Trosolwg 

Rydym yn datblygu llyfrgell patrymau gwasanaeth i Gymru. Bydd yn nodi patrymau y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer mathau cyffredin o wasanaethau digidol, fel bod gwasanaethau'n teimlo'n fwy cyson, cyfarwydd a haws i'w defnyddio yn y Gymraeg a'r Saesneg. 

Rydym eisoes wedi profi'r cysyniad gyda phobl sy'n adeiladu gwasanaethau ar draws sector cyhoeddus Cymru. Yn y gweithdai hynny, defnyddiodd timau y patrymau i fapio gwasanaethau go iawn. Mae hynny'n ein helpu i fireinio'r llif - er enghraifft, newid trefn camau gwasanaethau yn seiliedig ar eu hadborth fel eu bod yn gweithio'n well. 

Y tro hwn, roeddem eisiau symud y tu hwnt i ymarferwyr a phrofi'r patrymau gydag aelodau o'r cyhoedd.  

Y cwestiwn: a yw gwasanaethau wedi'u hadeiladu gyda'r patrymau hyn yn gweithio i'r bobl sydd angen eu defnyddio? 

Yr hyn a wnaethom 

Fe wnaethom greu tri prototeip gwasanaeth gan ddefnyddio'r patrwm archebu/ gwneud apwyntiad ar gyfer meddyg teulu, cyngor a llyfrgell, a'u profi mewn dwy ffordd: 

  • sesiynau manwl (45–60 munud) lle cwblhaodd pobl dair taith wasanaeth mewn trefn ar hap 
  • sesiynau byr (10–15 munud) yn yr Eisteddfod i ddal argraffiadau cyntaf  

Fe wnaethom brofi gyda: 

  • pobl â gwahanol lefelau o hyder digidol 
  • siaradwyr Cymraeg a dysgwyr 
  • cyfranogwyr niwroamrywiol 
  • amrywiaeth o oedrannau, cefndiroedd a lleoliadau 

Fe wnaethon ofyn i bobl drafod ar lafar wrth iddynt ddefnyddio'r gwasanaethau, fel bod cyfle inni weld ble maen nhw'n oedi, beth oedden nhw'n ei ddisgwyl, ac a oedd pethau'n teimlo'n gyfarwydd yr ail neu'r trydydd tro. 

Nid yw hyn yn math nodweddiadol o brofi defnyddioldeb. Nid yn unig rydym yn edrych a yw un gwasanaeth yn gweithio, ond hefyd os yw'r dyluniad ailddefnyddiadwy y tu ôl iddo yn gweithio ar draws gwasanaethau.  

Roedd hynny'n golygu gwahanu materion penodol i'r gwasanaeth o ganfyddiadau lefel patrwm, sy'n cymryd mwy o ofal. 

Yr hyn a ddysgon ni 

Helpodd patrymau i fagu hyder 

Sylwodd cyfranogwyr fod y gwasanaethau yn rhannu strwythur tebyg. Ar ôl iddyn nhw ddefnyddio un, roedd yr un nesaf yn teimlo'n haws ac yn fwy cyfarwydd. 

Ar ôl i chi wneud un ffurflen, byddwch chi'n barod ar gyfer yr ail." - Cyfranogwr 

Os yw pobl yn dod i arfer â gwneud pethau mewn ffordd benodol, yna maen nhw'n haws i'w gwneud dro ar ôl tro." – Cyfranogwr 

Mae hyn yn dangos bod dylunio gwasanaethau yn unol â disgwyliadau pobl yn eu gwneud yn haws i'w defnyddio, ac yn lleihau'r angen am gymorth ychwanegol. 

Profi mewn materion Cymraeg 

Yn yr Eisteddfod, fe wnaethon ni brofi fersiynau Cymraeg o'r prototeipiau. Dywedodd pobl wrthym eu bod yn teimlo'n gyfarwydd ac yn ddefnyddiol, roedd rhai hyd yn oed yn dweud eu bod yn eu hatgoffa o'r gwasanaethau GOV.UK. 

Fe wnaethom hefyd ddysgu bod: 

  • defnyddio Cymraeg Clir  yn bwysig felly mae cynnwys yn gweithio i siaradwyr sy’n rhugl yn y Gymraeg a dysgwyr 
  • mae llawer o ddysgwyr eisiau cael mynediad at wasanaethau yn Gymraeg fel ffordd o ymarfer, sy'n gwneud eglurder yn bwysicach fyth 

Canfyddiadau ar gyfer y llyfrgell batrymau 

Roedd rhai canfyddiadau yn benodol i'r gwasanaethau a brofwyd gennym, ond bydd eraill yn siapio'r llyfrgell batrymau. Er enghraifft, roedd sawl person eisiau manylion cyswllt ar ddechrau a diwedd eu taith.  

Nid yw hynny'n batrwm ynddo'i hun, ond dyma'r math o gyngor y dylai'r llyfrgell ei gynnwys. 

Heriau a wynebwyd gennym 

Roedd rhai heriau a gawsom yn cynnwys:  

  • recriwtio pobl sy'n llai hyderus ar-lein 
  • weithiau nid oedd y prototeip yn ymddwyn fel y disgwylir 
  • nid oedd modd profi gyda defnyddwyr sydd angen technoleg gynorthwyol 

Camau nesaf 

Byddwn yn parhau i brofi mwy o batrymau a mireinio'r llyfrgell. Y nod yw cyhoeddi'r llyfrgell patrwm gwasanaeth yn yr hydref, gyda: 

  • patrymau y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer teithiau gwasanaeth cyffredin 
  • canllawiau wedi'u profi gydag ymarferwyr ac aelodau o'r cyhoedd 
  • enghreifftiau sy'n gweithio'n ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg 

Cysylltu 

Gallwch gymryd rhan, ymuno â'n sesiynau ymchwil, cymryd rhan yn ein gweithdai, a rhannu eich profiad o ddylunio neu ddarparu gwasanaethau. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â: 

  • Mel Gentle, mel.gentle@digitalpublicservices.gov.wales 
  • Liam Collins, liam.collins@digitalpublicservices.gov.wales

Gwyliwch y recordiad o'r sioe dangos a dweud patrymau i ddysgu mwy am y gwaith hwn!