Ym mis Hydref 2022, gosodais 3 blaenoriaethau ar gyfer dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yma’n CDPS. Mae amser yn hedfan wrth fwynhau – ac mae llawer wedi digwydd ers hynny.
1. Pobl, cymunedau, a rhwydweithiau
Mewn gweithle, mae pobl yn dod at ei gilydd a chwrdd ag eraill mewn sawl ffordd – boed hynny drwy gymuned ymarfer sefydledig, rhwydwaith, gweithgor anffurfiol, neu ran o strwythur ffurfiol.
Adeiladu cymunedau
Mae dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr dal yn newydd ym mwyafrif rhannau sector cyhoeddus Cymru, felly mae’n amser gwych i ystyried sut mae pobl yn cysylltu i rannu, dysgu, a thyfu eu rhwydwaith cyfoedion.
Mae pedwar math o gymunedau. Diffinnir y rhain yn llyfr Emily Webber, ‘Building Successful Communities of Practice.’ Rwyf wedi addasu’r diffiniadau hynny yma:
Cymuned diddordeb
Mae cymunedau diddordeb ar gyfer pobl â diddordebau tebyg sydd eisiau cysylltu ag eraill am bwnc neu angerdd a rennir.
Cymuned ymarfer
Mae cymunedau ymarfer ar gyfer ymarferwyr a phobl sy’n gwneud pethau tebyg – gallai hynny fod yn waith tebyg, tasgau, neu ddatrys problemau mewn ffordd a rennir. Er enghraifft, pawb sy’n rhannu teitl swydd yn cwrdd yn rheolaidd.
Cymunedau gweithredu
Cymuned gweithredu yw pobl sy’n dod at ei gilydd ar gyfer achos neu ddigwyddiad penodol, neu i ddatrys problem a rennir. Mae hon fel arfer yn gymuned tymor byr sy’n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau i gyflawni nod penodol.
Cymunedau lle
Mae llefydd penodol â’r pŵer i ddod â phobl at ei gilydd. Gallai hyn fod oherwydd cyd-gariad at le, neu oherwydd bod pobl yn byw yn yr ardal.
Cymunedau presennol yng Nghymru
Rydym wedi bod yn edrych ar:
- gymunedau ymarfer presennol yng Nghymru
- fel sefydliad, pa gymunedau rydyn ni’n eu cynnig ar hyn o bryd
- cymunedau Cenedlaethol a Rhanbarthol presennol
Fe wnaethom ni hyn i ddeall lle mae dyblygiad a chyfleoedd i wella, a lle mae bylchau.
Yn dilyn yr adolygiad hwn, gwnaethom gyhoeddi rhestr o rwydweithiau a chymunedau ar gyfer ymarferwyr digidol yng Nghymru a ledled llywodraeth y DU.
Yn dilyn yr adolygiad hwn, byddwn yn adeiladu model ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned. Bydd hyn yn sicrhau bod lle i ymarferwyr yn ogystal â’r rhai sydd â diddordeb mewn canolbwyntio ar y defnyddiwr, neu ehangu eu dealltwriaeth ar feddylfryd dylunio.
Bydd lle hefyd i gymunedau gweithredu tymor byr, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, i ddod at ei gilydd a datrys problemau a rennir.
Llenwi’r bylchau
Mae’n rhaid bod yr hyn a wnawn yn CDPS, gyda chydweithwyr yng Nghymru, fod â phwrpas clir ac ychwanegu gwerth – rhaid i ni sicrhau nad oes gorgyffwrdd neu ddyblygu oni bai bod rheswm clir (a da) drosto.
Cymuned ymchwil defnyddwyr
Fe sylwon ni nad oes cymuned i ymchwilwyr defnyddwyr.
Mae ymchwil defnyddwyr dal i fod yn ei ddyddiau cynnar mewn sawl maes o’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw arweinwyr ledled Cymru yn deall y gwerth a’r manteision yn llawn eto, ac mae bwlch mewn sgiliau, gydag ychydig iawn o ymchwilwyr defnyddwyr yn cael eu cyflogi o fewn sector cyhoeddus Cymru. Hefyd, nid oes gan y sefydliadau sy’n dylunio ac yn darparu gwasanaethau, y gallu na’r capasiti i gyflwyno’r ddisgyblaeth.
Bydd y gymuned hon yn gweithio gyda phobl ledled Cymru i lunio beth sydd ei angen yn y gofod hwn. Mae ein hymchwilwyr defnyddwyr (Gabi, Tom, a Yana) yn gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru ac ymchwilwyr eraill ledled Cymru, i ddechrau sgôp a chynllunio’r gymuned hon.
Mathau eraill o gymunedau
Rydym wedi gwneud cynnydd rhyfeddol yn ein cymunedau ymarfer. Mae angen inni edrych ar gymunedau i’r rheiny sydd ddim yn ymarferwyr erbyn hyn, ond sydd â diddordebau neu os yr hoffent ddod at ei gilydd i gyrraedd nod cyffredin.
Pobl
Yn ystod y tri mis diwethaf, rydym wedi tyfu ein tîm dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yma yn CDPS.
Mae sicrhau bod y rhai sy’n rhan o’r sefydliad yn brofiadol ac yn fedrus yn hanfodol i’n helpu i ddatblygu ac arddangos gwerth cynllunio gwasanaethau ac anghenion defnyddwyr o’r cychwyn cyntaf.
Yn ymuno ag Osian, Gabi a minnau, mae:
- Vic Smith, Dylunydd Gwasanaeth
- Liam Collins, Cynllunydd Rhyngweithio
- Adrian Ortega, Cynllunydd Cynnwys
- Yana Blake-Walker, Ymchwilydd Defnyddwyr
- Tom Brame, Ymchwilydd defnyddwyr
2. Offer a fframweithiau
Rydym wedi gwneud cynnydd mawr wrth adeiladu ein ffyrdd mewnol o weithio, a dod ag offer at ei gilydd i wneud dyluniadau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae llawer i’w wneud o hyd, ond mae’n rhaid cropian cyn cerdded…
Hyd yn hyn, rydym wedi:
- sefydlu ein cymuned ymarfer UCD mewnol
- sefydlu llawlyfr newydd ar gyfer dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr i gysoni gweithgaredd ar draws CDPS
- sefydlu proses cyfranogwr ymchwil newydd sydd ar waith
- sefydlu llyfrgell dylunio cynnwys newydd o adnoddau, offer, a gwybodaeth i gefnogi ymarferwyr
- mireinio ôl-groniad o ResearchOps ac wedi blaenoriaethu hyn ar draws y tîm
Rydym yn awyddus i weithio gyda’n cymunedau a’n rhwydweithiau i esblygu, gwella, rhannu, a mesur y gwaith hwn.
3. Gwneud dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn hygyrch i bob swyddog, a phob gwasanaeth ledled Cymru
Rydym wedi bod yn gweithio’n galed ar y flaenoriaeth hon, cynllunio a pharatoi y tu ôl i’r llenni. Rydym yn gyffrous ein bod yn cyflwyno offer ac adnoddau newydd yn fuan iawn.
Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn cynnal sesiynau cinio a dysgu ar ddisgyblaethau a heriau penodol. Rhan o’r sesiynau hyn fydd rhannu tactegau ac adnoddau i’ch helpu i ymarfer dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn eich gwaith, ni waeth ym mha wasanaeth yr ydych yn gweithio.
Yn ogystal â’r sesiynau yma, rydym wedi bod yn gweithio gyda’n tîm cyfathrebu i gynllunio ymgyrch i atal mythau ynghylch dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, ac mae gennym raglen ddigwyddiadau a chyfryngau amrywiol ar gyfer yr ychydig fisoedd nesaf.
Cysylltu â ni
Fel bob amser, gyda’n holl waith yn y tîm dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, rydym wrth ein boddau’n clywed syniadau ac adborth (mae’n grêt cael pob math o adborth!)
Byddem wrth ein boddau’n clywed gennych i’n helpu ar ein taith. Plîs tagiwch ni ar Twitter, anfonwch e-bost atom, neu dewch draw i un o’n sesiynau cymunedol.