadau dyddiol  

Rydym hefyd yn rhoi gwybod i eraill am sut rydyn ni'n teimlo a'n gwaith bob dydd.    

Mae hyn yn fy helpu i ddysgu am brosiectau sy'n digwydd. Mae'n caniatáu i'r gymuned ofyn am, a derbyn, adborth ac arweiniad, neu dynnu sylw at bethau a allai rwystro cynnydd.    

Gweithio yn yr agored  

Rydym yn cynhyrchu nodiadau wythnosol ar gyfer ein gwaith prosiect a chylchlythyr staff. Mae hyn yn caniatáu inni wybod am waith ein gilydd, rhannu cynnydd ac amlygu’r pethau sy'n rhwystro’n cynnydd.  

Mae tryloywder a gweithio yn yr agored wrth wraidd yr hyn rydyn ni'n ei wneud.  

Dysgu gan fentor 

Yn ogystal â chael amcanion hyfforddi, roeddwn yn lwcus i gael mentor sy'n cefnogi fy natblygiad.   

Mae hyn wedi chwarae rhan allweddol wrth ddysgu am weithio yn Ystwyth mewn modd ymarferol. Roeddwn i a fy mentor yn gallu dechrau cyflwyno prosiect newydd i adolygu a gwella gwefan CDPS.  

Mae'n wir, wrth ddysgu rhywbeth newydd, byddwch yn aml yn mabwysiadu dulliau ac arferion yr athro.   

Mae fy mentor yn eithriadol o fedrus yn rheoli gwaith cyflawni. Fodd bynnag, maen nhw'n fy annog i fabwysiadu dulliau fy hun, ac i feddwl yn feirniadol am sut i'w rheoli.    

Rwy'n gwerthfawrogi'r dull hwn, y gefnogaeth helaeth a'r wybodaeth amhrisiadwy sy'n cael ei rhannu gyda mi gan yr arbenigwyr sy'n gweithio yma.   

Gweithio mewn ffordd Ystwyth 

Hyd yn hyn, rwyf wedi bod yn rhan o Gyfnod Darganfod y prosiect yr wyf yn ei gefnogi. Mae hyn wedi cynnwys:   

  • gwneud pwrpas y prosiect yn glir  
  • gosod canlyniadau mesuradwy  
  • sefydlu tîm prosiect  
  • nodi pethau sy'n rhwystro ein cynnydd 

Cawsom adborth yn ystod y Cyfnod Darganfod, a gwnaethom gwblhau proses gaffael i benodi ymchwilyddion defnyddwyr i'n helpu gyda'n prosiect.   

Rwyf wedi sylwi ar fudd clir i weithio Ystwyth, sef pa mor gyflym mae tîm yn llwyddo i gwblhau pethau. 

Mae hyn yn bennaf oherwydd y ffordd amlwg rydyn ni'n cyfathrebu ein gwaith a'n gweithredoedd. Mae hefyd oherwydd pa mor aml yr ydym yn cyfarfod a natur gynhyrchiol y cyfarfodydd sy'n cynnwys stand-up, dangos a dweud a retros. Un o brif ddibenion y mathau hyn o gyfarfodydd yw bod yn fyfyriol, esblygu a dysgu oddi wrth ein gilydd, a bod yn dryloyw fel corff i ddangos ein cynnydd. 

Fy nyfodol 

Rwy’n bwriadu: 

  • mabwysiadu'r ffordd Ystwyth o weithio wrth gyflawni prosiectau  
  • rhannu'r ffyrdd yma o weithio gydag eraill sy'n cynnig gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru  
  • helpu eraill i fabwysiadu'r ffyrdd yma o weithio 

Fel rhywun sy'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, rwy'n teimlo'n gryf bod gwneud gwasanaethau'n hawdd i'w defnyddio, a rhai sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn bwysig. Dylai hefyd fod yr un mor hawdd i'r timau sy'n darparu'r gwasanaethau hyn.  

Mae defnyddio'r dulliau yma o weithio yn creu gweithlu cryfach a gwasanaeth cryfach.   

Nid yw gwella gwasanaethau cyhoeddus digidol yn ymwneud â gwella’r offer technegol y mae gwasanaethau’n dibynnu arnynt yn unig, mae’n ymwneud â gwella sut mae timau’n gweithio a sut y cânt eu rheoli. 

Mae gweithio yma wedi agor fy llygaid. Mae'n fy nghyffroi i fod yn rhan o CDPS. Trwy gydweithio â'r timau sy'n gweithio'n ddiflino i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, ac ynghyd â defnyddwyr, gallwn sicrhau gwelliannau. 

Efallai y bydd gennych ddiddordeb darllen ein canllaw ar sut i ddenu talent i rolau digidol, data a thechnoleg. Gallwch hefyd gofrestru ar gyf