8 Mawrth 2023
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (IWD) yn ddiwrnod a gydnabyddir yn fyd-eang sy’n dathlu cyflawniadau menywod ac yn codi ymwybyddiaeth o wahaniaethu. Thema eleni yw #CofleidioCydraddoldeb / EmbraceEquity. Rydyn ni wedi dewis heddiw i lansio ein hadroddiad bwlch cyflog cyntaf, ac wedi gofyn i staff benywaidd rannu sut maen nhw’n teimlo wrth weithio i CDPS ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Mae CDPS wedi’i selio ar wneud pethau’n wahanol. Mae gennym ni Brif Weithredwyr benywaidd, Harriet Green a Myra Hunt. Maent wedi rhannu swydd am y 12 mlynedd diwethaf, ac yn enghreifftiau cryf o sut y gall menywod ar lefel uwch lwyddo. Rydym hefyd yn herio’r normau gyda pholisïau blaengar, fel ein Polisi Mislif a Menopos.
Gyda lansiad ein hadroddiad bwlch cyflog cyntaf erioed, mae Harriet Green yn trafod sut a pham mae CDPS yn croesawu tegwch yn y fideo byr hwn:
Felly, sut mae ein staff benywaidd yn teimlo ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod?
Mae Joanna Goodwin, Pennaeth Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr, yn rhannu ei barn ar fod yn uwch arweinydd benywaidd:
Pan oeddwn yn dechrau teulu, nid oedd unrhyw fodelau rôl na menywod mewn swyddi uwch gyda theuluoedd ifanc. Nid oedd gan lawer o’r merched yr oeddwn yn eu hadnabod teuluoedd, neu dewiswyd cymryd seibiant gyrfa er mwyn magu teulu cyn dychwelyd i’r gwaith i lunio eu llwybr gyrfa. Nid oedd yr opsiynau yma’n gweithio i mi, ond roedd gen i fentor anhygoel ar y pryd (ag oedd yn ddyn) gwnaeth fy helpu drwy fy nghyfnod beichiogrwydd, absenoldeb mamolaeth, a phan ddychwelais i’r gwaith – gwnaeth ei gefnogaeth fy helpu i weithio allan y cydbwysedd hwnnw rhwng magu teulu, bod yn fam bresennol a gweithio.
Yma’n CDPS mae gennym fenywod mewn rolau uwch, gan gynnwys fi, sy’n gweithio oriau hyblyg – dyma’r lle cyntaf i mi weithio lle mae’n teimlo’n fwy na phosibl, ac yn cael ei annog a’i ddathlu.
Gyda llawer o fenywod yn gorfod gwneud y dewis, rwy’n teimlo ein bod wedi dod i’r canlyniad nad oes, o reidrwydd, rhaid i chi ddewis.
Mae Gemma Murphy, Swyddog Cyfathrebu, yn rhannu’r heriau â phrofwyd wrth adeiladu gyrfa tra bod yn fam:
Pan ymunais â CDPS, roeddwn yn brin o hyder ac yn cwestiynu fy hun yn gyson. Doeddwn i ddim yn teimlo’n llwyddiannus fel mam sy’n gweithio. Roeddwn yn ymdrechu i weithio’n galed, ond yn cydbwyso hynny gyda bod yn fam gariadus adref. Roeddwn yn credu bod rhaid i famau sy’n gweithio gwneud dewis: gwaith neu blant.
Mae gweithio yma’n CDPS wedi bod yn chwa o awyr iach. Mae’r polisi gweithio hyblyg yn cael ei annog yn frwd gan uwch aelodau ein tîm, ac am y tro cyntaf yn fy ngyrfa, rydw i wir yn teimlo fy mod i’n ffynnu. Roeddwn yn gallu mynychu sioe Nadolig a mabolgampau fy mab heb yr ofn o deimlo fy mod yn gadael fy nhîm i lawr fel un o’r unig rieni o fewn y sefydliad.
Doeddwn i erioed wedi mynychu cyfarfod am dro o’r blaen, ond nawr maen nhw’n rhan reolaidd o’m hwythnos wrth i mi gerdded yn ôl ac ymlaen i gasglu’r plant o’r ysgol a deialu i mewn i alwadau. Mae CDPS yn bendant yn annog torri’r ‘norm‘.
Mae dilyniant gyrfa yn rhywbeth nad oeddwn wedi ei ystyried mewn gwirionedd, ond mae’r pwyslais ar gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, a dysgu parhaus, yn ysbrydoledig. Rwy’n cael cyfleoedd i siarad yn gyhoeddus mewn digwyddiadau CIPR (dwi erioed wedi bod yn aelod o gorff proffesiynol o’r blaen), a mynd ar gyrsiau roeddwn i arfer breuddwydio amdanynt. Rwy’n teimlo’n ffodus bod gennyf gyflogwr mor gefnogol a chalonogol, ac rwy’n credu’n wirioneddol fod CDPS yn enghraifft wych o gyflogwr teg ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Mae Vic Smith, Dylunydd Gwasanaeth CDPS, yn rhannu pwysigrwydd adeiladu arferion gwaith a fydd yn gwasanaethu cenedlaethau’r dyfodol…
Yn CDPS rydym yn chwalu’r myth bod y gwaith gorau’n cael ei wneud mewn amgylchedd swyddfa rhwng 9 a 5. Fel tîm, rydym yn agored am yr hyn sy’n gweithio’n dda i ni a’n teuluoedd, gan roi ein hiechyd meddwl a chorfforol ar flaen y gâd o fewn ein harferion gwaith.
Mae hyn yn teimlo’n arbennig o bwysig fel mam i ferch yn ei harddegau. Rwyf am fodelu agwedd iach at waith, tra hefyd yn dathlu fy ngyrfa fel ffynhonnell creadigrwydd a boddhad. Rwy’n teimlo’n freintiedig i weithio i sefydliad sy’n hyrwyddo menywod mewn rolau digidol, dylunio ac arwain.
Yng Nghymru, rydym yn falch o fod yn adeiladu cymdeithas a fydd yn gwasanaethu cenedlaethau’r dyfodol, ac yma’n CDPS rydym yn creu glasbrint ar gyfer sut y gall y blynyddoedd o’n blaenau edrych ar gyfer sefydliadau sy’n canolbwyntio ar bobl. Rwy’n obeithiol y bydd ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol byd gwaith yn agwedd gwbl arferol erbyn i’m merch ddod i mewn i’r gweithle.
Mae Poppy Evans, Rheolwr Cyflawni Cysylltiol, yn rhannu pwysigrwydd cael mentoriaid benywaidd yn y gwaith…
Fel menyw sy’n dechrau gyrfa mewn rheoli cyflawni, rwyf wedi fy ysbrydoli gan y cydweithwyr benywaidd sy’n fy amgylchynu yma’n CDPS. Mae cysylltu â menywod sydd wedi profi gyrfaoedd llwyddiannus a diddorol trwy herio norms hanesyddol a thraddodiadol, wedi fy ngalluogi i nodi posibiliadau ac amcanion na fyddwn wedi meddwl yn flaenorol eu bod yn gyraeddadwy nac yn hygyrch i mi. Nid yn unig ydw i’n dod i gysylltiad â’r unigolion hyn, ond rwyf yn cael fy nghefnogi a’m mentora’n uniongyrchol ganddynt. Maent yn rhannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd gyda mi sy’n amhrisiadwy i fy natblygiad proffesiynol. Mae dechrau gyrfa bob amser yn heriol, ond mae cael rhwydwaith cefnogol o gydweithwyr i’ch cynorthwyo ar hyd eich taith yn creu amgylchedd cynhyrchiol ac adeiladol i ddatblygu a phrofi cynnydd, ac rwyf wedi darganfod y rhwydwaith yma’n CDPS ymhlith fy nghydweithwyr benywaidd, ac o fewn y sefydliad ehangach.
Mae Sophie Kyrantonis-Jackson, Cynorthwyydd Gweithredol i’r Prif Weithredwyr, yn rhannu sut mae profiadau menywod yn cael eu dathlu o fewn CDPS
Mae fy mywyd gwaith wedi bod yn un hir ac amrywiol iawn. Dwi wedi profi llawer o wahanol amgylcheddau gwaith, y rhain yn bennaf gyda’r gweithwyr gwrywaidd yn uwch na’r gweithwyr benywaidd, a chyda thuedd cyflog sylweddol rhwng y rhywiau. Roedd y tuedd yma’n amlwg o blaid y gweithwyr gwrywaidd. Er gwaethaf cymwysterau cyfartal, roedd menywod bob amser yn cael eu trin yn “llai na nhw.” Sylwais y newid cadarnhaol cyntaf yn y 2000au cynnar, tra’r oeddwn yn gweithio i gwmni llwyddiannus byd-eang ag oedd yn gwerthfawrogi eu gweithwyr benywaidd am eu mewnbwn a’u gwaith, ac yn ôl y cyflog a dalwyd iddynt. Yn amlwg, roedd bwlch o hyd, ond roedd yn lleihau.
Wrth symud ymlaen at heddiw, lle’r wyf yn gweithio i CDPS, mae wedi bod yn bleser gweld sut mae’r holl dîm yn cael eu trin yn gyfartal. Mae yna gyfoeth o brofiad i bawb ei ddefnyddio o blith y merched anhygoel sy’n rhan o’r sefydliad, gyda phob un ohonynt yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad i’r gwaith anhygoel y mae CDPS yn ei wneud. Mae’n bleser bod yn rhan o sefydliad sydd mor amlwg yn edmygu’r hyn y gall menywod ei gynnig i’r gweithle, ac sy’n ein trîn ni i gyd â pharch a chydnabyddiaeth.
Mae Alaw John, Cyfieithydd y Gymraeg yma’n CDPS, yn sôn am y pwysau sydd ar ysgwyddau ifanc, wrth ddechrau ar yrfa mewn byd sy’n ffafrio dynion...
Fel menyw newydd raddio, roedd y syniad o ddechrau ar fy ngyrfa wir yn rhywbeth ag oedd yn achosi chwys. Astudiais newyddiaduraeth yn y brifysgol ac wedi mwynhau pob eiliad. Ond, doedd gen i ddim syniad i ba gyfeiriad roeddwn i eisiau camu yn y byd go iawn – ym myd bygythiol gwaith! Dyna bryd ces i’r cyfle ymgeisio am swydd cyfieithu yma’n CDPS.
Dwi’n aml yn cymharu’r sefydliad ag angel gwarcheidiol. Pan roeddwn yn teimlo ar goll mewn byd mor fawr, gwnaeth y sefydliad gafael yndda i gyda dwy law, a’m gwneud i deimlo’n gyfforddus ac yn gartrefol o’r cychwyn cyntaf. Ers i mi ddechrau nôl ym mis Awst, ces i fy nghroesawu gan bawb, fy herio â darnau mawr o waith, ac roeddent yn gwerthfawrogi fy mewnbwn ym mhob cyfarfod. Profwyd eu bod yn ymddiried ynof, yn syth o’r dechrau. Dwi erioed wedi profi gwerthfawrogiad na pharch tebyg.
Mewn byd sydd mor amlwg yn ffafrio dynion, mae dechrau ar yrfa i fenywod ifanc o hyd yn frawychus. Mae CDPS wedi profi i mi fod angen creu newid, mae’n bryd i sefydliadau eraill agor eu llygaid i’r byd yr ydym yn byw ynddo heddiw. Dwi’n aml yn siarad â ffrindiau sydd newydd ddechrau ar eu gyrfaoedd, ac mae’n amlwg eu bod yn edmygu’r sefydliad rydw i’n gweithio iddi, gan fod CDPS sawl cam o flaen eu cwmni nhw. Pob dydd, dwi’n dod ar draws reswm newydd i werthfawrogi fy rôl yma’n CDPS, ac yn cyfri fy hun yn lwcus tu hwnt i fod yn rhan o sefydliad mor flaengar a chefnogol.