Cefndir
Pan fyddwn yn siarad am 'seilwaith ieithyddol', rydym yn golygu'r adnoddau sy'n ein helpu i ddefnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd, megis geiriaduron neu adnoddau terminoleg. Mae sawl adnodd ar gael ar-lein, ond nid yw bob amser yn amlwg pa un yw'r un mwyaf priodol, a gallwn gael ein hunain yn neidio o un wefan i'r llall i ddod o hyd i air neu term.
Ein syniad oedd creu gwefan ganolog i'w gwneud hi'n haws i bawb wybod pa adnoddau sy'n addas i'w hanghenion a sut i'w defnyddio.
Roedd profi gyda defnyddwyr ar ein gwefan newydd arfaethedig yn rhywbeth yr oeddem am ei wneud, ond nid oeddem yn siŵr sut i fynd ati. Yna dywedodd cydweithiwr wrthym y gallai CDPS ein helpu gyda'r math hwn o beth a'n rhoi mewn cysylltiad â Joanna Goodwin (Pennaeth Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr).
Profi defnyddwyr
Roedd y sesiwn gyntaf gyda Jo wir yn sefyll allan i mi. Er bod gennym y syniad o greu gwefan, gwnaeth Jo i ni fynd yn ôl i'r cychwyn cyntaf a gofyn y cwestiynau sylfaenol fel 'Beth yw'r sefyllfa bresennol gydag adnoddau Cymraeg? Beth yw'r rhwystrau nawr? A pham roedden ni'n meddwl y byddai gwefan yn datrys y problemau hyn. Gwnaeth hyn i mi sylweddoli bod gennym lawer o ragdybiaethau, ac roedd cael persbectif niwtral gan rywun y tu allan i'n tîm yn golygu bod yn rhaid i ni egluro ein syniadau a gweithio o'r dechrau, sy'n ymarfer defnyddiol ynddo'i hun.
Roedd ein sesiwn gyntaf yn ddwy awr o hyd, ond hedfanodd heibio! Gwnaeth y bwrdd Miro a ddefnyddiwyd gennym yn y sesiwn honno argraff fawr arnaf hefyd i nodi a rhannu syniadau.
Eisteddais i mewn ar un o'r sesiynau un-i-un Yana (Ymchwilydd Defnyddiwr) a gwelais y defnyddiwr yn llywio adnoddau ar-lein mewn amser real ar y sgrin. Gwnaeth hyn i mi sylweddoli pam bod profi defnyddwyr mor bwysig. Gallwn ddychmygu popeth, ond nid oes dim yn cymharu â gweld defnyddiwr yn profi'r adnodd mewn sefyllfa fyw.
Yr hyn ddysgais
Un peth a ddysgais o weithio gyda CDPS, a fydd yn bendant yn glynu gyda mi, yw na allwch chi byth gymryd yn ganiataol eich bod chi'n gwybod beth mae pobl eraill yn ei feddwl neu'n ei wneud. Rydym i gyd yn dod o gefndiroedd gwahanol ac yn cael profiadau bywyd gwahanol, ond oni bai eich bod mewn gwirionedd yn gofyn i berson am eu meddyliau neu arferion, peidiwch byth â chymryd yn ganiataol eich bod yn gwybod beth yw eu barn neu sut y byddent yn gweithredu mewn sefyllfa benodol.
Dysgais fwy hefyd o'n cydweithrediad, fel pa mor bwysig yw gofyn y cwestiynau sylfaenol hynny fel 'Beth yw'r broblem?'.
Mae canfyddiadau'r ymchwil wedi newid y ffordd yr ydym yn mynd ati nawr i fynd i'r afael â'r ymarfer cyfan, ac ni fyddem erioed wedi gwned hyn heb CDPS.
Beth sydd nesaf
Mae'r ffordd rydyn ni'n drafftio ein gwefan bellach wedi newid yn llwyr o ganlyniad i ymchwil CDPS gyda rhieni di-Gymraeg. Dangosodd yr ymchwil mai cael yr ateb cywir mor gyflym â phosibl oedd y nod eithaf i'r grŵp hwn o ddefnyddwyr, ac nid oedd y wybodaeth gefndirol yn flaenoriaeth. Rydym wedi trawsnewid y ffordd yr ydym yn drafftio ein tudalennau gwefan yn gyfan gwbl o ganlyniad.
Dyma enghraifft:
Ar lefel ehangach, mae wedi dangos i mi pa mor bwysig yw profi defnyddwyr a'i fod yn werth treulio ychydig o amser yn ei wneud. Mae'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn ceisio ei wneud gyda phrosiectau yn y dyfodol.
Gwnaeth ein sesiynau cyntaf gyda'n gilydd wneud i ni feddwl pam rydyn ni'n gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud ac yn hoelio i lawr yn union baramedrau'r ymchwil. Ar ôl i ni sefydlu y byddai'r ymchwil yn targedu rhieni di-Gymraeg, roedd y sesiynau un-i-un a gynhaliwyd gan Yana yn drawiadol iawn. Mae canfyddiadau'r ymchwil yn mynd y tu hwnt i waith ein tîm a'n gwefan, ac yn cyffwrdd â llawer o feysydd gwaith eraill e.e. addysg ac ysgolion, trosglwyddo iaith a thechnoleg. Cyflwynodd CDPS sesiwn dangos a dweud wych gyda'n hisadran ar ganfyddiadau'r ymchwil, ac rwy'n siŵr bod pawb wedi cymryd rhywbeth i ffwrdd o'r sesiwn honno.
Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda'r tîm yn CDPS - diolch.
– Sara Mitchell, Swyddog Cydlynu Seilwaith Ieithyddol ac Enwau Lleoedd
Myfyriodd Joanna Goodwin, Pennaeth Cyflenwi a Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr, ar y prosiect:
“Rwy'n cyffroi cymaint pan fydd timau'n gweld manteision cyflwyno dyluniad sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr yn eu gwaith. Mae wedi bod yn wych gweithio gyda'r tîm ieithyddol yn Llywodraeth Cymru a bod ar y daith hon gyda nhw. Mae ganddynt brosiectau gwych ac rydym yn gyffrous sut y gallwn eu helpu i sicrhau bod y cynhyrchion hyn yn diwallu anghenion eu cynulleidfa."