Mae tîm newydd gan Awdurdod Cyllid Cymru sy’n ffocysu ar leihau ac atal dyled trethdalwyr - gyda chefnogaeth CDPS

29 Medi 2022

Mae tîm mewnol, newydd Awdurdod Cyllid Cymru (AAC) yn ffocysu ar leihau dyled trethdalwyr. Maent yn defnyddio meddylfryd Cyflym, Ystwyth, a dull dylunio ar gyfer y defnyddiwr, gyda chefnogaeth CDPS.

ACC sy’n gweinyddu Treth Trafodiadau Tir. Pan fydd person neu sefydliad yn prynu eiddo neu dir yng Nghymru, maent yn talu treth ar y trafodiad hwnnw. Mae 99% o bobl yn talu’r dreth gywir ar yr amser iawn, ond mae yna nifer fach o bobl sy’n dewis peidio.

Beth wnaethom ni ddarganfod

Mae’r tîm gwasanaeth dyled wedi’i sefydlu i wneud yn siŵr bod y broses adennill dyledion yn syml, yn deg ac yn effeithlon. Yn ystod y cyfnod darganfod, mae'r tîm wedi treulio amser yn archwilio pam nad yw rhai pobl yn talu, beth yw eu hanghenion, a'r cyfleoedd a'r heriau sy’n bodoli gall helpu lleihau'r tebygolrwydd o fod mewn dyled.

Yn ystod y cyfnod darganfod, gwnaeth y tîm dysgu bod: 

  • nifer fach o bobl heb dalu ar amser 
  • mae peidio talu fel arfer yn gamgymeriad, nid yw’n bwrpasol 
  • mae’r mwyafrif o bobl yn talu’n gyflym - o fewn 5 diwrnod o’u hatgoffa 
  • mae cwrsio pobl â llaw iddynt dalu’n cymryd amser, gallwn wneud hyn mewn modd mwy effeithlon - i bawb

Atal, optimeiddio, hysbysu

Mae’r tîm yn y cyfnod “alpha” ar hyn o bryd - cam mewn datblygiad cynnyrch sy’n galluogi timoedd i archwilio beth sy’n bosibl mewn modd diogel, yn ogystal â phrofi eu rhagdybion mwyaf mentrus, a deall y defnyddiwr trwy adeiladu prototeipiau sy’n gweithio.

Mae’r dull sy’n cael ei archwilio yn:

  1. Atal pobl rhag bod mewn dyled yn anfwriadol 
  1. Optimeiddio’r broses o gasglu data fel bod pobl yn treulio llai o amser mewn dyled 
  1. Hysbysu'r awdurdodau cywir am ddyledwyr hirdymor er mwyn sicrhau bod y system casglu dyledion yn effeithlon
 

Adeiladu prototeipiau

Mae’r tîm yn defnyddio dulliau megis meddylfryd Cyflym, a ffyrdd Ystwyth o weithio i brofi eu syniadau, rhagdybion a damcaniaethau. Mae rhai enghreifftiau o sut maent yn gwneud hyn yn cynnwys:

Prototeipio cyfrifiannell dyled syml i brofi a yw'n bosibl cyfrifo'r hyn sy'n ddyledus. A yw'n gywir? A yw'n arbed amser? Dim ond ychydig ddyddiau a gymerodd i'w adeiladu, a hyd yn hyn, mae’n arbed dau funud a hanner fesul trafodiad. Wedi cyfrifo hynny, mae’n arbed cryn dipyn o amser. Mae'r tîm yn ailadrodd ac yn meithrin ymddiriedaeth gyda'u cydweithwyr ac uwch randdeiliaid fel y gallant ei gyflwyno i bawb sydd ei angen yn ACC. 

Mae taliadau symlach yn cael eu profi gan drethdalwyr. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ffordd i drethdalwyr dalu ar-lein neu dros y ffôn. Yn dechnegol, mae hyn yn syml i'w weithredu, ond a fydd trethdalwyr yn ymddiried ynddo ac yn ei ddefnyddio? A yw'r dudalen glanio taliad yn darparu'r holl wybodaeth gywir? A yw'n glir beth i'w wneud nesaf? Mae prototeip syml yn cael ei brofi gyda threthdalwyr a thrawsgludwyr i weld sut maent yn ymateb. 

Mae llythyr atgoffa yn cael ei brofi i weld a yw'n lleihau’r nifer o bobl sy'n cwympo mewn i ddyled yn ddamweiniol. Mae'r tîm yn cynnal prawf A/B - prawf cyfyngedig gyda llond llaw o bobl, a'i gymharu â'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, lle anfonir y llythyr atgoffa ar ddiwrnod 5. 

Cyflenwi fel tîm

Mae'r tîm wedi’i gwneud gan staff Awdurdod Cyllid Cymru ar draws weithrediadau, cyllid, technoleg a mewnwelediad. Mae’r ffyrdd hyn o weithio yn newydd i’r rhan fwyaf ohonynt, mae’n brofiad dysgu i bawb. Ac eto, o fewn 5 wythnos fer, mae'r tîm yn cyflenwi gwerth gan ddefnyddio cyflwyno cynyddrannol i brofi a dysgu. Mae'r tîm yn mwynhau'r ffordd yma o weithio. Maent yn teimlo bod eu huwch-gydweithwyr yn ymddiried ynddynt i fwrw ymlaen, a theimlant ryddid o ganlyniad i'r ymdeimlad o fomentwm.

Y ffordd gorau o ddysgu yw trwy roi’r cyfle i bobl brofi methodolegau Ystwyth neu ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Gwnaeth yr holl dîm mynychu’r cwrs Hanfodion Ystywth (Agile Fundamentals) a gynhaliwyd ar ran CDPS. Fe wnaethom fewnblannu hyfforddwr tîm i ddarparu cefnogaeth ysgafn i'w helpu o ddydd i ddydd. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein gwaith, gadewch sylw neu e-bostiwch ni.

Gwyliwch: Mae Mellissa Quignon-Finch yn trafod sut mae ACC wedi cofleidio ffordd newydd o weithio, a'r canlyniadau positif o ganlyniad i hyn

Darllenwch fwy

Beth ddysgon ni am anghenion ein defnyddwyr? 

Sut y gwnaethom ni ddefnyddio nodiadau wythnosol 

Beth rydym wedi ei ddysgu ar ôl gweithio’n agored 

Beth yw llwyfan data? 

Helpu Awdurdod Cyllid Cymru i ddod yn gwbl ddigidol