Pam Cymuned Ymchwil Defnyddwyr i Gymru

Nododd ein Pennaeth Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr dri phrif amcan ar gyfer ein tîm y llynedd. Un yw “Pobl, Cymunedau a Rhwydweithiau”. Mae’r flaenoriaeth hon yn ymwneud â dod â phobl at ei gilydd i ddysgu, rhannu a gwella’r ffordd yr ydym yn dylunio wrth ganolbwyntio ar y defnyddiwr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn dal i fod yn newydd yn y rhan fwyaf o’r sector cyhoeddus yng Nghymru, felly mae’n bwysig dechrau creu cysylltiadau nawr. Trwy wneud hyn, cawn eu cefnogi i ddylunio mewn modd sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, ac o safon uchel, o’r cychwyn cyntaf.

O brofiad, roeddem yn ymwybodol nad oedd gwerth a buddion ymchwil defnyddwyr wedi’u deall yn dda gan arweinwyr ledled Cymru, ac mai ychydig o ymchwilwyr defnyddwyr a gyflogir yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae cymuned ymarfer yn darparu cefnogaeth i’r rheiny sy’n gweithio mewn maes a rennir i ddatblygu eu sgiliau a gweithio trwy broblemau tebyg, fel arfer o fewn un sefydliad. Ein cenhadaeth yma’n CDPS yw cefnogi pobl ledled Cymru, felly aethom â hyn gam ymhellach a phenderfynu bod angen cymuned ar gyfer y genedl gyfan.

Ymchwil desg

Gwnaethom ymchwil desg i ddysgu am gymunedau presennol, sut maent yn gweithio a siarad â phobl ag oedd eisoes yn rhedeg cymunedau llwyddiannus.

Gweithdai cychwynnol

Darllenais lyfr Emily Webber, Building Successful Communities of Practice, a roddodd sicrwydd i mi fod yna ffordd benodol o gychwyn cymuned. Gan ddefnyddio ei hargymhellion ar gyfer ymarferion, dechreuais gynllunio gweithdy i ateb y cwestiynau hyn:

  • Beth yw pwrpas ein cymuned, neu pam mae angen ein cymuned? 
  • Pa rinweddau ddylai fod gan weledigaeth? 
  • Pa eiriau unigol sy’n disgrifio ein gweledigaeth? 
  • Beth yw ein datganiad gweledigaeth gymunedol? 

Fe wnaethom wahodd cydweithwyr Llywodraeth Cymru a oedd wedi bod yn rhedeg eu cymuned ymchwil defnyddwyr mewnol eu hunain, yn ogystal â chydweithwyr CDPS. Gweithiodd hyn yn dda. Byddwn yn argymell dechrau gyda grŵp cychwynnol bach llawn bobl sy’n deall y cyd-destun ddigon i wneud cyfraniadau defnyddiol. Roedd y gweithdy yn werthfawr iawn ac yn rhoi momentwm a hyder i ni symud ymlaen.

Roedd gennyf hefyd ddau ymchwilydd defnyddiwr newydd (Yana a Tom) yn ymuno â’r tîm ar yr adeg hon, a oedd yn golygu y byddem yn gallu gwneud cynnydd tuag at ein cenhadaeth mewn modd llawer cyflymach a chynaliadwy.

Darganfod anghenion y defnyddiwr

Ar ôl y gweithdy, fe benderfynon ni ddechrau gyda darn diwastraff o waith y cyfnod darganfod, i weld beth oedd anghenion ein defnyddwyr.

Rhannwyd y gwaith mewn i sbrintiau, lle cynhaliwyd ymchwil desg, cyfweliadau, ac arolwg i’n helpu i ddeall pwy oedd ein haelodau, beth oedd ei angen arnynt, a’r dirwedd gymunedol bresennol.

Post-it notes wedi'u trefnu ar wal

Cynllunio sbrint ar gyfer ein hymchwil cyfnod darganfod

Dod o hyd i bobl i'w cyfweld

Nid oeddem yn gwybod i ddechrau pwy fyddai ein darpar aelodau, felly defnyddiwyd sianeli cymdeithasol CDPS, ein cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau personol i ddechrau lledaenu’r gair am ein harolwg. Fe ddefnyddion ni hwn fel sianel i recriwtio ohoni, er mwyn i ni gyfweld â hwy yn hwyrach.

Cynhaliom gyfweliadau â 6 o gyfranogwyr a chawsom 20 ymateb i’r arolwg, gan y rheini mewn rolau ymchwilydd defnyddwyr, ac mewn rolau eraill.

A screenshot of a Twitter message calling for people to join the community

Ein neges cyfryngau cymdeithasol a'n helpodd ni i recriwtio cyfranogwyr ar gyfer ymchwil a chyrraedd darpar aelodau