Helô! Alex Kegie ydw i, sylfaenydd Nurologik, ar genhadaeth i hyrwyddo niwrogynhwysiant mewn digwyddiadau a thu hwnt. Fel unigolyn awtistig sydd â sensitifrwydd synhwyraidd, dwi’n aml wedi bod mewn amgylcheddau a oedd yn teimlo'n llethol. Trwy brofiadau byw ac ymwybyddiaeth o les fel person cymorth cyntaf iechyd meddwl, dwi wedi ymroi fy hun i greu gofodau sy'n darparu ar gyfer y rhai sydd â niwrowahaniaeth neu ddim.
Yn Nurologik, rydyn ni'n deall pwysigrwydd cydnabod a darparu ar gyfer pob un o'r wyth synnwyr. Mae ein hymagwedd yn pwysleisio ar greu amgylcheddau sy'n parchu anghenion synhwyraidd amrywiol, gan feithrin cynwysoldeb i bawb.
Roeddwn i wrth fy modd bod Nurologik wedi cael gwahoddiad i greu gofod synhwyraidd y NuroCove, yn yr Hacathon Cymunedau Ymarfer a gynhaliwyd gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol mewn cydweithrediad â Cwmpas yn sbarc|spark, Caerdydd.
Sefydlu
Bu’n rhaid gosod y NuroCove yn gyflym a than bwysau, ond cefais sawl cynnig caredig o help ac fe wnaethon ni fwrw ati i sicrhau bod yr ystafell i gyd yn barod ar gyfer y cynadleddwyr. Diolch o galon i bawb a helpodd ar y diwrnod!
Y NuroCove
Roedd y NuroCove yn cynnwys dodrefn meddal, goleuadau tawel, ac amrywiaeth o gymhorthion hunanreoleiddio fel teganau, clustffonau canslo sŵn, blancedi pwysol a mwy.
Derbyniodd Nurologik adborth hynod gadarnhaol.
Derbyniodd y NuroCove lif cyson o ymwelwyr trwy gydol y dydd. Rhai allan o chwilfrydedd, rhai allan o reidrwydd. Roedd yn galonogol iawn gweld ymwelwyr yn defnyddio’r gofod fel y bwriadwyd, gan gynnwys y rhai a gafodd seibiant yn y NuroCave – pabell blacowt fach wedi’i llenwi â mat meddal i orwedd arni a chlustogau er cysur.
Yn ogystal, cynhaliwyd gweithgareddau difyr i'r rhai oedd angen mwy o ysgogiad i ymlacio. O grosiet a gwyddbwyll i liwio a phosau jig-so, mae Nurologik yn ymdrechu i ddarparu opsiynau amrywiol i gefnogi lles ymwelwyr NuroCove.
Beth nesaf i Nurologik?
Yn unol ag ethos y digwyddiad a’m credoau personol fy hun, roeddwn i’n arbennig o hapus i adael gyda syniadau newydd i ddatblygu’r gofod ymhellach ar ôl siarad ag ymwelwyr â’r NuroCove trwy gydol y dydd. Roedd yn bleser cyfarfod â phobl o'r un anian nad oedd angen eu hargyhoeddi bod cymaint o angen 'mannau diogel'. Dwi’n edrych ymlaen yn arbennig at wneud newidiadau i’r gofod gweddïo ar ôl cael adborth gwych gan Sam Ali, Ymgynghorydd Rhaglenni Digidol ac Aelod Anweithredol o’r Bwrdd ar gyfer y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
Diolch yn fawr i bawb a roddodd awgrymiadau am welliant. Gwerthfawrogir eich cymorth yn fawr iawn.
Dwi’n eich gwahodd chi i gyd i ymuno â mi i gofleidio niwrogynhwysiant, trwy feithrin amgylcheddau lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu. Gyda'n gilydd, gallwn feithrin gofodau sy'n dathlu’r cyfoeth o amrywiaeth ddynol sydd gennym.