Mae CDPS yn bodoli i helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru ac i'n helpu i wneud hyn, rydym yn gweithio gyda thimau i ymgorffori Safonau Gwasanaethau Digidol i Gymru.
Trwy ddefnyddio arferion sydd wedi hen ennill eu plwyf sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac sydd wedi'u datblygu, eu profi a'u gwella, rydym yn sicrhau bod ein gwasanaethau'n gweithio i'r bobl sy'n dibynnu arnynt, yn ogystal â'r timau sy'n eu darparu.
Mae Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru yn ddull lefel uchel o gyfathrebu disgwyliadau ar gyfer holl wasanaethau digidol Cymru. Nid oes un ffordd sy'n gweithio i bawb – dyma pam rydyn ni'n awyddus i helpu arweinwyr a thimau i drafod sut maen nhw'n bodloni'r safonau. Rydym yn dal i ddysgu a gweithio i wneud Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru yn fwy gwerthfawr.
Dyma pam rydym yn ddiolchgar iawn i dîm StatsCymru a Marvell Consulting am y cyfle i adolygu cam alffa gwasanaeth newydd StatsCymru 3, yn erbyn y Safonau Gwasanaethau Digidol ac i helpu'r tîm i symud i ymlaen i'r cam beta.
StatsCymru
Mae gwasanaeth StatsCymru yn llwyfan i gyhoeddi, dadansoddi a lawrlwytho data ystadegol o bob rhan o Gymru. Mae'r tîm yn Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r cyflenwr, Marvell Consulting, i ddatblygu'r cynnyrch newydd. Roedd y tîm amlddisgyblaethol eisiau dangos sut roeddent yn bodloni'r safonau gwasanaeth, a sicrhau eu bod ar y llwybr cywir.
Yr asesiad
Yn y bôn, cynhaliwyd yr asesiad ar ffurf cyfarfod Microsoft Teams. Rhannodd tîm Ymgynghori Marvell a pherchennog y gwasanaeth eu gwaith ar y cam alffa. Roedd hyn yn cynnwys dangos eu hymchwil defnyddwyr i ni, sut maen nhw wedi mapio eu teithiau defnyddwyr, a sut maen nhw wedi gweithio gyda sefydliadau data eraill i benderfynu ar eu penderfyniadau technegol. Trwy gydol hyn, roedd y tîm yn gallu dangos tystiolaeth o fanteision defnyddio methodoleg ystwyth ac arfer da.
Cawsom ddeall bod y tîm wedi gallu ateb ein cwestiynau a rhoi llawer o hyder i ni am y ffyrdd y maen nhw'n gweithio. Dyw bodloni'r safonau, yn enwedig yn ystod y cam alffa, ddim cymaint yn ymwneud â chanfod un ateb cywir ond mwy am allu datrys problemau a diwallu anghenion defnyddwyr.
Gwelsom hefyd ein bod wedi gallu darparu deunydd ategol presennol i gefnogi'r tîm wrth iddynt barhau. Mae'r tîm yn Marvell Consulting yn gyfarwydd iawn ag arfer da ar gyfer gwasanaethau digidol ond mae dau o'r safonau yn unigryw i wasanaethau Cymraeg, felly cawsom sgyrsiau a chyngor gwych i gefnogi'r tîm yn benodol gyda dylunio dwyieithog a diwallu anghenion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gwnaeth yr holl waith hyd yn hyn argraff fawr arnaf, ac roedd yn brofiad gwych i ni yn CDPS allu trafod gwasanaeth go iawn sy'n cael ei ddatblygu gan dîm a chyflenwr mor anhygoel, a gweld pa mor ymarferol a chymhwysol yw'r safonau gwasanaeth.
Cynlluniau a dyheadau'r dyfodol
Gan ystyried yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu, gallwn weld sut y bydd asesiadau gwasanaeth yn offeryn craidd i wneud y cysylltiadau angenrheidiol a rhannu gwybodaeth sy'n datrys problemau. Po fwyaf o amlygrwydd sydd gennym o wasanaethau sy'n cael eu datblygu ledled Cymru, y mwyaf o dystiolaeth sydd gennym ar gyfer yr hyn sy'n gweithio'n dda.
Rydym yn cydnabod bod gwasanaethau'n amrywio'n rhwng prosiectau, o dîm i dîm. Er y gallwn wneud rhagor o waith ar ein prosesau i sicrhau bod ein canlyniadau’n gyson, rydym am gynnal natur ansoddol, sgyrsiol i sut i fynd ati i asesu sut y gall gwasanaeth fodloni'r safon. Wedi'r cyfan, rydym yma i wella gwasanaethau, nid atal mympwy.
Y camau nesaf
Nid yw ein gwaith gyda StatsCymru yn dod i ben yma. Rydym yn parhau i fod yn rhan o fwrdd y prosiect, ac rydym wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda'r tîm i'w cefnogi hyd at y dyddiad y bydd y prosiect yn mynd yn fyw.
Yn y tymor byr, rydym yn chwilio am y ffordd orau o greu cyfleoedd ymysg cymaint o wasanaethau ag y gallwn ni.
Mae gwreiddio'r safonau yn wirioneddol ar draws pob gwasanaeth yng Nghymru yn dasg enfawr, ond yn un fydd yn dod yn haws, os ydym yn rhannu'r hyn a ddysgwn gyda'n gilydd.
Mae CDPS yma i gefnogi a datblygu'r sector cyhoeddus, nid i feirniadu neu i gwestiynu. Yn y pen draw, ein dymuniad yw y bydd y safonau gwasanaethau yn cael eu cefnogi gan yr holl wybodaeth a gweithwyr proffesiynol digidol cysylltiedig sy’n angenrheidiol i ganiatáu i sefydliadau asesu eu hunain naill ai'n fewnol neu gyda'u cyfoedion.
Hyd nes y byddwn yn cyrraedd y cam hwnnw, bydd CDPS yn chwarae ei ran yn cysylltu pobl, arbenigedd ac offer.